Yn ddiweddar, mae Ofcom wedi cyhoeddi ymchwil sy’n edrych ar brofiadau cwsmeriaid telegyfathrebiadau ac ar yr wybodaeth y maent yn ei chael gan eu darparwyr am gymorth dyledion. Roedd yr ymchwil yn archwilio a oedd cwsmeriaid wedi mynd i ddyled telegyfathrebiadau yn 2023 (h.y. wedi methu un neu fwy o daliadau i’w darparwr telegyfathrebiadau rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd) yn ogystal â ble roeddent yn chwilio, neu ble byddent yn debygol o chwilio, am wybodaeth am gymorth (os nad oedd ganddynt unrhyw brofiad diweddar o ddyled telegyfathrebiadau). Hefyd, yn unol â’r mesurau yn ein canllaw ar drin cwsmeriaid agored i niwed yn deg (PDF, 774.8 KB), roedd yr ymchwil yn ystyried a allai’r cwsmeriaid hyn ddod o hyd i wybodaeth am gymorth gan eu darparwr ac, yn yr achosion hynny lle roeddent wedi cysylltu â’u darparwyr, pa sianel gyfathrebu roeddent wedi’i defnyddio.