Mae plant yn byw eu bywydau, ac yn cymdeithasu, fwyfwy ar-lein. Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn dangos bod gan y rhan fwyaf (77%) o ddefnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol rhwng wyth ac 17 oed eu cyfrif neu eu proffil eu hunain ar o leiaf un o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mawr.
A hyd yn oed pan nad ydynt ar-lein, bydd sgyrsiau gyda'u ffrindiau a'u cymheiriaid ysgol yn aml yn canolbwyntio ar y tueddiadau cyfryngau cymdeithasol neu gemau diweddaraf ar-lein. Felly, os nad yw plant ar y llwyfannau hyn, gallan nhw deimlo'n hawdd eu bod wedi'u heithrio o sgyrsiau, a hyd yn oed grwpiau cyfeillgarwch.
Nid dim ond ymhlith plant y mae'r pwysau'n cael eu teimlo; mae rhieni'n ei deimlo hefyd:
Maen nhw'n chwarae gêm yn yr ysgol fel 'rho dy law lan os oes gen ti'r ap yma... y gêm yma', ac roedd hi'n teimlo wedi'i gadael allan felly fe wnaethon ni adael iddi lawrlwytho [y gêm ar-lein].
Mam i ferch wyth oed
Mae ein hymchwil yn dweud wrthym fod llawer o blant, yn enwedig yn yr ystod oedran iau (rhwng wyth a 12 oed) wedi cael help gan eu rhieni neu warcheidwaid i sefydlu eu cyfrif cyfryngau cymdeithasol. Mewn llawer o achosion, mae cymhelliannau rhieni'n cynnwys eisiau sicrhau nad yw eu plentyn yn colli allan.
Fodd bynnag, yr isafswm oedran ar gyfer creu cyfrif ar y rhan fwyaf o apiau cyfryngau cymdeithasol yw 13, gyda llawer o lwyfannau yn gofyn i ddefnyddwyr hunan-ddatgan eu hoedran wrth sefydlu eu cyfrif. Mae hyn yn golygu bod angen i blant dan 13 oed ddweud eu bod yn hŷn nag y maen nhw mewn gwirionedd os ydyn nhw am greu cyfrif.
Dywedodd rhai plant sydd wedi gwneud hyn wrthym fod eu proffiliau presennol yn eu gwneud yn llawer hŷn, gydag enghreifftiau eithafol yn mynd mor bell â 50 oed. Un o'r rhesymau maen nhw'n ei roi dros greu proffil gydag oedran llawer hŷn yw oherwydd iddynt gredu eu bod yn cael profiad mwy cyfyngedig pan gaiff eu proffil ei gofrestru fel oedran plentyn, ac felly'n cofrestru'n fwriadol fel rhywun hŷn.
Ydw, dwi wastad wedi gwneud yn siŵr fy mod i [wedi cofrestru fel] dros 18 oed oherwydd fel arall dwyt ti ddim yn cael yr holl nodweddion.
Merch 16 oed
Mae rhai rhieni'n ymwybodol o'r gofynion oedran hyn, ond yn caniatáu i'w plant dan 13 oed ddefnyddio'r llwyfannau beth bynnag. Mae hyn efallai oherwydd eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn barnu a all eu plentyn deng mlwydd oed ymdopi â chynnwys sy'n addas i blant 13 oed neu'n hŷn, er enghraifft.
Ond efallai na fydden nhw'n ystyried neu'n ymwybodol o'r risgiau posib i'w plentyn yn nes ymlaen. Er enghraifft, pan fydd eu plentyn mewn gwirionedd yn troi'n 13 oed, mae'r llwyfan yn dal i feddwl ei fod yn hŷn – efallai hyd yn oed oedolyn, gan ddibynnu ar yr oedran a nodwyd pan wnaethant gofrestru. Mae hyn yn golygu y gallai nodweddion a swyddogaethau newydd fod ar gael iddynt, megis negeseuon preifat wedi'u hanelu at rai 16 oed neu'n hŷn, neu gynnwys oedolion sydd wedi'i anelu at ddefnyddwyr 18 oed neu hŷn.
Rwy'n credu y gwnes i sefydlu ei [gyfrif cyfryngau cymdeithasol] gyda fy nghyfeiriad e-bost, mae'n debyg bod ganddo fy oedran arno hefyd. Mae hynny'n broblem mewn gwirionedd, on'd ydi? Gallai'r algorithm fod yn ei drin fel plentyn 42 oed. Mae hynny'n rhywbeth i gnoi cil arno
Mam i fachgen 11 oed
Dengys ein hymchwil fod gan bron i chwarter y rhai rhwng wyth a 12 oed, sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac sydd â phroffil, un sy'n gwneud iddynt ymddangos eu bod yn 18 oed neu'n hŷn. Mae hynny'n golygu bod llawer o blant mewn perygl o weld cynnwys a allai fod yn niweidiol, a hyd yn oed cael cyswllt gan ddefnyddwyr eraill nad ydynt yn ymwybodol o'u hoedran go iawn.
Mae'r graffig isod yn dangos sut y gallai plentyn wyth mlwydd oed sy'n defnyddio dyddiad geni ffug fod yn peryglu eu hunain yn nes ymlaen mewn bywyd.
Yn Ofcom, mae'n ddyletswydd arnom i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, gan helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein pawb ar draws y DU. Dyma pam rydyn ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at bynciau fel yr un yma.
Mae yna gydbwysedd anodd rhwng cadw plant yn ddiogel ac yn eu galluogi i archwilio'r byd ar-lein. Os ydych chi'n awyddus i gadw'ch plentyn yn ddiogel ar-lein, mae nifer o awgrymiadau syml y gallwch eu dilyn.
- Mae'n rhaid cydnabod bod gan eich plentyn fywyd ar-lein – dangoswch eich bod chi'n deall pwysigrwydd bod ar-lein ac agor y byd i fyny iddyn nhw. Cytunwch ar rai rheolau sylfaenol rydych chi'n eu dilyn hefyd.
- Daliwch ati i siarad a gwrando - siaradwch yn rheolaidd am sut maen nhw'n byw eu bywydau ar-lein a beth maen nhw'n ei fwynhau amdano. Rhowch wybod y gallant siarad â chi am unrhyw beth maen nhw'n ei weld.
- Defnyddiwch mesurau rheoli i rieni – mae'r offer hyn ar gael ar gyfer ffonau, gliniaduron a llechi - yn ogystal ag ar gyfer eich Wi-Fi ac apiau unigol.
- Edrychwch ar 'oedran ar-lein' eich plentyn – os yw'n defnyddio oedran ffug i fynd ar apiau cyfryngau cymdeithasol, efallai ei fod yn gweld cynnwys nad yw'n addas ar gyfer ei oedran go iawn.
- Byddwch yn fodel rôl ddigidol dda – (er enghraifft, cymryd seibiannau rheolaidd o'r sgrîn), cael amser heb ffôn, siarad am yr hyn rydych chi'n ei wneud ar-lein a thrafod sut i roi gwybod am gynnwys niweidiol.
Awdur: Lisa Etwell
Ymchwil gan: Luca Antilli, Caroline Cason, Abbie Flewitt, Tauhid Choudhury