Toddler looking at a tablet

Rheoleiddwyr diogelwch ar-lein ar draws y byd yn mapio gweledigaeth i wella cydgysylltu rhyngwladol

Cyhoeddwyd: 8 Mai 2024
  • Mae Ofcom yn nodi dros 40 o gamau ymarferol y mae’n rhaid i wasanaethau eu cymryd i gadw plant yn ddiogel
  • Rhaid i wefannau ac apiau gyflwyno gwiriadau oedran cadarn i atal plant rhag gweld cynnwys niweidiol fel hunanladdiad, hunan-niweidio a phornograffi
  • Rhaid i ddeunydd niweidiol gael ei hidlo allan neu ei israddio mewn cynnwys sy’n cael ei argymell

Rhaid i gwmnïau technoleg weithredu i atal eu halgorithmau rhag argymell cynnwys niweidiol i blant a rhoi gwiriadau oedran cadarn ar waith i’w cadw’n fwy diogel, o dan gynlluniau manwl Ofcom heddiw.

Mae’r rhain ymysg mwy na 40 o fesurau ymarferol yn ein Codau Ymarfer drafft ar Ddiogelwch Plant, sy’n nodi sut rydym yn disgwyl i wasanaethau ar-lein gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol i ddiogelu plant ar-lein.

Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gosod dyletswyddau newydd llym ar wasanaethau y gall plant eu defnyddio, gan gynnwys gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd a pheiriannau chwilio. Yn gyntaf, rhaid i gwmnïau asesu’r risgiau y mae eu gwasanaeth yn eu hachosi i blant ac yna rhoi mesurau diogelwch ar waith i liniaru’r risgiau hynny.[1]

Mae hyn yn cynnwys atal plant rhag dod ar draws y cynnwys mwyaf niweidiol sy’n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, a phornograffi. Rhaid i wasanaethau hefyd leihau’r posibilrwydd i blant ddod i gysylltiad â niwed difrifol arall, gan gynnwys deunydd treisgar, cas neu sarhaus, seibrfwlio, a chynnwys sy’n hybu heriau peryglus.

Dylunio’n fwy diogel

Gyda’i gilydd, mae ein Codau Diogelwch Plant drafft – sy’n mynd llawer ymhellach nag arferion presennol y diwydiant – yn mynnu newid sylweddol gan gwmnïau technoleg o ran sut mae plant y DU yn cael eu diogelu ar-lein. Maent yn nodi’n glir, er mwyn amddiffyn plant, bod yn rhaid i ddyluniad sylfaenol llwyfannau a dewisiadau gweithredu fod yn fwy diogel. Rydym yn disgwyl i wasanaethau wneud y canlynol:

1. Cynnal gwiriadau oedran cadarn i atal plant rhag cael gafael ar gynnwys niweidiol

Mae ein Codau drafft yn disgwyl llawer mwy o ddefnydd o sicrwydd oedran hynod effeithiol[2] fel bod gwasanaethau’n gwybod pa rai o’u defnyddwyr sy’n blant er mwyn eu cadw’n ddiogel.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd disgwyl i bob gwasanaeth nad yw’n gwahardd cynnwys niweidiol, a’r rheini lle mae mwy o berygl i gynnwys o’r fath gael ei rannu ar eu gwasanaeth, gynnal gwiriadau oedran hynod effeithiol er mwyn atal plant rhag ei weld. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn golygu atal plant rhag mynd i’r wefan neu’r ap cyfan. Mewn achosion eraill, gallai olygu cyfyngiadau oedran ar rannau o wefan neu ap gan adael mynediad i oedolion yn unig, neu gyfyngu ar fynediad plant at gynnwys niweidiol a nodwyd.

Sut mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn diffinio cynnwys niweidiol.

2. Sicrhau nad yw algorithmau sy’n argymell cynnwys yn gweithredu mewn ffordd sy’n niweidio plant

Systemau argymell – algorithmau sy’n darparu argymhellion personol i ddefnyddwyr – yw prif lwybr plant at niwed ar-lein. Os na fydd neb yn cadw llygad arnynt, mae perygl y byddant yn cyflwyno llawer iawn o gynnwys peryglus a digymell i blant yn eu ffrydiau newyddion personol neu dudalennau sy’n cael eu hargymell yn bersonol (‘For You’). Gall effaith gronnus gwylio’r cynnwys niweidiol hwn arwain at ganlyniadau dinistriol.

