Gwasanaeth cyfnewid fideo brys: sut y bydd yn gweithio

Cyhoeddwyd: 6 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf: 6 Mawrth 2024

Ym Mehefin 2021, gwnaethon ni gyhoeddi ein penderfyniad i lansio gwasanaeth cyfnewid fideo brys newydd yn y DU. Cawsom sawl cwestiwn, yn bennaf gan y diwydiant telathrebu, ynghylch sut bydd y gwasanaeth yn gweithio. Rydyn ni wedi ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin isod, a byddwn yn ychwanegu atynt yn ôl yr angen wrth i ni nesáu at y dyddiad lansio.

Bydd gwasanaeth cyfnewid fideo brys yn galluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gysylltu â’r gwasanaethau brys yn eu hiaith gyntaf. Mae hyn yn ychwanegol at y dull presennol o gysylltu â’r gwasanaethau brys (llais 999, cyfnewid testun 999 ac SMS 999). Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu hariannu gan y sector telathrebu, ac mae’r cyhoedd yn eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.

Daw’r rhwymedigaeth i rym ar 17 Mehefin 2022.

Unrhyw un sy’n darparu:

  • Gwasanaethau Mynediad i'r Rhyngrwyd i Ddefnyddwyr; neu
  • Gwasanaethau Cyfathrebu Rhyngbersonol sy’n seiliedig ar Rif, lle bo’n ymarferol yn dechnegol i ddarparu Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys i Ddefnyddwyr.

Mae’r termau hyn yn cael eu diffinio yn yr Amodau Hawliau Cyffredinol (PDF, 1003.0 KB).

Yn ein datganiad ym mis Mehefin 2021 (PDF, 898.7 KB), fe wnaethom gyhoeddi geiriad rheolau newydd sy’n mynnu bod gwasanaeth cyfnewid fideo brys yn cael ei ddarparu. Bydd y rheolau hyn yn rhan o’r Amodau Hawliau Cyffredinol (y rheoliadau telegyfathrebiadau sydd ar waith yn y DU).

Mae Amod Cyffredinol newydd C5.11 yn datgan bod yn rhaid i Ddarparwyr Rheoleiddiedig wneud y canlynol:

  1. darparu neu gontractio i ddarparu Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Ofcom; a
  2. sicrhau bod unrhyw Ddefnyddiwr Gwasanaethau Mynediad i’r Rhyngrwyd neu Wasanaethau Cyfathrebu Rhyngbersonol sy’n seiliedig ar Rif y maent yn eu darparu, sy’n cyfathrebu yn Iaith Arwyddion Prydain oherwydd eu hanableddau, yn gallu cael gafael ar y Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys a’i ddefnyddio.

Mae Amod Cyffredinol 5.12 yn datgan, wrth ddarparu mynediad at Wasanaethau Cyfnewid Fideo Brys o dan Amod C5.11, a hwyluso'r defnydd ohono, ei bod yn rhaid i Ddarparwyr Rheoleiddiedig wneud y canlynol:

  1. darparu’r Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys yn rhad ac am ddim i’r Defnyddiwr;
  2. lle bo’n dechnegol ymarferol, codi pris cynyddrannol o sero ar unrhyw draffig data sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys;
  3. sicrhau bod mesurau’n cael eu cymryd i ddiogelu cyfrinachedd y cyfathrebu rhwng Defnyddwyr y Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys a’r Sefydliadau Brys;
  4. yn amodol ar Amod C3.11, sicrhau bod y Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys ar gael i’w ddefnyddio’n gyfreithlon gan Ddefnyddwyr bob amser; a
  5. cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys y gall Ofcom ei wneud o bryd i’w gilydd.

Mae “Gwasanaeth Cyfnewid Fideo Brys” yn golygu unrhyw wasanaeth:

  1. sydd, at ddibenion gofyn am gymorth brys gan Sefydliadau Brys a’i dderbyn, yn darparu cyfleusterau cyfieithu a chyfnewid Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfathrebu mewn argyfwng i’w gyfleu drwy fideo rhwng unrhyw Ddefnyddiwr a Sefydliadau Brys;
  2. lle mae Defnyddwyr yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth o offer terfynell cydnaws sydd ar gael yn rhwydd gyda chyfarpar fideo, gan gynnwys ffonau clyfar a chyfrifiaduron neu dabledi;
  3. sy’n darparu cyfleusterau i gael mynediad at Sefydliadau Brys ac mae ar gael bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos;
  4. sydd, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, yn caniatáu ar gyfer cyfathrebu rhwng Defnyddwyr y gwasanaeth ar gyflymder sy’n cyfateb i gyfathrebu llais;
  5. sy’n cynnig ffordd o gyfathrebu drwy neges destun ar y cyd â gwasanaeth cyfnewid fideo.

