Datganiad: Sicrwydd Oedran a Mynediad Plant

Cyhoeddwyd: 16 Ionawr 2025
Ymgynghori yn cau: 5 Mawrth 2024
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein Datganiad Sicrwydd Oedran a Mynediad Plant, sy’n nodi cam cyntaf ein gwaith Amddiffyn Plant.

Mae’r penderfyniadau hyn ar sicrwydd oedran ac asesiadau mynediad plant yn garreg filltir bwysig, gan gychwyn y broses o fynnu bod gwasanaethau chwilio a gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr (gwasanaethau Rhan 3) yn cynnal eu hasesiad mynediad plant, a bod llwyfannau sy’n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain (gwasanaethau Rhan 5) yn cymryd camau ar unwaith i gyflwyno gwiriadau oedran cadarn sy’n bodloni ein canllawiau.

Mae ein datganiad yn nodi ein penderfyniadau ar sicrwydd oedran effeithiol iawn ar gyfer llwyfannau sy’n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain (Canllawiau Rhan 5) ac ar gyfer gwasanaethau chwilio a gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr (Canllawiau HEAA Rhan 3). Rydym hefyd yn cyhoeddi ein Canllawiau ar Asesiadau Mynediad Plant ar gyfer yr holl wasanaethau chwilio a gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr.  

Fe wnaethom gyhoeddi cynigion ym mis Rhagfyr 2023 ynghylch y camau y dylai gwasanaethau Rhan 5 eu cymryd i sicrhau nad yw plant fel arfer yn gallu dod ar draws cynnwys pornograffig, ynghyd â’n Canllawiau drafft ar Ran 5. 

Yn ein hymgynghoriad Amddiffyn Plant Rhag Niwed Ar-lein ym mis Mai 2024, fe wnaethom ymgynghori ar ein dull gweithredu ar gyfer asesiadau mynediad plant. Roeddem hefyd wedi cynnig nifer o fesurau yn ein Codau Amddiffyn Plant drafft yn mynnu bod gwasanaethau yn cydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch plant o dan y Ddeddf. Ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, mae’r rhain yn cynnwys mesurau sy’n ymwneud â defnyddio sicrwydd oedran effeithiol iawn. 

Dyma ein datganiad cyntaf sy’n canolbwyntio ar amddiffyn plant, gan ychwanegu at y mesurau diogelu sydd eisoes wedi’u nodi yn ein Datganiad Niwed Anghyfreithlon a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024. I ddilyn hyn, byddwn yn cyflwyno ein datganiad Amddiffyn Plant fis Ebrill, sy’n nodi ein penderfyniadau ar y Codau Amddiffyn Plant a chanllawiau eraill. 

Gyda chyhoeddiad heddiw, mae’n rhaid i ddarparwyr ar-lein gymryd camau i ddechrau cydymffurfio â’r rheolau newydd hyn. Y canlyniad fydd bywyd mwy diogel ar-lein i bobl yn y DU, yn enwedig plant. Rhaid i bob gwasanaeth sy’n caniatáu pornograffi roi sicrwydd oedran effeithiol iawn ar waith i sicrhau nad yw plant fel arfer yn gallu cael mynediad at gynnwys pornograffig, a hynny erbyn mis Gorffennaf 2025 fan bellaf. Ar gyfer gwasanaethau Rhan 5, daw’r ddyletswydd i weithredu sicrwydd oedran effeithiol iawn i rym ar 17 Ionawr, pan fydd y Llywodraeth yn cychwyn Rhan 5 o’r Ddeddf. Rhaid i bob gwasanaeth chwilio a gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sydd o fewn cwmpas Rhan 3 o’r Ddeddf gynnal asesiad o fynediad plant erbyn 16 Ebrill 2025 i benderfynu a yw plant yn debygol o gael mynediad at eu gwasanaeth. 

Ochr yn ochr â’r datganiad, rydym wedi diweddaru ein hadnoddau i helpu gwasanaethau i ddeall beth mae angen iddynt ei wneud:

    Gwybodaeth cyswllt

    Cyfeiriad
    Age Assurance Policy Team
    Online Safety Group
    Ofcom
    Riverside House
    2A Southwark Bridge Road
    London SE1 9HA
    Yn ôl i'r brig