Woman looking at tablet

A all ‘microdiwtorialau’ helpu i wella diogelwch ar-lein?

Cyhoeddwyd: 25 Medi 2023
Diweddarwyd diwethaf: 25 Medi 2023
swipe to go back mobile screen

Mae ‘microdiwtorialau’ yn amserol, yn benodol ac yn fyr, ac maen nhw’n dod yn fwy ac yn fwy cyffredin i’r rheini ohonom sy’n defnyddio dyfeisiau clyfar. Pan fyddwch chi’n llwytho ap i lawr, byddwch chi’n aml yn cael eich tywys drwy broses sy’n egluro sut i’w ddefnyddio. Byddwch chi’n cael gweld y prif nodweddion.

Efallai y byddwch yn ymarfer eu defnyddio (fel sut i ‘sweipio’ i newid y sgrin)1. Rydych chi’n dysgu mewn dosau bach – drwy diwtorialau bach i ddatblygu eich ymwybyddiaeth, eich gallu a’ch cymhelliant i ddefnyddio’r nodwedd.

Mae diffyg diddordeb mewn nodweddion diogelwch yn broblem o ran diogelwch ar-lein. Roeddem yn awyddus i gael gwybod a allai’r adnoddau newydd hyn helpu i ennyn diddordeb ac addysgu defnyddwyr yn gyflym am y nodweddion sydd ar gael.

Gwella Gallu

Yr ymddygiad y gwnaethom ni ei dargedu oedd riportio cynnwys a allai fod yn niweidiol. Mae tua saith o bob deg defnyddiwr yn dweud eu bod wedi dod ar draws ymddygiad neu gynnwys niweidiol ar-lein yn ystod y pedair wythnos diwethaf. Mae riportio yn helpu i dynnu sylw llwyfannau at y cynnwys hwn.

Yn y gorffennol, cynhaliwyd arbrawf gan arbenigwyr Ofcom ar Ddeall Ymddygiad er mwyn ymchwilio i effeithiau cymell ac annog er mwyn ysgogi pobl i riportio. Yn wahanol i annog ‘ar y pryd’, mae microdiwtorialau’n mynd ati mewn ffordd wahanol – maen nhw’n gwella gallu defnyddwyr i riportio, sy’n arwain at fwy o riportio.

Mae ein harbrawf yn seiliedig ar theori gwella gallu. Yn wahanol i anogaeth, sy’n saernïo dewis i lywio penderfyniad ‘ar y pryd’, mae prosesau gwella gallu yn meithrin cymhwysedd, yn bennaf drwy sgiliau, gwybodaeth a dulliau penderfynu2 . Y theori yw bod prosesau gwella gallu yn gallu cael effeithiau parhaol y tu hwnt i’r foment dan sylw.

Ond, mae’n bosibl bod gwella gallu yn gwneud mwy na dim ond meithrin galluogrwydd. Mae model COM-B, yr ydym wedi’i drafod o’r blaen, yn dweud wrthym fod newid gallu yn gallu dylanwadu ar gymhelliant i weithredu. Nod microdiwtorialau yw cynyddu galluoedd defnyddwyr, ond mewn egwyddor gallant hefyd ddylanwadu ar gymhelliant, ac ar ymddygiad yn y pen draw.

Beth sy’n gwella prosesau gwella gallu?

https://www-pp.ofcom.org.uk/siteassets/resources/images/-news-centre/body-images/2023/microtutorials/graph-1-reporting-capability-task.png.jpg https://www-pp.ofcom.org.uk/siteassets/resources/images/-news-centre/body-images/2023/microtutorials/graph-2-cym.png https://www-pp.ofcom.org.uk/siteassets/resources/images/-news-centre/body-images/2023/microtutorials/graph-3a-cym.png https://www-pp.ofcom.org.uk/siteassets/resources/images/-news-centre/body-images/2023/microtutorials/graph-3b-cym.png

Yn y byd go iawn

Mae'n bwysig cofio cyfyngiadau'r math hwn o astudiaeth. Mae’r cyfranogwyr yn gwybod eu bod yn rhan o arbrawf, ac mae’n bosibl na fyddant yn ymddwyn fel y byddent fel arfer. Ni all yr arbrawf hwn ein haddysgu am effaith barhaus microdiwtorialau. Ni allwn ddweud eto a ydyn nhw’n cael yr effeithiau hirdymor y mae’r theori gwella gallu yn eu hawgrymu.