The obligation on regulated providers is to provide or contract to provide an emergency video relay service that has been approved by Ofcom, and to ensure that any relevant end-users who communicate in BSL because of their disabilities can access and use this service.

BT has agreed to act as wholesaler for emergency video relay. Should a provider contract with BT for an approved emergency video relay service, this should be sufficient to demonstrate compliance with the obligation in General Condition C5.11.

The responsibility for ensuring that the approved service complies with the approval criteria falls solely on the supplier of the approved emergency video relay service contracted by the wholesaler and not on any other party (see paragraph 5.37 of our statement (PDF, 898.7 KB)).

Ar 27 Ionawr 2022, cymeradwyodd (PDF, 466.2 KB) Ofcom wasanaeth cyfnewid fideo brys Sign Language Interactions (SLl) y gall darparwyr rheoleiddiedig ei ddefnyddio er mwyn cyflawni’r rhwymedigaethau hyn. Un o’r amodau cymeradwyo yw bod y gwasanaeth hwn yn cydymffurfio â gofynion yr Amodau Cyffredinol, ac yn bodloni’r holl Feini Prawf Cymeradwyo (a nodir yn Atodiad 1 Datganiad Mehefin 2021), drwy'r amser.

Mae SLl wedi cyhoeddi gwybodaeth ar gyfer darparwyr rheoleiddiedig sy’n datgan bod ganddo’r gallu i sefydlu a chyflenwi’r gwasanaeth erbyn 17 Mehefin 2022 fan bellaf ac ymrwymo i weithio’n agos gyda darparwyr rheoleiddiedig. Mae ganddo gyfeiriad e-bost penodol ar gyfer tîm y prosiect: info@999bsl.co.uk.

Mae SLI wedi cwrdd â nifer o ddarparwyr rheoleiddiedig a chyrff masnach sy’n cynrychioli eu buddiannau ac mae’n cynnal digwyddiadau ymgysylltu.

Mae BT wedi cyhoeddi (PDF, 124.6 KB) ei gynnig ar gyfer gwasanaeth cyfnewid fideo brys cyfanwerthol ac mae wedi darparu manylion cyswllt ar gyfer y tîm perthnasol (gweler isod).

Fe wnaethom ddweud yn ein datganiad ym mis Mehefin 2021 (PDF, 116.7 KB) fod galwadau llais 999, cyfnewid testun a negeseuon SMS brys i gyd yn cael eu cyflenwi gan BT ar hyn o bryd ar sail cyfanwerthu yn y DU, gyda darparwyr yn talu am ddefnydd eu cwsmeriaid o’r gwasanaethau hyn. Rydyn ni’n ymwybodol nad oes gan bob darparwr rheoleiddiedig berthynas bilio â BT ar hyn o bryd, ac rydyn ni wedi sicrhau bod gwybodaeth am gynnig BT wedi cael ei rhannu â chyrff masnach sy’n cynrychioli llawer o’r darparwyr hyn.

Mae gan BT hefyd rôl gwbl ar wahân fel asiant delio â galwadau 999 yn y DU, gan gynnwys galwadau cyfnewid fideo brys o 17 Mehefin 2022 ymlaen.

Mae’n ofynnol i ddarparwyr rheoleiddiedig ddarparu gwasanaeth cyfnewid fideo brys yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr a, lle bo’n dechnegol ymarferol, codi pris cynyddrannol o sero ar unrhyw draffig data cysylltiedig. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, cyfeiriwch at Adran 6 yn ein datganiad mis Mehefin 2021. (PDF, 116.7 KB)

O dan y Meini Prawf Cymeradwyo, mae’n rhaid i SLI gysylltu â darparwyr rheoleiddiedig, gan gynnwys yn ystod cam dylunio a datblygu’r gwasanaeth a/neu’r ap, gyda’r bwriad o hwyluso cyfradd sero ar gyfer y data sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r gwasanaeth. Mae cyfarfodydd technegol i hwyluso cyfradd sero yn cael eu cynnal, ac mae Ofcom yn cymryd rhan yn rhai o’r sesiynau hyn ar hyn o bryd.

Bydd angen i’r ap a’r wefan cyfnewid fideo brys gael eu dylunio mewn ffordd sy’n caniatáu i’r holl ddata perthnasol gael ei adnabod er mwyn i’r data fod ar gyfradd sero. Bydd SLI yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i ganiatáu hyn.

Mae rhwymedigaeth yn Amod Cyffredinol C5.6 i ddarparwyr rheoleiddiedig gymryd pob cam rhesymol i roi cyhoeddusrwydd eang i wasanaethau ar gyfer pobl anabl. Bydd angen i ddarparwyr rheoleiddiedig gymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i wasanaeth cyfnewid fideo brys, gan ystyried y sianeli priodol ar gyfer defnyddwyr.

