telecoms-debt-advice-web

Cwsmeriaid telegyfathrebiadau yn troi at eu darparwyr am gyngor ar ddyledion

Cyhoeddwyd: 17 Mai 2024

Mae pedwar o bob pum cwsmer telegyfathrebiadau sy’n chwilio am wybodaeth am gymorth gyda dyled yn troi at eu darparwr am hynny, yn, ôlymchwil newydd gan Ofcom indicates.

Mae Ofcom yn cadw llygad barcud ar lefelau dyled yn y farchnad telegyfathrebiadau yn y DU ac yn monitro sut mae cwsmeriaid bregus yn cael eu trin gan ddarparwyr. Y llynedd, dangosodd ein data bod ychydig dros 2% o gwsmeriaid wedi methu un taliad o leiaf, a bod llai nag 1% wedi methu dau daliad neu fwy.

Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn dangos bod mwy na phedwar o bob pump (83%) o’r rheini a oedd wedi chwilio am wybodaeth am gymorth gyda dyledion wedi troi at eu darparwr am hynny. Roedd y rheini a oedd wedi chwilio am wybodaeth am gymorth gan eu darparwr fel arfer yn gallu dod o hyd i wybodaeth o’r fath.

Hefyd, pan wnaethom ofyn i bobl nad oedd wedi methu taliad yn 2023 ble y byddent yn meddwl mynd i chwilio am wybodaeth am gymorth gyda dyledion os oeddynt yn ei chael yn anodd talu, y ffynonellau mwyaf poblogaidd i droi atynt am gyngor oedd eu darparwyr (48%), ffrindiau a theulu (32%) ac elusen/sefydliad sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion (22%).

Fodd bynnag, gyda dim ond tua hanner (53%) y rheini oedd wedi mynd i ddyled telegyfathrebiadau y llynedd yn gallu cofio cael gwybodaeth gan eu darparwr am gymorth gyda dyled, efallai bod hyn yn awgrymu nad yw cyfathrebu darparwyr â chwsmeriaid am gymorth gyda dyledion pan fydd cwsmer yn methu taliad mor effeithiol ag y gallai fod.

O dan ein rheolau ni, mae’n rhaid i ddarparwyr gael polisïau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod cwsmeriaid bregus yn cael eu trin yn deg, gan gynnwys y rheini sy’n wynebu anawsterau ariannol. Cyn hyn rydym wedi llunio canllawiau ynghyd ag enghreifftiau o arfer gorau sy’n awgrymu sut dylid trin cwsmeriaid bregus, gan gynnwys pobl sydd ar ei hôl hi â’u biliau.

Pan fydd hyn yn digwydd, byddem yn disgwyl i ddarparwyr wneud y canlynol:

  • pwysleisio’r gefnogaeth y maent yn ei chynnig i gwsmeriaid sydd mewn dyled;
  • rhoi amser i gwsmeriaid gael cymorth a chefnogaeth, heb fygwth eu datgysylltu yn ystod y cyfnod hwnnw;
  • ystyried amgylchiadau unigol y cwsmer pan fo hynny’n briodol;
  • ystyried cynnig gwyliau talu neu ohirio taliadau, neu rewi ffioedd a thaliadau ychwanegol;
  • trafod cynllun ad-dalu realistig, rhesymol a hyblyg;
  • cynnig cyngor ar dariffau, boed hynny ar gyfer newid i dariff rhatach neu dariff cymdeithasol; a
  • cyfeirio cwsmeriaid at sefydliadau neu elusennau dyled sy’n gallu rhoi cyngor a chefnogaeth am ddim.

Y mis diwethaf, roedd Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU wedi cyhoeddi gwybodaeth i helpu pobl a allai fod angen cymorth ychwanegol yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus. Ein cyngor i gwsmeriaid sy'n cael trafferth talu eu bil yw siarad â’ch darparwr cyn gynted â phosib – efallai y byddant yn gallu helpu.

Yn ôl i'r brig