Bydd cwsmeriaid ffonau symudol y DU yn cael fwy o amddiffyniad rhag costau crwydro annisgwyl wrth ddefnyddio eu ffôn dramor a gartref o dan reolau newydd gan Ofcom sy’n dod i rym heddiw.
Ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, daeth rheolau ‘crwydro fel petaech chi gartref’ yr UE i ben, yn ogystal â chyfraith y DU a oedd yn mynnu bod gweithredwyr symudol yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am ffioedd crwydro wrth iddynt ddechrau defnyddio’r gwasanaethau hynny. Er hynny, mae llawer o weithredwyr wedi parhau’n wirfoddol i anfon hysbysiadau at eu cwsmeriaid.
I wneud yn siŵr bod pob cwsmer symudol yn cael y wybodaeth angenrheidiol – ar yr adeg gywir – mae rheolau newydd Ofcom o heddiw ymlaen yn golygu bod rhaid i ddarparwyr symudol roi gwybod i gwsmeriaid pan fyddant yn dechrau crwydro.
Rhaid i ddarparwyr hefyd ddarparu gwybodaeth glir, am ddim er mwyn i gwsmeriaid allu penderfynu'r naill ffordd neu’r llall a ydynt am ddefnyddio eu ffôn symudol dramor - a sut i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cwsmeriaid yn deall unrhyw ffioedd crwydro, gan gynnwys:
- unrhyw gyfyngiadau defnydd teg neu derfynau amser sy’n berthnasol;
- rhoi gwybod bod modd gosod cap gwario i gyfyngu ar wariant; a
- ble i ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol am grwydro.
Crwydro anfwriadol
Ar ben hynny, bydd y mesurau sy’n dod i rym heddiw yn golygu y bydd cwsmeriaid yn cael gwybod os ydyn nhw’n crwydro’n anfwriadol. Nawr, rhaid i ddarparwyr:
- darparu gwybodaeth glir, ddealladwy a chywir i gwsmeriaid am sut i osgoi crwydro anfwriadol y tu mewn a’r tu allan i’r DU, yn enwedig mewn rhanbarthau ar y ffin. Gallai hyn gynnwys rhybuddio cwsmeriaid yn rhagweithiol am y tebygolrwydd o grwydro anfwriadol mewn ardaloedd lle mae hyn yn digwydd yn aml; a
- rhoi mesurau ar waith i alluogi cwsmeriaid i leihau neu gyfyngu ar eu gwariant ar wasanaethau crwydro yn y DU. Gallai hyn gynnwys trin y defnydd o ffonau symudol yn Iwerddon yr un fath ag yn y DU.