Datganiad: Gweithredu'r Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd newydd

Cyhoeddwyd: 27 Hydref 2020
Ymgynghori yn cau: 30 Tachwedd 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 17 Rhagfyr 2020

Ym mis Hydref 2020, gwnaethom gadarnhau pecyn o mesurau gwarchod cwsmeriaid newydd sy'n gweithredu newidiadau i reolau Ewropeaidd. Ar yr un pryd, ymgynghorwyd ar rai mân newidiadau i'n rheolau presennol, er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb yn y derminoleg a'r diffiniadau a ddefnyddir ynddynt. Ymgynghorwyd hefyd ar rai mân newidiadau i adlewyrchu diwedd y cyfnod pontio o dan Gytundeb Ymadael yr UE.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol ar y mân newidiadau hyn, yn ogystal â'n hysbysiad terfynol o'r newidiadau rydym yn eu gwneud i'n rheolau rheoleiddio i weithredu'r amddiffyniadau cwsmeriaid yng y Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd a fersiynau cyfunol diwygiedig o'n rheolau.

Noder bod y fersiwn isod o'r Amodau Cyffredinol, gan gynnwys y dyddiad y daw i rym, wedi'i disodli o ganlyniad i benderfyniad Ofcom Newid cyflym, hawdd a dibynadwy: Datganiad ar newidiadau i'r Amodau Cyffredinol (a gyhoeddwyd ar 3 Chwefror 2022). Bydd yr holl ddiwygiadau i Amodau Cyffredinol C7 a B3 (a'r darpariaethau cysylltiedig yn C1.20, yr Atodiad i C1 a'r diffiniadau), gan gynnwys y rhai a gadarnhawyd yn flaenorol ac a oedd i ddod i rym ar 19 Rhagfyr 2022, yn dod i rym ar 3 Ebrill 2023. Mae fersiwn cyfunol o'r Amodau Cyffredinol Diwygiedig (fersiwn gyfunol answyddogol) 3 Ebrill 2023 ar gael. Bydd fersiwn 19 Rhagfyr 2022 o'r Amodau Cyffredinol yn parhau ar y dudalen hon er gwybodaeth.

Dylunnir y sleidiau (PDF, 338.9 KB) hyn i ddarparu crynodeb lefel uchel o rai o'r newidiadau sydd ar y gweill i'n Hamodau Cyffredinol (a dogfennau arweiniad cysylltiedig) o ganlyniad i weithredu'r Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd (EECC). Maent wedi'u dylunio i gyfeirio ar rai o'r newidiadau allweddol a darparu dolenni i'r dogfennau perthnasol sy'n cynnwys manylion llawn yr holl newidiadau.

Noder y gallai'r fersiwn isod o'r Amodau Cyffredinol, gan gynnwys y dyddiad y daw i rym, gael ei ddisodli o ganlyniad i ymgynghoriad Ofcom ar Amod Cyffredinol C7 (PDF, 1.8 MB) (wedi'i gyhoeddi 28 Medi 2021

Trwy ymgysylltu â darparwyr rydym wedi derbyn cwestiynau am ddisgwyliadau Ofcom o ran sut y dylai darparwyr gymhwyso arweiniad Amod Cyffredinol C1 (PDF, 523.8 KB) wrth ymdrin â newidiadau i daliadau am wasanaethau crwydro. Mae'r llythyr hwn (PDF, 195.6 KB) yn ceisio darparu rhywfaint o eglurhad ychwanegol ynghylch sut y gall darparwyr gymhwyso gofynion yr Amodau Cyffredinol newydd C1.14 a C1.15 mewn perthynas â gwasanaethau crwydro.

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Atodiad 5 i'n datganiad ym mis Hydref 2020 er mwyn gwneud cywiriad i Dabl 4 yr Atodiad. Mae'r cywiriad yn ailosod cyfeiriad at Amod Cyffredinol (AC) C2.19 (a hepgorwyd yn anghywir) ac yn egluro bod AC C2.19 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â'r cwsmeriaid hynny na fydd AC C1.3 (ynghylch darparu Gwybodaeth am Gontractau) yn berthnasol iddynt. Rydym hefyd wedi egluro y bydd y newidiadau i AC C2.18 a C2.19 (AC C2.15 newydd) sy'n ymwneud â darparu Gwybodaeth am Gontractau o dan AC C1.3 yn dod i rym ym mis Mehefin 2022, ochr yn ochr ag AC C1.3 newydd.

