Heddiw yw Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2021, pan fydd miliynau o bobl ledled y byd yn dod ynghyd i helpu hyrwyddo defnydd cyfrifol a llawn parch o dechnoleg ddigidol, gyda’r nod o greu rhyngrwyd gwell i bawb.
Mae’r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, a sefydlwyd yn 2004, yn cael ei drefnu gan y rhwydwaith Insafe/INHOPE o Ganolfannau Rhyngrwyd Mwy Diogel Ewropeaidd gyda chefnogaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae’n cael ei gefnogi gan Ofcom. Y thema eleni yw ‘Rhyngrwyd y gallwn ymddiried ynddo’.
Mae technoleg ddigidol yn rhoi byd o bosibiliadau i ni ar flaenau ein bysedd, gyda chyfleoedd i ddysgu, cyfnewid, cymryd rhan a chreu. Yn 2021, mae hyn wedi bod yn fwy gwir nag erioed - dros y flwyddyn ddiwethaf mae cyfathrebiadau digidol wedi profi'n hanfodol i'n cymdeithasau barhau i weithredu yn wyneb argyfwng iechyd byd-eang.
Fodd bynnag, mae defnydd cynyddol o'r rhyngrwyd hefyd yn golygu ein bod yn fwy agored i risgiau ar-lein, yn enwedig i bobl ifanc. Ers dechrau'r pandemig, mae pryderon wedi tyfu am faterion fel seiberdroseddu, preifatrwydd, twyllwybodaeth a chamwybodaeth, iaith casineb, seiberfwlio, bod yn agored i gynnwys niweidiol ac ymddygiadau ysglyfgar.
Fel defnyddwyr y rhyngrwyd, yr ydym i gyd yn wynebu'r un cyfyng-gyngor: sut yr ydym yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir gan y byd digidol, ac ar yr un pryd osgoi unrhyw sgil-effeithiau negyddol posibl?
Ar ôl tyfu o ran cwmpas dros y blynyddoedd, mae’r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel bellach yn cael ei ddathlu gan blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, athrawon, addysgwyr a gweithwyr cymdeithasol, diwydiant, y rhai sy’n llunio penderfyniadau a gwleidyddion o dros 170 o wledydd.
Yn ogystal â chefnogi’r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, mae gennym amrywiaeth o offer ac adnoddau ar gael i helpu rhieni a phlant i dorri drwy rywfaint o'r dryswch a dod o hyd i newyddion a gwybodaeth am Covid-19.
Mae'r cyfnod clo yn golygu bod ein plant yn dysgu, ymchwilio ac yn cyfathrebu ar-lein yn fwy nag erioed. Ond er y gall y rhyngrwyd ehangu eu gorwelion, mae risgiau hefyd - gan gynnwys a ellir ymddiried yn y wybodaeth y maent yn dod ar ei thraws.
Wrth i ni baratoi i ymgymryd â chyfrifoldebau newydd i reoleiddio cynnwys niweidiol ar-lein, mae cydweithio â sefydliadau arbenigol eraill yn hanfodol i'n ffordd o weithio. Rydym yn falch o gefnogi’r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel a'r adnoddau ymarferol amhrisiadwy y mae'n eu darparu i helpu i sicrhau bod plant yn gwybod sut i fod yn ddiogel ar-lein.
Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom