Boy watching video on tablet in bed

‘Gadewch i ni greu system i gadw plant yn ddiogel ar-lein’ – Dyma Almudena Lara - Arweinydd polisi amddiffyn plant Ofcom

Cyhoeddwyd: 18 Ebrill 2024

Mae arweinydd polisi amddiffyn plant Ofcom yn sôn am fynd i wraidd niwed ar-lein.

Gan fod y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gyfraith erbyn hyn, rydym yn gweithio’n gyflym i lunio’r rheolau newydd. Gyda cham dau ein dull gweithredu bellach ar ei anterth, rydym yn paratoi i ymgynghori ar y rheoliad drafft newydd ar gyfer amddiffyn plant fis nesaf. Fe wnaethom siarad ag Almudena Lara, ein cyfarwyddwr datblygu polisi diogelwch ar-lein, ynghylch pam mae’r gwaith hwn yn bwysig.

Mae ein hymchwil yn dangos yn glir bod plant yn dod ar draws cynnwys niweidiol ac mae hyn yn digwydd yn gynnar iawn yn eu bywyd,” meddai.

Yn wir, mae ein hymchwil yn datgelu bod plant fel arfer yn dod ar draws cynnwys treisgar ar-lein yn yr ysgol gynradd, ac ar gyfartaledd maent yn gweld cynnwys pornograffig yn 13 oed, gydag un o bob deg yn gweld y math hwn o gynnwys erbyn iddynt fod yn naw oed.

Almudena Lara

Ar ôl treulio’r 15 mlynedd diwethaf yn gweithio ar bolisi diogelwch plant yn Google, yr NSPCC ac ar ran y llywodraeth, mae Almudena wedi gweithio ar bob agwedd ar amddiffyn plant – felly mae hi’n teimlo ei fod yn “gam naturiol” i ddefnyddio ei hangerdd dros wneud yn siŵr bod polisïau’n arwain at ganlyniadau cadarnhaol i blant yn Ofcom.

Yr hyn sy’n fy nghymell yw gwneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar y cyfle unigryw hwn i osod rheolau ar yr hyn mae’n ei olygu i greu amgylchedd mwy diogel ar-lein i blant a sbarduno newid cadarnhaol, meddai.

Un o’r pethau sy’n peri pryder i mi o ran y ffordd mae technoleg yn cael ei defnyddio gan blant yw nad yw’r rhan fwyaf ohonynt yn chwilio am gynnwys niweidiol”, ychwanegodd. “Mae’n ymwneud â’r ffordd mae dewisiadau dylunio cwmnïau yn gwthio plant at gynnwys niweidiol, hyd yn oed os nad oeddent yn ceisio cael gafael arno’n fwriadol. Fel y gwyddom, gall hyn arwain at ganlyniadau dinistriol.

Creu system fwy diogel

Dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi niwed ar-lein a gwneud yn siŵr bod gan lwyfannau ar-lein sydd o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein systemau i ddiogelu defnyddwyr.

“Mewn rhai ffyrdd, does dim ots pa mor wybodus ydych chi fel rhiant, na faint o reolaeth rydych chi’n ceisio ei gael dros brofiadau ar-lein eich plant, na faint rydych chi’n siarad â nhw am gadw’n ddiogel ar-lein, ac rydw i hefyd yn gwneud y pethau hyn bob dydd gyda fy mhlant. Ni fydd hyn yn datrys y broblem. Mae’n ymwneud â sut mae gwneud yn siŵr bod cwmnïau’n gwneud y penderfyniadau a’r dewisiadau dylunio cywir er mwyn i blant gael profiad sy’n fwy priodol i’w hoedran a chael eu diogelu’n well ar-lein,” meddai Almudena.

“Rydw i’n aml yn defnyddio’r enghraifft o ddysgu plant i groesi’r ffordd. Gallwch chi ddysgu plant sut mae croesi'r ffordd. Ond os yw’r ffordd wedi’i hadeiladu mewn ffordd anniogel, os nad oes croesfannau sebra, os nad oes goleuadau, os nad oes cyfyngiadau cyflymder, does dim ots faint rydych yn dysgu’r plentyn hwnnw sut mae croesi’r ffordd yn ddiogel. Mae angen i chi edrych ar pam mae seilwaith y ffordd yn anniogel, a dyma beth rydym yn ei wneud nawr gyda diogelwch ar-lein,” meddai.

“Yn aml iawn, mae’r pwyslais ar roi'r adnoddau i rieni ac ysgolion siarad â phlant am ddiogelwch ar-lein. Mae angen yr adnoddau hyn arnoch chi a bydd yr elfennau hynny’n helpu i greu profiadau gwell ar-lein. Ond mae angen i chi adeiladu systemau diogel sy’n amddiffyn pobl rhag niwed o’r gwaelod i fyny.”

Sut gallai bywyd ar-lein plant edrych yn y dyfodol?

“Rydw i eisiau i blant allu mwynhau’r gorau o’r hyn sydd gan dechnoleg i’w gynnig”, meddai Almudena. “Rydw i eisiau gweld byd ar-lein sy’n gofalu am blant ac sydd eisiau adnabod defnyddwyr sy’n blant i wneud yn siŵr eu bod yn cael profiadau mwy diogel a phriodol i'w hoedran.”

Mae ein hymchwil wedi canfod bod traean o blant yn defnyddio oedran ffug ar eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol, sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o weld cynnwys niweidiol sy’n amhriodol i’w hoedran.

Ychwanegodd: “Dydw i ddim eisiau gweld byd lle mae cadw plant yn ddiogel mor feichus fel mai’r unig ffordd y mae cwmnïau’n delio â'r mater yw drwy wahardd plant rhag defnyddio gwasanaethau ar-lein. Oherwydd rwy’n credu y byddai hynny’n golled wirioneddol.

“Y rheswm pam rydym eisiau i blant gael profiadau mwy diogel ar-lein yw ein bod ni eisiau iddyn nhw allu defnyddio’r byd ar-lein hefyd. Mae’n bwysig bod plant yn elwa o bopeth sydd gan dechnoleg i’w gynnig, ond mewn ffordd sy’n briodol ac yn ddiogel, ac sydd er budd gorau’r plant.”

Beth nesaf i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein?

Byddwn yn cyhoeddi ein codau ymarfer drafft sy’n ymwneud ag amddiffyn plant ym mis Mai.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn disgwyl ymgynghori ar y canlynol:

  • dadansoddiad o achosion ac effeithiau niwed ar-lein i blant; a
  • canllawiau asesu risg drafft sy’n canolbwyntio ar niwed i blant.

Rydym yn disgwyl cyhoeddi canllawiau drafft ar amddiffyn menywod a merched erbyn Gwanwyn 2025, ar ôl cwblhau ein codau ymarfer ar amddiffyn plant.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n hyb Diogelwch Ar-lein.

Yn ôl i'r brig