Bydd Ofcom hefyd yn gweithio i roi cyhoeddusrwydd i’r gwasanaeth, gan gydweithio â’r sector gwirfoddol. Byddwn hefyd yn cyhoeddi fideo Iaith Arwyddion Prydain i gyd-fynd â’r dyddiad lansio.

Bydd angen i ddarparwyr rheoleiddiedig sicrhau nad yw defnyddwyr yn cael eu hatal rhag gallu defnyddio gwasanaeth cyfnewid fideo brys. Mae’r geiriad hwn yr un fath â'r hyn sydd yn y rhwymedigaethau ar gyfer cyfnewid testun.

  • Ar gyfer cyfnewid testun, byddai gwirio bod modd deialu'r rhagddodiad cyfnewid ar eich rhwydwaith yn enghraifft o sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cael gafael ar y gwasanaeth hwn a'i ddefnyddio
  • Ar gyfer cyfnewid fideo brys, byddai sicrhau bod modd cael mynediad at y wefan a’r ap (a fyddai’n ofynnol dan reolau niwtraliaeth y rhyngrwyd beth bynnag) yn fesur tebyg. Gallai darparwyr mynediad i’r rhyngrwyd hefyd sicrhau nad yw’r wefan cyfnewid fideo brys yn cael ei rhwystro gan unrhyw reolaethau gan rieni, er enghraifft.

Bydd gwasanaeth cyfnewid fideo brys yn gwasanaethu’r DU gyfan, gan gynnwys Gogledd Iwerddon lle mae rhai pobl fyddar yn defnyddio Iaith Arwyddion Iwerddon (ISL). Os yw dehonglwyr yn gyfarwydd ag Iaith Arwyddion Iwerddon, mae croeso iddynt ei defnyddio os yw hyn o fudd i alwr byddar mewn argyfwng. Fodd bynnag, dim ond darparu Iaith Arwyddion Prydain sy’n ofynnol dan y rhwymedigaeth reoleiddio.

Mae Iaith Arwyddion Iwerddon yn defnyddio sillafu bysedd ag un llaw. Pe bai galwr o Ogledd Iwerddon yn defnyddio hyn ac na fyddai’n hawdd i’r dehonglwr ei ddeall, mae opsiwn i ddefnyddio’r sianel testun ar yr ap a’r wefan cyfnewid fideo brys ar gyfer pethau fel enwau a chyfeiriadau. Rydyn ni o’r farn y bydd y sianel testun yn ddefnyddiol hefyd i bobl sy’n sillafu bysedd â dwy law ac sy’n dal ffôn symudol mewn un llaw.

Mae’n bosibl y bydd pobl yn gwneud galwadau cyfnewid fideo brys o’r tu allan i’r DU, ond dim ond i ystafelloedd rheoli 999 y bydd modd cysylltu’r galwadau. Weithiau, mae galwadau llais 999 yn cael eu derbyn o’r tu allan i’r DU, er enghraifft, gan bobl sy’n ffonio gyda SIM y DU ar eu ffonau symudol. Awdurdodau brys y DU sy’n delio â’r rhain, felly mae hyn yr un fath..

Telir cost galwadau llais symudol 999 gan y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol (MNO) gyda sbectrwm ac fe'i hailgodir ar y gweithredwyr rhwydwaith rhithwir symudol (MVNO) sy'n defnyddio eu sbectrwm. Mae'n debygol y bydd gweithredwyr MVNO yn gallu talu am gyfnewid fideo brys yn yr un modd, er mai mater i'r diwydiant yw hwn.

Yn yr un modd, mae llawer o ddarparwyr sefydlog llai yn ailwerthu gwasanaethau llais a data a reolir ac yn talu am unrhyw alwadau llais 999 drwy eu cyfanwerthwr.

Awgrymwn fod darparwyr a reoleiddir yn trafod hyn gyda'r MNO neu gyfanwerthwr perthnasol.

Mae'n bosib y bydd angen cofrestru i ddefnyddio Wi-Fi cwmni trenau neu mewn gwestai. Ni allwn reoli sut mae'r mathau hyn o fusnesau preifat yn rheoli eu rhwydweithiau. Fodd bynnag, rydym wedi ei gwneud yn ofynnol i gyfnewid fideo brys fod yn gyfradd sero, felly dylai defnyddwyr allu defnyddio eu dyfeisiau eu hunain ar ddata symudol am ddim, heb ofni rhedeg allan o ddata neu dderbyn tâl ychwanegol.

Sut alla i gael gwybod mwy?

Gallwch gysylltu â thîm polisi Ofcom drwy yrru e-bost i emergencyBSL@ofcom.org.uk

Gallwch gysylltu â thîm BT drwy yrru e-bost i 999liaison@bt.com

Gallwch gysylltu â Sign Language Interactions drwy yrru e-bost i info@999bsl.co.uk

Yn ôl i'r brig