O dan ein cynigion, mae’n rhaid i unrhyw wasanaeth sy’n defnyddio system argymell a lle mae risg uwch o gynnwys niweidiol hefyd ddefnyddio mesur sicrhau oedran hynod effeithiol i nodi pwy yw eu defnyddwyr sy'n blant. Wedyn mae’n rhaid iddynt ffurfweddu eu halgorithmau i hidlo’r cynnwys mwyaf niweidiol o ffrydiau’r plant hyn, a gwneud cynnwys niweidiol arall yn llai amlwg a gweladwy.

Rhaid i’r plant hefyd allu rhoi adborth negyddol yn uniongyrchol i’r ffrwd argymell, er mwyn i hynny allu dysgu’n well pa gynnwys nad ydynt eisiau ei weld.

3. Cyflwyno proses gymedroli cynnwys sy’n niweidiol i blant yn well.

Mae tystiolaeth yn dangos bod cynnwys sy’n niweidiol i blant ar gael ar lawer o wasanaethau ar raddfa fawr, sy’n awgrymu nad yw ymdrechion presennol gwasanaethau i gymedroli cynnwys niweidiol yn ddigonol.

Dros gyfnod o bedair wythnos, mae 62% o blant 13-17 oed yn dweud eu bod wedi profi niwed ar-lein[3], ac mae llawer yn ystyried hynny’n rhan ‘anochel’ o’u bywyd. Mae ymchwil yn awgrymu bod dod i gysylltiad â chynnwys treisgar yn dechrau yn yr ysgol gynradd, ac mae plant sy’n dod ar draws cynnwys sy’n hyrwyddo hunanladdiad neu hunan-niweidio yn dweud bod cynnwys o’r fath i’w weld yn ‘aml’ ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae dod i gysylltiad â hyn yn aml yn arwain at normaleiddio’r cynnwys a nifer yn dod yn ansensitif iddo.[4]

O dan ein Codau drafft, rhaid i bob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr gael systemau a phrosesau cymedroli cynnwys sy’n sicrhau bod camau cyflym yn cael eu cymryd yn erbyn cynnwys sy’n niweidiol i blant. Disgwylir i beiriannau chwilio gymryd camau tebyg; a phan gredir bod defnyddiwr yn blentyn, rhaid i wasanaethau chwilio mawr roi gosodiad ‘chwilio diogel’ ar waith na ellir ei ddiffodd, er mwyn hidlo'r cynnwys mwyaf niweidiol.

Mae mesurau ehangach eraill yn gofyn am bolisïau clir gan wasanaethau ynghylch pa fath o gynnwys sy’n cael ei ganiatáu, sut mae cynnwys yn cael ei flaenoriaethu i’w adolygu, ac i dimau cymedroli cynnwys gael digon o adnoddau a hyfforddiant.

Bydd Ofcom yn lansio ymgynghoriad ychwanegol yn nes ymlaen eleni ar sut gellir defnyddio offer awtomataidd, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, i fynd ati’n rhagweithiol i ganfod cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sydd fwyaf niweidiol i blant – gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol nad oedd wedi’i ganfod o’r blaen a chynnwys sy’n annog hunanladdiad a hunan-niweidio.[5]

Rydyn ni eisiau i blant fwynhau bywyd ar-lein. Ond ers gormod o amser, mae cynnwys niweidiol iawn, nad ydyn nhw’n gallu ei osgoi na’i reoli, wedi difetha eu profiadau. Mae llawer o rieni’n teimlo’n rhwystredig ac yn poeni am sut i gadw eu plant yn ddiogel. Rhaid i hynny newid.

Yn unol â chyfreithiau diogelwch ar-lein newydd, mae ein Codau arfaethedig yn rhoi’r cyfrifoldeb yn bendant dros gadw plant yn fwy diogel ar gwmnïau technoleg. Bydd angen iddyn nhw liniaru algorithmau ymosodol sy’n gwthio cynnwys niweidiol ar blant yn eu ffrydiau personol a chyflwyno profion oedran er mwyn i blant gael profiad sy’n addas ar gyfer eu hoedran.

