Eich hawl i ofyn am wasanaeth band eang digonol: Beth mae angen i chi ei wybod

Cyhoeddwyd: 11 Awst 2021
Diweddarwyd diwethaf: 8 Awst 2023

Mae gan bob cartref a busnes yn y DU hawl cyfreithiol i ofyn am gysylltiad band eang digonol a fforddiadwy.

Y gwasanaeth band eang cyffredinol

O 20 Mawrth 2020 ymlaen, os na allwch chi gael cyflymder llwytho i lawr o 10Mdid yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mdid yr eiliad, gallwch ofyn i uwchraddio eich cysylltiad. Gallwch wneud y cais hwn i BT. Does dim angen i chi fod yn gwsmer presennol gyda BT i wneud cais.

Efallai bod gan gwmnïau band eang lai o bobl i helpu oherwydd y coronafeirws (Covid-19). Felly cyn cysylltu gyda BT gyda'ch cais, rydyn ni'n argymhell eich bod yn ymweld â gwefan BT – os gallwch chi yn y man cyntaf – yn hytrach na'u ffonio. Yma, gallwch chi wirio os ydych chi'n gymwys a dod o hyd i mwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais.

Ffoniwch BT i wirio os ydych yn gymwys i uwchraddio. Os ydych yn gymwys bydd eich cysylltiad yn cael ei adeiladu cyn gynted ag sy'n bosibl. Os na, byddwch yn cael gwybod am opsiynau eraill sydd ar gael

Gallech chi hefyd ddarganfod eich bod chi'n gallu uwchraddio i gysylltiad cyflymach yn barod drwy wasanaeth sefydlog neu ddiwifr. Mae'r cynnydd mewn argaeledd gwasanaethau band eang diwifr wedi lleihau'r nifer o eiddo sy'n methu cael band eang digonol yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae cysylltiad 10Mbit yr eiliad yn galluogi nifer o ddefnyddwyr i ddefnyddio'r rhyngrwyd ar unwaith, ar gyfer gweithgareddau ar-lein arferol neu i ffrydio fideo

Ydw i’n gymwys?

Pan rydych chi’n cysylltu â BT, bydd ganddynt 30 diwrnod i gadarnhau os ydych yn gymwys, a rhoi pris ar gyfer adeiladu eich cysylltiad.

Bydd eich cartef neu eich busnes yn gymwys os:

  • nad oes ganddo fynediad at fand eang teilwng yn barod; ac
  • ni fydd yn rhan o gynllun band eang cyhoeddus a gynigir gan lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn ystod y 12 mis nesaf;.

Os mai dim ond gwasanaeth digonol sy’n costio mwy na £48.90 y mis sydd gennych ar hyn o bryd, bydd gennych hawl i ofyn am gysylltiad gwasanaeth cyffredinol hefyd.

Beth fydd y gost?

Os yw’r gost o adeiladu neu uwchraddio eich cyfran chi o gysylltiad y rhwydwaith yn £3,400 neu lai, ni fydd rhaid i chi dalu am y gwaith hwn.

Os bydd yn costio mwy na £3,400 i gysylltu eich cartref, ac rydych chi dal eisiau cysylltiad, bydd rhaid i chi dalu’r costau ychwanegol. Os ydych chi eisiau gwneud hyn, bydd BT yn cynnal arolwg ac yn rhoi dyfynbris i chi cyn pen 60 diwrnod.

Byddwch yn talu’r un pris am eich gwasanaeth band eang newydd ag unrhyw un arall ar yr un pecyn, a dim mwy na £54 y mis.

Faint mae'n ei gymryd i'w osod?

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cysylltiad o fewn 12 mis, ond gall gymryd hyd at 24 mis i rai.

Beth os nad ydw i'n gymwys?

Os nad ydych yn gymwys, bydd BT yn dweud wrthych beth yw eich opsiynau:

  • Band eang lloeren – Efallai y byddwch yn gallu cael cysylltiad drwy wasanaeth band eang lloeren. I dderbyn gwasanaethau lloeren, bydd angen i chi osod dysgl lloeren ar eich eiddo.
  • Ewch i’n tudalen cysylltedd cymunedol i gael gwybodaeth am ffyrdd eraill y gellid cysylltu eich cymuned.
  • Efallai eich bod yn cael problemau cysylltedd yn eich cartref a allai effeithio ar gyflymder eich band eang. Gall ddibynnu ar ffactorau fel lleoliad eich llwybrydd WiFi yn y cartref neu nifer y bobl yn eich ardal sy’n mynd ar-lein ar adegau prysur. Cysylltwch â’ch darparwr i weld a oes ganddynt unrhyw gyngor ynghylch beth gallwch ei wneud i wella’ch cysylltiad yn eich cartref.
  • Efallai y byddwch yn gymwys yn y dyfodol – bydd BT yn rhoi gwybod i chi os bydd amgylchiadau’n newid. Bydd cynlluniau band eang cyhoeddus yn y dyfodol yn cysylltu â chi os byddwch yn gymwys i gael cysylltiad drwy’r rhain.

Cwynion

Os bydd BT yn penderfynu nad ydych yn gymwys, dylent ddweud wrthych chi am eich hawl i herio’r penderfyniad hwn. Dylent ddweud wrthych chi sut i wneud cwyn hefyd.

Mae gan gwsmeriaid fynediad am ddim i gynlluniau dulliau amgen o ddatrys anghydfod. Bydd y cynlluniau hyn yn eich helpu i ddatrys eich problem os na fydd y cwyn wedi’i datrys ar ôl 8 wythnos, neu’n gynt os yw BT wedi penderfynu nad oes modd iddynt ddatrys y sefyllfa. Does dim angen i chi fod yn gwsmer presennol gyda BT i wneud cais.

Er nad yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol, mae eich help chi i dynnu sylw at broblemau yn rhan hanfodol o’n gwaith. Gallwch gwyno wrth Ofcom ar ein gwefan, neu drwy ein ffonio ar y llinell iaith Gymraeg ar 0300 123 2023 neu gallwch ffonio’r ganolfan cwynion canolog ar 0300 123 333 neu 020 7981 3040.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig