Datganiad: Ymagwedd at gostau dros ben o dan y rhwymedigaeth gwasanaeth band eang cyffredinol

Cyhoeddwyd: 16 Gorffennaf 2021
Ymgynghori yn cau: 10 Medi 2021
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 11 Tachwedd 2021 

Mae'r datganiad hwn yn nodi newidiadau i'r rheolau gwasanaeth cyffredinol band eang, i egluro sut ddylai BT ddarparu dyfynbrisiau i gwsmeriaid sydd wedi gwneud cais amgael eu cysylltu fel rhan o'r cynllun.

Mae'r rheolau diwygiedig yn golygu, lle mae costau dros ben yn uchel iawn, y dylai BT roi gwybod i gwsmeriaid am gyfanswm y costau dros ben a chael cytundeb i dalu amdanynt cyn darparu'r cysylltiad. Yna gall un neu fwy o gwsmeriaid yn yr ardal leol dalu holl gostau dros ben y gwaith adeiladu, gan gynnwys y seilwaith a rennir.

Mae ein penderfyniadau heddiw yn dilyn proses ymgynghori ac yn ystyried yr ymatebion a gawsom.

Other ways to respond

Yn ôl i'r brig