Bydd ein mesurau – sy’n mynd ymhell y tu hwnt i safonau presennol y diwydiant – yn arwain at newid sylweddol mewn diogelwch ar-lein i blant yn y DU. Unwaith y byddan nhw wedi dod i rym, fyddwn ni ddim yn oedi cyn defnyddio ein hystod lawn o bwerau gorfodi i ddal llwyfannau i gyfrif. Dyna ein haddewid i blant a rhieni heddiw.

Dame Melanie Dawes, Ofcom Chief Executive

Pan basiwyd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein y llynedd, aethom gam ymhellach na bron i bob gwlad arall yn ein cais i wneud y DU y lle mwyaf diogel i blentyn gael mynd ar-lein. Mae’r dasg honno’n gymhleth, ond mae’n dasg rydym wedi ymrwymo iddi, a bydd ein cyfreithiau arloesol yn dal cwmnïau technoleg i gyfrif mewn ffordd nad ydyn nhw erioed wedi’i phrofi o’r blaen.

Mae’r llywodraeth wedi dewis Ofcom i gyflawni’r Ddeddf, a heddiw mae’r rheoleiddiwr wedi pwysleisio bod yn rhaid i lwyfannau gyflwyno’r mathau o archwiliadau oedran y mae pobl ifanc yn eu profi yn y byd go iawn, a rhaid mynd i’r afael ag algorithmau sy’n gadael i’r bobl ifanc hyn ddod ar draws deunydd niweidiol yn rhy hawdd ar-lein. Pan fydd y mesurau hyn ar waith, byddant yn arwain at newid sylfaenol yn y ffordd y mae plant yn y DU yn profi’r byd ar-lein.

Hoffwn roi sicrwydd i rieni mai amddiffyn plant yw ein prif flaenoriaeth, a bydd y cyfreithiau hyn yn helpu i gadw eu teuluoedd yn ddiogel. Fy neges i lwyfannau cymdeithasol yw cofiwch ymgysylltu â ni a pharatoi. Peidiwch ag aros i gael eich gorfodi a chael dirwyon trwm – cymerwch gamau i gyflawni eich cyfrifoldebau a gweithredu nawr.”

Michelle Donelan, Technology Secretary

Mae’r cod ymarfer drafft newydd gan Ofcom yn gam i’w groesawu i’r cyfeiriad cywir at ddiogelu ein plant yn well pan fyddan nhw ar-lein.

Gan adeiladu ar yr uchelgais yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae’r codau drafft yn gosod safonau priodol ac uchel, ac maen nhw’n ei gwneud yn glir y bydd gan bob cwmni technoleg waith i’w wneud i fodloni disgwyliadau Ofcom o ran cadw plant yn ddiogel. Pan ddaw’r cod terfynol i rym, bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i gwmnïau technoleg sicrhau bod eu llwyfannau’n gwbl ddiogel ar gyfer plant, ac rydym yn annog y cwmnïau hyn i achub y blaen nawr a chymryd camau ar unwaith i atal cynnwys amhriodol a niweidiol rhag cael ei rannu â phlant a phobl ifanc.

Yn bwysicach na dim, mae’r cod drafft hwn yn dangos bod y Ddeddf Diogelwch Ar-lein a gwaith rheoleiddio effeithiol yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod plant yn gallu cael gafael ar y byd ar-lein a’i archwilio’n ddiogel.

Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn ymgynghoriad Ofcom, a byddwn yn rhannu ein harbenigedd ar ddiogelu a diogelwch plant er mwyn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant a phobl ifanc yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau ac i fersiwn derfynol y cod.

