Ymchwiliad i gydymffurfiaeth TikTok â chais statudol am wybodaeth

Cyhoeddwyd: 14 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 14 Rhagfyr 2023

Ar agor

Ymchwiliad i

TikTok Information Technologies UK Limited (TikTok)

Achos wedi’i agor

14 Rhagfyr 2023

Crynodeb

Rydym yn ymchwilio i weld a yw TikTok wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau i ddarparu gwybodaeth wrth ymateb i hysbysiad ffurfiol, yn y fath fodd a bennir gan Ofcom.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Adrannau 368Y(3)(b) a (c), 368Z2 a 368Z10 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003

Testun agoriadol – 14 Rhagfyr 2023

Cefndir

Mae Ofcom wedi bod yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi’u sefydlu yn y DU ers mis Tachwedd 2020. Mae'n hanfodol i ni fedru cywain gwybodaeth gywir am y mesurau y mae VSPs wedi'u rheoleiddio'n eu cymryd i amddiffyn defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys deall systemau, fel rheolaethau rhieni, sy'n helpu sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag deunydd cyfyngedig.

Caiff Ofcom ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwn i baratoi a chyhoeddi adroddiadau o dan adran 368Z11 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (y ‘Ddeddf’).

Mae adran 368Y(3) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr VSP:

  • ddarparu’r wybodaeth y mae Ofcom yn gofyn amdani'n unol ag adran 368Z10 o’r Ddeddf; a
  • chydweithredu’n llawn ag Ofcom at unrhyw ddiben a grybwyllir yn adran 368Z10(3). Mae hyn yn cynnwys cydweithredu’n llawn ag Ofcom at ddiben cynhyrchu adroddiad o dan adran 368Z11.

Os oes gan Ofcom sail resymol dros gredu bod y rhwymedigaethau a grybwyllwyd uchod wedi'u torri neu y byddant yn cael eu torri, gallwn gymryd camau gorfodi o dan adran 368Z2 o’r Ddeddf.

Ymchwiliad

Heddiw rydym wedi agor ymchwiliad i TikTok Information Technologies UK Limited (TikTok). Mae'r ymchwiliad yn ymwneud â chydymffurfiaeth TikTok â hysbysiad cais am wybodaeth (yr 'Hysbysiad'), a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2023 o dan adran 368Z10 o'r Ddeddf. Roedd yn ofynnol i TikTok ymateb i'r Hysbysiad yn y modd a'r ffurf a nodwyd gan Ofcom.

Ymhlith pethau eraill, gofynnodd yr Hysbysiad am wybodaeth i:

  • ddeall a monitro systemau rheolaethau rhieni TikTok a sut y cânt eu gweithredu er mwyn helpu sicrhau bod defnyddwyr dan 18 oed yn cael eu hamddiffyn rhag deunydd cyfyngedig; a
  • chyhoeddi adroddiad (neu adroddiadau) o dan adran 368Z11 o’r Ddeddf, gan amlygu sut mae TikTok a VSPs eraill sydd wedi'u sefydlu yn y DU yn amddiffyn defnyddwyr rhag fideos sy’n cynnwys deunydd niweidiol a sut mae’r mesurau hyn wedi’u rhoi ar waith.

Mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu efallai nad oedd yr wybodaeth a ddarparwyd gan TikTok wrth ymateb i'r Hysbysiad yn gyflawn ac yn gywir. Felly, bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio a oes sail resymol dros gredu bod TikTok wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol mewn perthynas â’r Hysbysiad.

Disgwyliwn ddarparu diweddariad ar yr ymchwiliad hwn erbyn mis Chwefror 2024.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01279/12/23

Yn ôl i'r brig