Woman on the phone on the beach (Hero) (1336 × 560px)

Sut ydych chi’n amddiffyn eich hun rhag taliadau symudol annisgwyl ar wyliau?

Cyhoeddwyd: 18 Hydref 2024

A hithau bron yn wyliau hanner tymor olaf y flwyddyn, bydd llawer o bobl yn meddwl am gael gwyliau tramor i ddianc rhag tymheredd yr hydref gartref.

A gan fod y rhan fwyaf ohonom yn mynd â’n ffonau symudol gyda ni pan fyddwn yn teithio, mae hi’n bwysig meddwl am unrhyw gostau ychwanegol y gallech eu hwynebu wrth ddefnyddio eich ffôn dramor.

Mae rheolau Ofcom newydd yn golygu y bydd defnyddwyr ffonau symudol o’r Deyrnas Unedig yn cael eu diogelu’n well rhag costau crwydro annisgwyl wrth ddefnyddio eu ffôn dramor a gartref. Mae nawr angen i ddarparwyr symudol roi gwybod i gwsmeriaid pan fyddant yn dechrau crwydro, a rhaid iddynt roi gwybodaeth i helpu cwsmeriaid i benderfynu a ydynt am ddefnyddio eu ffôn dramor ai peidio – gan gynnwys egluro unrhyw gostau posibl.

Felly, fe wnaethom ofyn i bobl sut maen nhw’n defnyddio eu ffôn symudol pan fyddan nhw dramor, i gael gwybod sut maen nhw fel arfer yn paratoi am daith dramor, a sut gallai’r newidiadau diweddar i reolau eu helpu.

Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud

Dywedodd bron i naw ymhob deg 0 bobl a holwyd y byddan nhw’n mynd â’u ffôn symudol gyda nhw ar eu gwyliau nesaf. Roedd ein canfyddiadau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd paratoi cyn i chi deithio, gydag un o bob deg yn dweud wrthym eu bod wedi rhedeg allan o ddata ar eu gwyliau diwethaf neu eu bod wedi cael bil symudol uwch na’r disgwyl.

Dywedodd mwy na hanner y bobl - 53% - eu bod yn edrych ar eu cynllun symudol cyn teithio dramor, a dywedodd 17% mai anaml os o gwbl y byddant yn edrych i weld faint y bydd yn ei gostio iddyn nhw grwydro dramor.

Un ffordd o osgoi costau ychwanegol yw prynu SIM symudol i’w ddefnyddio dramor. Fodd bynnag, dim ond un o bob deg ddywedodd wrthym eu bod yn gwneud hyn.

Diolch byth, mae rhai pobl yn cymryd camau i osgoi taliadau ychwanegol am ddefnyddio eu ffonau symudol. Er enghraifft, dywedodd treang o’r bobl a holwyd eu bod yn gwneud llai o alwadau neu’n anfon llai o negeseuon testun, neu ddim o gwbl, pan fyddan nhw dramor. A dywedodd treang eu bod yn llwytho ffilmiau a chynnwys i lawr i’w gwylio neu wrando arnyn nhw tra byddan nhw ar eu gwyliau dramor, sy’n ffordd o osgoi defnyddio lot o ddata symudol wrth deithio.

A dywedodd bron i un o bob tri eu bod yn prynu bargen crwydro gan eu darparwr, neu’n rhoi cap gwario ar eu cynllun crwydro dros gyfnod eu taith dramor I deithwyr gyda phlant, mae'n bwysig cadw llygad ar eu defnydd o ffonau symudol hefyd, er mwyn osgoi unrhyw gostau annisgwyl pan fyddwch yn cyrraedd adref.

Yn ôl i'r brig