Sir Peter Wanless, CEO at the NSPCC

Rwy’n croesawu cyhoeddi’r Cod Plant drafft a gan fy mod yn ymgynghorai statudol byddaf yn pwyso a mesur a yw ei fesurau arfaethedig yn bodloni’r hyn mae plant a’r Senedd wedi dweud sy’n gorfod newid. Gobeithio bydd ei weithredu, ynghyd â mesurau diogelu eraill yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, yn gam mawr ymlaen yn yr ymdrech barhaus i ddiogelu plant ar-lein, sef rhywbeth rwyf wedi galw amdano ers tro byd. Mae plant wedi dweud wrthyf yn gyson bod arnyn nhw eisiau ac angen mesurau diogelu gwell i’w cadw’n ddiogel ar-lein, yn fwyaf diweddar yn eu hymatebion i The Big Ambition, a oedd wedi ymgysylltu â 367,000 o blant.

Mae mwy o waith i’w wneud bob amser i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel ar-lein. Rhaid rhoi’r mesurau diogelu sydd yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith yn gyflym, gyda sicrwydd oedran effeithiol, gosodiadau diogelwch diofyn a chymedroli cynnwys i atal plant rhag defnyddio platfformau dan oed a’u cadw’n ddiogel ar-lein wrth iddynt archwilio, dysgu a chwarae. Byddaf yn parhau i weithio gydag Ofcom, llunwyr polisïau, y llywodraeth, ysgolion a rhieni i sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel ar-lein.

Dame Rachel de Souza, Children’s Commissioner for England

Mwy o atebolrwydd gan uwch swyddogion a gwell cefnogaeth i blant a rhieni

Mae ein Codau drafft hefyd yn cynnwys mesurau i sicrhau dulliau llywodraethu ac atebolrwydd cryf ar gyfer diogelwch plant mewn cwmnïau technoleg. Mae’r rhain yn cynnwys cael unigolyn a enwir i fod yn atebol am sicrhau y cydymffurfir â’r dyletswyddau diogelwch plant; adolygiad blynyddol gan uwch gorff o’r holl weithgareddau rheoli risg sy’n ymwneud â diogelwch plant; a Chod Ymddygiad i weithwyr sy’n gosod safonau ar gyfer gweithwyr yn ymwneud ag amddiffyn plant.

Mae ystod o fesurau diogelwch arfaethedig eraill yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o ddewis a chefnogaeth i blant a’r oedolion sy’n gofalu amdanynt.Mae’r rhain yn cynnwys cael telerau gwasanaeth clir a hygyrch, a sicrhau bod yna ffordd rwydd i blant allu rhoi gwybod am gynnwys a chwyno.

Dylid darparu offer cymorth hefyd i roi mwy o reolaeth i blant dros eu rhyngweithiadau ar-lein - fel opsiwn i wrthod gwahoddiadau grŵp, rhwystro a thawelu cyfrifon defnyddwyr, neu analluogi sylwadau ar eu postiadau eu hunain.

Ailosod er mwyn diogelu plant

Gan adeiladu ar y mesurau amddiffyn plant yn ein Codau Ymarfer drafft ar niwed anghyfreithlon a’n canllawiau i’r diwydiant ar wasanaethau pornograffi a gyhoeddwyd y llynedd, credwn y byddwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiadau plant ar-lein.

Mae lleisiau plant wedi bod wrth galon ein dull o ddylunio’r Codau. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi clywed gan dros 15,000 o bobl ifanc am eu bywydau ar-lein ac wedi siarad â dros 7,000 o rieni, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant. Fel rhan o’n proses ymgynghori, rydym yn cynnal cyfres o drafodaethau penodol gyda phlant o bob cwr o’r DU, i holi eu barn ar ein cynigion mewn amgylchedd diogel. Rydym hefyd eisiau clywed gan grwpiau eraill gan gynnwys rhieni a gofalwyr, y diwydiant technoleg a sefydliadau cymdeithas sifil – fel elusennau a gweithwyr proffesiynol arbenigol sy’n ymwneud ag amddiffyn a hyrwyddo buddiannau plant.

Yn amodol ar ymatebion i’n hymgynghoriad, sydd i’w cyflwyno erbyn 17 Gorffennaf fan bellaf, rydym yn disgwyl cyhoeddi ein Codau Ymarfer terfynol ar Ddiogelwch Plant o fewn blwyddyn. Bydd gan wasanaethau wedyn dri mis i gynnal eu hasesiadau risg plant, gan ystyried ein canllawiau, yr ydym wedi’u cyhoeddi ar ffurf ddrafft heddiw.

Ar ôl i’r Senedd gymeradwyo’r Codau, byddant yn dod i rym a gallwn ddechrau gorfodi’r drefn. Rydym yn glir y gall cwmnïau nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol ddisgwyl wynebu camau gorfodi, gan gynnwys dirwyon sylweddol.

Mae 'canllaw cyflym' i gynigion ein hymgynghoriad ar gael, ynghyd â chrynodeb 'cipolwg' o fesurau ein Codau arfaethedig.

Nodiadau i olygyddion:

1. Un o amcanion craidd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yw bod gwasanaethau ar-lein yn cael eu dylunio a’u gweithredu mewn ffordd sy’n rhoi safon uwch o amddiffyniad i blant nag i oedolion. O dan y Ddeddf, i ddechrau, rhaid i wasanaethau asesu a yw plant yn debygol o gael mynediad at eu gwasanaeth – neu ran ohono. Mae hyn yn golygu cwblhau ‘asesiad mynediad plant’. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein Canllawiau drafft ar Asesiad Mynediad Plant â’r diben o helpu gwasanaethau i gydymffurfio. Yn ail, os yw plant yn debygol o gael mynediad at eu gwasanaethau, mae angen iddynt gwblhau ‘asesiad risg plant’ i asesu’r risg i blant. Rydym wedi cyhoeddi Canllawiau drafft ar Asesiad Risg Plant  i helpu gwasanaethau gyda’r broses hon. Gall gwasanaethau hefyd gyfeirio at ein Cofrestr Risgiau Plant ddrafft i gael rhagor o wybodaeth am sut mae risgiau o niwed i blant yn dod i’r amlwg ar-lein, ac mae ein Canllawiau drafft ar Niwed yn rhoi enghreifftiau o’r math o gynnwys y mae Ofcom yn ei ystyried yn gynnwys niweidiol i blant. Rhaid i wasanaethau wedyn roi’r mesurau diogelwch o’n Codau ar waith, i liniaru risgiau, ac adolygu eu dull gweithredu ar gyfer diogelwch plant yn barhaus.

Siart llif asesiad risg.

2. Mae sicrwydd oedran yn cynnwys technegau dilysu oedran neu amcangyfrif oedran. Pan fyddwn yn dweud “effeithiol iawn”, rydym yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn dechnegol gywir, yn gadarn, yn ddibynadwy ac yn deg. Mae enghreifftiau o ddulliau sicrhau oedran a allai fod yn effeithiol iawn os ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod yn cynnwys paru ID llun, amcangyfrif oedran yr wyneb a gwasanaethau hunaniaeth ddigidol y gellir eu hailddefnyddio. Mae enghreifftiau o ddulliau sicrhau oedran nad ydynt yn gallu bod yn effeithiol iawn yn cynnwys dulliau talu nad ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i’r defnyddiwr fod dros 18 oed, hunan-ddatgan oedran, a chyfyngiadau cytundebol cyffredinol ynghylch defnydd plant o’r gwasanaeth.

3. https://www.ofcom.org.uk/research-and-data/online-research/internet-users-experience-of-harm-online

4. https://www.ofcom.org.uk/online-safety/protecting-children/eating-disorders-self-harm-and-suicide

5. Byddwn hefyd yn cyhoeddi cynigion penodol yn nes ymlaen eleni ar ein defnydd o ‘hysbysiadau technoleg’ i fynnu bod gwasanaethau, mewn rhai amgylchiadau, yn defnyddio technolegau achrededig i ddelio â mathau penodol o gynnwys anghyfreithlon, gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol, boed hwnnw’n cael ei gyfleu’n gyhoeddus neu’n breifat. Rydym yn disgwyl i hyn gynnwys: canllawiau ar sut byddem yn defnyddio’r pwerau hyn; ein cyngor i’r llywodraeth ar y safonau cywirdeb sylfaenol; a’n dull o achredu technolegau.

Rydym hefyd heddiw yn cyhoeddi amrywiaeth o ymchwil newydd i lywio ac i ategu ein gwaith fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU:

Yn ôl i'r brig