Man on tablet looking at bills

Ofcom yn gwahardd codi prisiau sy’n gysylltiedig â chwyddiant ar ganol contract

Cyhoeddwyd: 19 Gorffennaf 2024

Rhaid rhoi gwybod i gwsmeriaid telegyfathrebiadau ymlaen llaw mewn punnoedd a cheiniogau am unrhyw gynnydd mewn prisiau y mae eu darparwr yn ei gynnwys yn eu contract, o dan reolau diogelu defnyddwyr newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o brif gwmnïau ffôn, teledu-drwy-dalu a band eang yn y DU wedi newid telerau eu contractau i gynnwys cynnydd mewn prisiau sy’n gysylltiedig â chyfraddau chwyddiant yn y dyfodol. 

Mae hyn yn gadael cwsmeriaid heb ddigon o sicrwydd ac eglurder ynghylch y prisiau y byddant yn eu talu, ac yn ysgwyddo’r risg a’r baich annheg o ansicrwydd ariannol o ganlyniad i chwyddiant. Mae hyn yn rhywbeth na all pobl ei ragweld na’i ddeall yn dda. Felly, rydyn ni wedi penderfynu gwahardd yr arfer hwn. 

O dan reolau newydd Ofcom a gyhoeddwyd heddiw, bydd angen i unrhyw gynnydd mewn prisiau a fydd yn cael ei gynnwys mewn contract cwsmer o fis Ionawr 2025 ymlaen gael ei nodi mewn punnoedd a cheiniogau, yn amlwg ac yn dryloyw, ar adeg gwerthu; a bydd angen i ddarparwyr fod yn glir ynghylch pryd y bydd unrhyw newidiadau i brisiau yn dod i rym.

Enghraifft o sut bydd y gofyniad £/c yn berthnasol

Graphic showing how our proposed rule changes may change how information is presented on a providers website comparing before the rule changes (price variation terms set out as a footnote using the CPI+3.9% format); to after the proposed rule changes. The after example used states: “Monthly subscription price:  £30.00 until 31 March 2025" and underneath "Increasing to: £31.50 on 1 April 2025" and "£33.00 on 1 April 2026”.

Gyda chyllidebau aelwydydd yn cael eu gwasgu, mae angen i bobl gael sicrwydd ynghylch eu gwariant misol. Ond mae hynny’n amhosibl os ydych chi wedi ymrwymo i gontract lle gallai’r pris newid yn seiliedig ar chwyddiant yn y dyfodol, sydd mor anodd ei ragweld. 

Rydyn ni’n gweithredu ar ran cwsmeriaid ffôn, teledu-drwy-dalu a band eang i roi diwedd ar yr arfer hwn, er mwyn i bobl allu bod yn sicr o’r pris y byddant yn ei dalu, cymharu bargeinion yn haws a manteisio ar y farchnad gystadleuol sydd gennym yn y DU.

Dywedodd Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Polisïau Telegyfathrebiadau Ofcom  

Cystadleuaeth yn helpu i gadw prisiau’n isel

Dros y pum mlynedd diwethaf mae’r prisiau, ar gyfartaledd, ar gyfer gwasanaethau band eang a symudol yn y DU wedi gostwng mewn termau real. Ar yr un pryd, mae cwmnïau wedi bod yn buddsoddi mewn uwchraddio eu rhwydweithiau, gydag argaeledd ffeibr llawn yn cynyddu ddeg gwaith, a chyflymder cyfartalog a defnydd data yn dyblu.[1] 

Y rheswm am hyn yw bod marchnadoedd telegyfathrebiadau y DU mor gystadleuol, gyda darparwyr yn gosod eu prisiau eu hunain. Gall cwsmeriaid ddewis o amrywiaeth o wahanol fathau o becynnau, ac mae sawl darparwr yn cynnig contractau pris penodol.

Gwaith Ofcom yw gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn gallu siopa o gwmpas yn hyderus a manteisio ar hyn. O dan ein rheolau presennol – a gafodd eu cryfhau gennym yn 2022 – os yw darparwyr yn nodi ar y cychwyn yn y contract fod prisiau’n codi, rhaid iddynt ddangos hyn yn glir cyn i gwsmeriaid ymrwymo. Os nad ydynt yn gwneud hyn, rhaid iddynt roi mis o rybudd i gwsmeriaid a rhoi’r hawl iddynt adael heb gosb pan fyddant yn codi prisiau ar ganol contract. 