Serch hynny, mae'r arbrawf yn awgrymu y gall microdiwtorialau chwarae rhan yn y broses o 'ysgogi' defnyddwyr i ymgysylltu â mesurau diogelwch, ac mae'n rhoi gwybodaeth am yr hyn sy'n eu gwneud yn llwyddiannus. Mae’n drawiadol bod hyd yn oed microdiwtorialau sylfaenol iawn yn cael effaith sylweddol, a bod modd cynyddu’r effaith honno drwy ryngweithio.

Mae potensial pellach. Nid oedd y microdiwtorialau a ddyluniwyd gennym ni yn rhai graenus nac yn targedu nodweddion penodol. Mae llawer o bosibiliadau i wella profiad y defnyddiwr, a’u gwneud yn fyrrach. Gallai hyn eu gwneud yn fwy effeithiol, a tharfu llai ar daith y defnyddiwr hefyd.

Ar y llaw arall, yn wahanol i’r rhan fwyaf o enghreifftiau yn y byd go iawn, nid oedd gan ein cyfranogwyr yr opsiwn i anwybyddu’r microdiwtorial. Rhoddodd hynny'r cyfle i ni ddysgu am effeithiolrwydd cymharol y microdiwtorialau, ond mae'n golygu nad ydym yn gwybod faint o ddefnyddwyr fyddai'n ymgysylltu â'r microdiwtorial pe bai’n ddewisol. Rydym yn awyddus i gael gwybod hynny.

Helpwch ni i ddysgu mwy

Mae datblygu tystiolaeth ar sail yr addewid a welwyd yn y microdiwtorialau wedi ein helpu i gynyddu ein gwybodaeth am yr amrywiaeth o adnoddau ar-lein sydd ar gael i annog ymddygiadau diogelwch. Rydym am gynhyrchu mwy o dystiolaeth ar effaith ymyriadau ‘gwella gallu’. Mae croeso i chi gysylltu â ni ynghylch ymchwil gysylltiedig neu os hoffech chi drafod treial gyda ni.

I gael rhagor o fanylion am ffurf y canlyniadau hyn a’r dehongliad ohonynt, darllenwch ein papur trafod. Mae ein papur technegol yn cynnwys manylion y dadansoddiad ystadegol o’r data.

Amy Hume ysgrifennodd y darn hwn, ar sail ymchwil gan Rupert Gill, Amy Hume, John Ivory a Pinelopi Skotida gyda Kantar Public Behavioural Practice.

Ymwadiad: Ni ddylid dehongli'r dadansoddiadau, y safbwyntiau na'r canfyddiadau yn yr erthygl hon fel safbwynt swyddogol Ofcom. Mae blogiau Ofcom ar Ddeall Ymddygiad yn cael eu hysgrifennu fel materion o ddiddordeb, ac maen nhw'n cynrychioli barn bersonol yr awdur(on). Ni fwriedir iddynt fod yn ddatganiad swyddogol o bolisi neu syniadau Ofcom.


[1] Ffynhonnell: “A Beginners Guide to Setting Up the Google Pixel 6 Pro”, YouTube, fideo wedi’i lwytho i fyny gan Tech With Brett, 29 Ionawr 2022, https://www.youtube.com/watch?v=7ZkeYOV6Yvo

[2] I weld canllaw craff, darllenwch erthygl Elina Halonen Nudge, boost, budge and shove - what do they all mean? (squarepeginsight.com)

[3] Mewn amgylcheddau arbrofol, mae risg o duedd dymunolrwydd cymdeithasol – mae’n bosibl y byddai'r cyfranogwyr yn riportio mwy oherwydd eu bod yn synhwyro mai dyna sydd dan sylw yn y treial. I osgoi hyn, roedd y microdiwtorialau’n eu haddysgu am holl nodweddion y llwyfan (chwarae, oedi, hoffi, ddim yn hoffi, gwneud sylwadau, rhannu, riportio, anwybyddu) fel nad oedd yn ymddangos bod unrhyw nodwedd benodol yn cael ei hannog.

[4] Roedd y microdiwtorial statig yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol ar lefel o 5% (p<0.05), a'r microdiwtorial ar ffurf fideo a'r microdiwtorial rhyngweithiol yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol ar lefel o 0.1% (p<0.001)

[5] Yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol ar lefel o 1% (p<0.01)

[6] Roedd y microdiwtorial ar ffurf fideo a’r microdiwtorial rhyngweithiol yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol ar lefel o 0.1% (p<0.001)

[7] Mae gwaith dadansoddi ychwanegol i’w wneud o hyd ar y mesurau hyn

[8] Roedd y microdiwtorial ar ffurf fideo a’r microdiwtorial rhyngweithiol yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol, ar lefel o 0.1% (p<0.001)

Yn ôl i'r brig