Ym Mai 2019, gwnaethon ni gadarnhau rheolau newydd sy'n golygu bod cwsmeriaid band eang, ffonau a theledu drwy dalu sydd allan o gontract yn gorfod cael hysbysiadau i'w hatgoffa yn flynyddol gan ddangos y bargeinion gorau sydd ar gael. Ac yn Rhagfyr 2019 fe wnaethom ymgynghori ar becyn eang o fesurau diogelu ar gyfer cwsmeriaid sy’n adlewyrchu newidiadau i fframwaith rheoleiddio Ewrop, fydd yn cael eu gweithredu erbyn 21 Rhagfyr 2020, a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU. Rydym nawr yn ymgynghori ar ddau gynnig diwygiedig cyn cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol yn Hydref 2020.

Rydyn ni'n gwahodd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn erbyn 11 Medi 2020/ Rydyn ni'n disgwyl cyhoeddi datganiad yn cyflwyno ein penderfyniad ar y cynigion diwygiedig sydd yn y ddogfen hon, a'r rhai yn ein ymgynghoriad yn Rhagfyr 2019 yn ystod yr Hydref 2020.

Ar 24 Mawrth 2020, cyhoeddodd Ofcom wybodaeth am effaith argyfwng y coronafeirws ar y sectorau mae'n eu rheoleiddio. Roedd yr wybodaeth yn cydnabod rôl hanfodol y sectorau hyn a’r angen i ddarparwyr flaenoriaethu rhoi cymorth i bobl ac i fusnesau.

Roeddem hefyd yn cydnabod y byddai angen addasu ac aildrefnu ein rhaglen waith arfaethedig er mwyn galluogi rhanddeiliaid i ganolbwyntio ar faterion busnes hanfodol. Fel rhan o hyn, gwnaethom nodi y bydd angen oedi hefyd wrth roi rhwymedigaethau newydd ar waith.

Mae Llywodraeth y DU ac Ofcom yn dal i ymrwymo i wneud yn siŵr bod y rheolau rheoleiddio sy’n angenrheidiol i weithredu Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd mewn grym erbyn y dyddiad cau, sef 21 Rhagfyr 2020. I’r perwyl hwn, mae Ofcom yn bwriadu cyhoeddi datganiad ynghylch gweithredu agweddau hawliau defnyddwyr y Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd ym mis Medi 2020, os bydd y Llywodraeth yn cadarnhau ei ddull trosi Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd cyn hynny.

Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod oherwydd yr amgylchiadau anghyffredin presennol, mae’n debygol y bydd angen amser ychwanegol ar ddarparwyr i wneud y newidiadau angenrheidiol i’w systemau a’u prosesau fel eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau newydd. Felly, rydyn ni’n bwriadu rhoi o leiaf 12 mis o ddyddiad cyhoeddi ein datganiad i ddarparwyr weithredu’r rheolau newydd hyn. Gallwn ganiatáu mwy o amser mewn achosion lle mae'r darparwyr angen gwneud newidiadau sylweddol, fel rhai sy’n ymwneud â’r rheolau newydd ar newid rhwng darparwyr. Byddwn yn pennu’r dyddiadau cau ar gyfer gweithredu yn ôl darpariaeth pan fyddwn yn cyhoeddi ein datganiad.

Rydyn ni’n darparu’r diweddariad hwn i randdeiliaid cyn ein penderfyniadau terfynol er mwyn iddynt allu ystyried hyn nawr. Fel arall, byddai angen iddynt ddechrau cynllunio’r newidiadau angenrheidiol i’w systemau a’u prosesau, a byddai hyn yn anodd oherwydd yr angen presennol i ganolbwyntio eu hadnoddau ar roi cymorth i bobl ac i fusnesau.

Rydyn ni wedi diwygio ein cyfeiriadau at "fand eang gwibgyswllt" i ddarparu mwy o eglurder ar y gwasanaethau sy'n berthnasol i rai o'n cynigion.

Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

Ymatebion

Yn ôl i'r brig