Gwasanaethau cyfathrebiadau i bobl anabl

Cyhoeddwyd: 14 Mehefin 2023

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cyfathrebu ddarparu amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi'u cynllunio er budd pobl anabl, gan gynnwys:

  • mynediad at wasanaeth cyfnewid testun 'cenhedlaeth nesaf' cymeradwy ar gyfer galwadau i bobl sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd, gyda thariffau arbennig i ddigolledu cwsmeriaid anabl am yr amser ychwanegol y mae'r galwadau hyn yn ei gymryd.  Gellir cyrchu cyfnewid testun cenhedlaeth nesaf o offer prif ffrwd megis cyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar yn ogystal ag o ffonau testun. I gael gwybod mwy am y gwasanaeth hwn, ewch i RelayUK neu gweler canllaw defnyddwyr Ofcom.
  • mynediad at wasanaeth cyfnewid fideo brys cymeradwy ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) byddar. Gellir cael mynediad at y gwasanaeth hwn o unrhyw ddyfais gysylltiedig, megis PC, tabled neu ffôn clyfar, trwy wefan 999BSL neu ap 999BSL. Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac mae'r data a ddefnyddir ar gyfer yr alwad ar gyfradd sero. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan 999BSL.
  • mynediad at SMS brys (symudol yn unig) trwy ddefnyddio'r rhifau galwadau brys "112" a "999" heb unrhyw dâl am bobl sydd â nam ar eu clyw neu leferydd y mae angen iddynt gysylltu â'r gwasanaethau brys.  I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, tecstiwch 'register' i 999 neu 112.  Dim ond tua munud y mae cofrestru'n ei gymryd, felly mae'n bosib cofrestru mewn argyfwng, ond argymhellir cofrestru ymlaen llaw yn gryf. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i RelayUK.
  • mynediad at ymholiadau cyfeiriadur am ddim gyda chysylltiad galwadau trwodd ar gyfer pobl na allant ddefnyddio cyfeirlyfr printiedig oherwydd anabledd.
  • blaenoriaeth wrth drwsio diffygion (llinell dir a band eang ond nid symudol) ar gyfer unrhyw un anabl sydd angen gwaith atgyweirio gwirioneddol ar frys. Mae'n rhaid i daliadau am hyn beidio â bod yn fwy na thâl safonol y darparwr am wasanaeth trwsio diffyg.
  • rheoli bil trydydd parti ar gyfer unrhyw gwsmer anabl, gan alluogi ffrind neu berthynas enwebedig i weithredu ar eu rhan o ran rheoli biliau.
  • cyfathrebiadau sy'n ymwneud â gwasanaethau cyfathrebu mewn fformat rhesymol dderbyniol megis print mawr a Braille. Mae hyn ar gais gan gwsmer sydd angen y fath fformat oherwydd eu hanabledd.

Mae Erthyglau i'r Deillion Articles for the Blind sef gwasanaeth post am ddim i bobl ddall ac â nam ar eu golwg y mae'n rhaid i'r Post Brenhinol eu darparu sy'n hepgor yr holl gostau danfon:

  • Llyfrau, deunyddiau printiedig, llythyrau, mapiau cerfwedd
  • Cyfryngau sain ac electronig
  • Offer megis chwyddwydrau a chymhorthion symudedd.

Mae angen i chi gofrestru ymlaen llaw ar gyfer rhai o'r gwasanaethau hyn – cysylltwch â'ch darparwr cyfathrebu neu'r Post Brenhinol am wybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn. Mae'n ofynnol i ddarparwyr cyfathrebu roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl anabl.

Mae Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU (UKRN) hefyd wedi cyhoeddicyngor ynghylch y cymorth ychwanegol sydd ar gael i bobl hŷn, sâl, neu anabl wrth ddefnyddio gwasanaethau megis nwy, trydan, dŵr, ffonau a chludiant cyhoeddus.

Erbyn hyn gall defnyddwyr BSL byddar ffonio'r gwasanaethau brys yn eu hiaith gyntaf.

Mae Ofcom wedi mynnu bod cwmnïau telathrebu'n darparu cyfnewid fideo brys yn y DU. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig byddar gael yr help sydd ei angen arnynt, fel yr heddlu, ambiwlans neu frigâd dân, mewn argyfwng.

Bydd cyfnewid testun brys a SMS brys yn parhau i fod ar gael ochr yn ochr â chyfnewid fideo brys.

Hoffem ddiolch i'r bobl fyddar sydd wedi ymgyrchu dros y newid hwn, ac sydd wedi rhoi cyngor i Ofcom.

I ddefnyddio cyfnewid fideo brys, bydd angen dyfais gysylltiedig arnoch fel ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur. Gellir cael mynediad i gyfnewid fideo brys drwy wefan benodedig neu'r ap 999BSL. Lawrlwythwch yr ap 999BSL i'ch ffôn neu lechen, ac anogwch eich ffrindiau a theulu byddar i wneud yr un peth. Cyfeiriad y wefan yw 999bsl.co.uk.

Pum peth allweddol am gyfnewid fideo brys:

  1. Ar gael 24 awr y dydd
  2. Am ddim i'w ddefnyddio
  3. Mae'r gwasanaethau brys yn trin galwadau BSL 999 yn yr un modd yn union â galwadau llais 999 - mae ganddynt yr un flaenoriaeth ac yn cael eu hateb gan yr un staff yn yr ystafell argyfwng.
  4. Yn yr un modd yn union â galwadau llais 999, darperir eich lleoliad fel arfer i'r gwasanaethau brys
  5. Mae'r staff yn ddehonglwyr cymwysedig a phrofiadol

Crëwyd y fideo hwn gan Ofcom. Ni yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu gan gynnwys band eang, ffôn cartref a gwasanaethau symudol, yn ogystal â theledu, radio a'r post.

Cwestiwn Cyffredin 1: A ellir cael mynediad i gyfnewid fideo brys o'r tu allan i'r DU?

Mae'n bosib y gallai pobl wneud galwadau cyfnewid fideo brys o'r tu allan i'r DU, ond dim ond ag ystafelloedd rheoli 999 yn y DU y gellir cysylltu'r galwadau. Mae galwadau llais 999 weithiau'n cael eu derbyn o'r tu allan i'r DU, e.e. o ffonau symudol yn agos i'r ffin ag Iwerddon. Ymdrinnir â'r galwadau hyn gan awdurdodau brys y DU, felly mae hyn yn gyfwerth.

Cwestiwn Cyffredin 2: Beth os oes angen i mi gofrestru i ddefnyddio Wi-Fi, er enghraifft ar drên neu mewn gwesty?

Mae'n bosib y bydd angen cofrestru i ddefnyddio Wi-Fi ar drên neu mewn gwesty. Allwn ni ddim reoli sut mae busnesau preifat yn rheoli eu rhwydweithiau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gyfnewid fideo brys fod yn gyfradd sero o dan reolau Ofcom, felly dylai fod modd i ddefnyddwyr ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain gyda data symudol am ddim, heb redeg allan o ddata na chodi tâl ychwanegol.

Mae is-deitlo, iaith arwyddion a disgrifiadau sain ar y teledu, sydd wedi'u hadwaen fel gwasanaethau mynediad teledu, yn helpu pobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu golwg i ddeall a mwynhau'r teledu.

Mae Ofcom yn sicrhau bod darlledwyr yn darparu isafswm cyfrannau o raglenni gydag is-deitlau, iaith arwyddion a disgrifiadau sain. Mae Ofcom yn cyhoeddi gwybodaeth am symiau'r gwasanaethau mynediad teledu y mae'n ofynnol i ddarlledwyr eu darparu a'r hyn y maent yn ei ddarparu mewn gwirionedd.

Is-deitlo: Ar hyn o bryd mae angen 70 o sianeli i ddarparu rhyw lefel o is-deitlo, gyda'r BBC wedi ymrwymo i is-deitlo 100% o'i rhaglennu.

Mae rhaglenni teledu wedi'u harwyddo yn ymgorffori arwyddwr sy'n cyfieithu deialog ac effeithiau sain i iaith arwyddion. Gall sianeli cynulleidfa isel, fel dewis arall i drawsyrru eu cwota o raglenni a ddehonglir gydag arwyddion, dalu swm cyfatebol o arian i'r British Sign Language Broadcasting Trust sydd wedi'i sefydlu i gomisiynu rhaglenni a gyflwynir mewn iaith arwyddion. Mae dros 60 o sianeli wedi cofrestru ar gyfer y cynllun hwn a gellir gwylio rhaglenni ar BSL Zone ar y teledu ac ar wefan BSLBT.

Mae disgrifiadau sain yn cynnwys trac sain ar wahân lle mae adroddwr yn defnyddio bylchau yn y trac sain gwreiddiol i ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd ar y sgrin er budd pobl â nam ar eu golwg. Fel is-deitlo, gellir ei droi ymlaen neu i ffwrdd. Gallwch ddod o hyd i restrau o raglenni â disgrifiadau sain yma. Mae nifer cynyddol o flychau pen set a setiau teledu yn derbyn disgrifiadau sain, a gellir ei gyrchu hefyd ar deledu cebl a theledu lloeren. Mae gan yr RNID daflen wybodaeth ddefnyddiol sy'n rhestru'r blychau pen set a setiau teledu digidol integredig sy'n gallu derbyn disgrifiadau sain.

Ar gebl a lloeren yn unig, mae'n bosib y bydd angen i chi ddefnyddio rhif sianel gwahanol i gyrchu'r disgrifiadau sain ar gyfer BBC One, BBC Two, ITV1 a Channel 4, gan dddibynnu ar ble rydych chi'n byw. Os na allwch dderbyn disgrifiadau sain, ceisiwch droi drosodd i'r sianeli hyn:

 

Freesat

Virgin

Sky

BBC y tu allan i Lundain

950

851

954

BBC Two y tu allan i Loegr

968

852

969

ITV y tu allan i Lundain

977

853

973

Channel 4 y tu allan i Lundain

974

854

974

Channel 5

-

855

-

S4C

-

856

-

Mae pob defnyddiwr yn elwa ar gyfarpar sy'n hawdd i'w ddefnyddio, ond i ddefnyddwyr anabl mae hwn yn fater arbennig o bwysig.

Mae'n ddyletswydd ar Ofcom o dan y Ddeddf Gyfathrebiadau i hyrwyddo datblygiad ac argaeledd offer defnyddwyr sy'n hawdd eu defnyddio. Fodd bynnag, nid oes gan Ofcom ond bwerau rheoleiddio cyfyngedig mewn perthynas ag offer o'r fath. Yn hytrach, rydyn ni'n gweithio gydag eraill i hyrwyddo defnyddioldeb.

Mae rhai adnoddau ar-lein defnyddiol hefyd i helpu pobl anabl i ddewis offer a fydd yn addas ar eu cyfer.

Mae gan Ricability wybodaeth am deledu digidol, gan gynnwys erialau dan do, blychau pen set, peiriannau recordio teledu digidol a setiau teledu digidol integredig. Mae gan y gronfa ddata Mobile Accessibility wybodaeth fanwl am ffonau symudol a'u nodweddion.

Contact the media team

If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:

Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)

Send us your enquiry (journalists only)

If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom:

Yn ôl i'r brig