Adolygiad o gynnydd mewn prisiau sy’n gysylltiedig â chwyddiant

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o ddarparwyr wedi bod yn cynnwys cynnydd blynyddol mewn prisiau yn eu contractau sy’n gysylltiedig â chwyddiant yn y dyfodol, sy’n anodd iawn ei ragweld. Mae canran ychwanegol – 3.9% fel arfer – yn cael ei chynnwys fel rhan o’r cynnydd hefyd, sy’n dod i rym bob mis Mawrth neu fis Ebrill. 

O fis Ebrill 2024 ymlaen, rydyn ni’n amcangyfrif bod tua chwech o bob deg cwsmer band eang a symudol yn rhai sydd ar gontractau sy’n destun cynnydd mewn prisiau sy’n gysylltiedig â chwyddiant. 

Rydyn ni wedi bod yn poeni bod hyn yn ei gwneud yn anodd i gwsmeriaid wybod faint y byddant yn ei dalu dros gyfnod eu contract. Felly y llynedd, fe wnaethom adolygu’r arferion prisio hyn a chynnig gwahardd hynny, ar ôl i’n hymchwil ymysg defnyddwyr ganfod nad oes llawer o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r termau hyn. 

Ein canfyddiadau

Mae mwy na hanner y cwsmeriaid band eang (55%) a chwsmeriaid symudol sy’n talu bob mis (58%) yn ansicr o beth yw’r cyfraddau chwyddiant, fel mesur RPI a CPI. Ac o’r rheini sydd â darparwyr sy’n codi eu prisiau yn gysylltiedig â chwyddiant, ychydig iawn o gwsmeriaid band eang (16%) neu gwsmeriaid symudol (12%) oedd yn ymwybodol o’r cynnydd mewn prisiau yn ogystal ag yn gallu nodi bod y cynnydd hwnnw’n gysylltiedig â chwyddiant gyda chanran ychwanegol.[2] 

Hyd yn oed pan fydd pobl yn ystyried cynnydd mewn prisiau sy’n gysylltiedig â chwyddiant yn y dyfodol wrth ddewis contract, gwelsom hefyd nad ydynt yn aml yn deall y cynnydd hwnnw’n llwyr a’u bod yn ei chael yn anodd amcangyfrif yr effaith y gallai hynny ei gael ar eu taliadau.

Rheolau llymach o fis Ionawr ymlaen

O 17 Ionawr 2025 ymlaen, bydd darparwyr ffôn, teledu-drwy-dalu a band eang yn cael eu gwahardd rhag cynnwys telerau codi prisiau sy’n gysylltiedig â chwyddiant, neu sy’n seiliedig ar ganran, ym mhob contract newydd. Mae hyn yn golygu y bydd defnyddwyr yn gallu ymrwymo i gontractau sy’n cynnwys gwybodaeth am £/p cyn i’r prisiau blynyddol godi yn 2025. 

Mae rhai darparwyr angen yr amser hwn i wneud y newidiadau angenrheidiol i’w prosesau a’u cynlluniau busnes. Fodd bynnag, bydd darparwyr eraill yn gallu gwneud hyn yn gynt, a does dim rhaid iddynt aros tan y dyddiad cau. Yn wir, mae BT a Vodafone eisoes wedi newid eu harferion prisio i ymateb i’n hymgynghoriad.  


Nodiadau i olygyddion

  1. Marchnadoedd telegyfathrebiadau’r DU dros y pum mlynedd diwethaf (prisiau 2023):

    2018 2023

    Prif sylfaenol cyfartalog bwndel band eang cyflym iawn  

    £48.71

    £42.28

    Prif cyfartalog misol ffôn symudol, ac eithrio costau’r ddyfais

    £17.12

    £11.51

    Argaeledd band eang ffeibr llawn

    6%

    57%

    Cyflymder canolrifol cyfartalog lawrlwytho band eang sefydlog

    37.0 Mbit yr eiliad

    69.4 Mbit yr eiliad

    Defnydd cyfartalog misol o ddata band eang sefydlog mewn cartrefi

    240 GB

    535 GB

    Defnydd data symudol misol cyfartalog

    3.4 GB

    9.8 GB

  2. Cafodd samplau cynrychioliadol cenedlaethol o oedolion 16 oed a hŷn yn y DU eu harolygu ym mis Ionawr 2023 (4,213) a mis Hydref 2023 (4,232).
Yn ôl i'r brig