Gaming-Twitch-1336

Ofcom yn sicrhau gwell amddiffyniad i blant ar Twitch

Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2024
Diweddarwyd diwethaf: 13 Mai 2024

Bydd plant yn y DU yn cael eu hamddiffyn yn well rhag fideos niweidiol ar Twitch ar ôl i Ofcom godi pryderon am fesurau diogelwch y platfform ar-lein.

Ym mis Ionawr, roeddem wedi mynegi pryderon wrth Twitch am y mesurau a oedd ganddo ar waith i amddiffyn pobl ifanc o dan 18 oed rhag cynnwys fideo niweidiol.

Mae Twitch yn mynnu bod ei ddefnyddwyr yn labelu cynnwys aeddfed fel themâu rhywiol, gamblo, cyffuriau, meddwi, defnyddio gormod o dybaco a phortreadau treisgar neu graffig. Fodd bynnag, roedd Ofcom yn poeni nad oedd Twitch yn gwneud digon i atal plant rhag cael gafael ar fideos sydd wedi’u labelu fel cynnwys o’r fath.

Ar ôl ymgysylltu ag Ofcom, mae Twitch wedi gwneud newidiadau i’r cynnwys sydd ar gael ar ei hafan, yn ogystal â chyflwyno nifer o fesurau diogelu i atal plant rhag cael gafael ar gynnwys niweidiol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • atal yr holl wylwyr yn y DU sydd naill ai wedi allgofnodi (ac y byddai eu hoedran felly’n anhysbys), neu sydd wedi mewngofnodi ac wedi datgan eu bod o dan 18 oed, rhag cael gafael ar gynnwys sydd wedi’i labelu â themâu rhywiol neu gamblo;
  • dileu cynnwys sydd wedi’i dagio â themâu rhywiol, gamblo, cyffuriau, meddwi neu ddefnyddio gormod o dybaco a phortreadau treisgar a graffig o hafan Twitch;
  • ychwanegu adran newydd at Ganllawiau Twitch i Rieni ac i Addysgwyr am labelu dosbarthiad cynnwys, sy’n ceisio helpu oedolion i wneud penderfyniadau gwybodus am y mathau o gynnwys y gall plant eu gwylio ar y platfform.

Byddwn yn parhau i fonitro’r platfform i asesu a yw’r newidiadau hyn yn llwyddo i ddiogelu pobl ifanc o dan 18 oed rhag deunydd niweidiol. Rydym yn bwriadu adrodd ar ein dull o werthuso a mesur dulliau diogelwch platfformau yn nes ymlaen yn yr haf.

Cyn i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ddod i rym, mae’n rhaid i blatfformau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi’u sefydlu yn y DU gymryd mesurau priodol i atal pobl ifanc o dan 18 oed rhag cael mynediad at bornograffi a deunyddiau niweidiol eraill, o dan y rheoliadau presennol.

Ar ôl i Lywodraeth y DU ddiddymu’r drefn platfformau rhannu fideos (VSP), bydd yn rhaid i blatfformau gydymffurfio â chyfres ehangach o ddyletswyddau o dan y drefn diogelwch ar-lein newydd.

Yn ôl i'r brig