Smartphone screen showing TikTok and other social media app icons

Sut mae TikTok, Snap a Twitch yn amddiffyn plant rhag fideos niweidiol?

Cyhoeddwyd: 14 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 21 Mawrth 2025

Mae adroddiad newydd gan Ofcom, a gyhoeddwyd heddiw, yn pwyso a mesur sut mae llwyfannau rhannu fideos poblogaidd yn amddiffyn plant rhag cyrchu fideos a allai fod yn niweidiol.

O dan y drefn llwyfannau rhannu fideos (VSP), rhaid i wasanaethau sydd wedi'u lleoli yn y DU roi mesurau ar waith i amddiffyn plant rhag dod ar draws fideos a allai amharu ar eu datblygiad corfforol, meddyliol neu foesol.

Gan ddefnyddio ein pwerau cywain gwybodaeth ffurfiol, rydym wedi edrych ar y camau sy'n cael eu cymryd gan TikTok, Snap a Twitch – tri o'r gwasanaethau rhannu fideos wedi'u rheoleiddio mwyaf poblogaidd i blant – i fodloni'r gofynion hyn. Gwnaethom weld bod y tri'n cymryd camau i atal plant rhag dod ar draws fideos niweidiol, fodd bynnag gall plant ddod ar draws niwed o hyd wrth ddefnyddio'r llwyfannau hyn.

Ein canfyddiadau

Mae ein hadroddiad yn nodi'r canlynol:

  • Mae TikTok, Twitch a Snap i gyd yn caniatáu i blant 13 oed a hŷn gofrestru. Maent yn dibynnu ar ddefnyddwyr i ddatgan eu gwir oedran wrth gofrestru. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n hawdd i ddefnyddwyr gael mynediad trwy nodi oedran ffug.
  • Mae pob un o'r tri'n gorfodi cyfyngiadau oedran gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i nodi cyfrifon dan oed posibl, gan gynnwys technolegau deallusrwydd artiffisial (AI) a chymedrolwyr dynol. Fodd bynnag, nid yw effeithiolrwydd y mesurau hyn wedi'i sefydlu eto. Mae'r adroddiad yn cynnwys y niferoedd o gyfrifon dan oed a ddilëwyd gan bob llwyfan.
  • Mae angen cyfrif ar ddefnyddwyr i gyrchu'r rhan fwyaf o gynnwys Snap neu TikTok. Mae Twitch, fodd bynnag, yn fynediad agored, sy'n golygu y gall unrhyw un o unrhyw oedran gyrchu'r rhan fwyaf o'i fideos, waeth p'un a oes ganddynt gyfrif ai beidio. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fideo lle mae label aeddfed wedi'i gymhwyso.
  • Mae'r tair llwyfan yn mabwysiadu gwahanol ddulliau o ddosbarthu a labelu cynnwys sy'n anaddas i'r rhai dan 18 oed. Mae TikTok yn dosbarthu cynnwys yn seiliedig ar rai themâu aeddfed, mae Snap yn graddio cynnwys ar Discover a Spotlight i sicrhau ei fod yn briodol i'r oedran, ac mae Twitch wedi cyflwyno labeli cynnwys manylach. Heb reolaethau mynediad a mesurau diogelwch cadarn cyfatebol, fodd bynnag, mae plant yn dal i fod mewn perygl o ddod ar draws cynnwys niweidiol. Er enghraifft, gall holl ddefnyddwyr Twitch - waeth p'un a ydynt wedi'u mewngofnodi ai beidio - weld cynnwys sy'n amhriodol i'w hoedran yn syml trwy ddiystyru'r label rhybudd.
  • Mae gan TikTok a Snap ill dau reolaethau rhieni sydd wedi'u dylunio i roi rhywfaint o oruchwyliaeth i rieni a gofalwyr o weithgarwch ar-lein eu plant. Mewn cyferbyniad, mae telerau ac amodau Twitch yn ei gwneud yn ofynnol i rieni oruchwylio plant mewn amser real wrth iddynt ddefnyddio'r gwasanaeth.

Mae amddiffyn plant – gan gynnwys sicrhau bod pobl ifanc dan 18 oed yn cael profiad ar-lein sy’n briodol i’w hoedran – yn ganolog i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Yn unol â gweithredu ein map ffordd, byddwn yn ymgynghori ar y mesurau diogelwch plant eang o dan y Ddeddf yn ystod gwanwyn 2024.

Disgwyliwn i bob gwasanaeth sydd wedi'i reoleiddio o dan y drefn VSP hefyd fod o fewn cwmpas y drefn diogelwch ar-lein. Fodd bynnag, dim ond ar ôl iddo gael ei ddirymu’n llawn gan Lywodraeth y DU y bydd yn rhaid i wasanaethau gydymffurfio â holl ddyletswyddau ehangach y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio gyda VSPs wedi'u rheoleiddio i ysgogi gwelliannau diogelwch er budd eu defnyddwyr. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltiad goruchwyliol pwrpasol, adroddiadau tryloywder pellach, neu – lle bo’n briodol – cymryd camau gorfodi.

Ymchwiliad newydd i gydymffurfiaeth TikTok â chais am wybodaeth statudol

Mae’n hanfodol bod Ofcom yn gallu cywain gwybodaeth gywir am fesurau a roddwyd ar waith gan VSPs sydd wedi'u rheoleiddio er mwyn diogelu defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys deall systemau, megis rheolaethau rhieni, i helpu sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag deunydd cyfyngedig.

Rydym yn defnyddio gwybodaeth o'r fath i fonitro'r mesurau y mae llwyfannau'n eu cymryd, asesu cydymffurfiaeth, a chyhoeddi adroddiadau cyhoeddus.

Fe wnaethom geisio gwybodaeth gan TikTok am ei system rheolaethau rhieni, Family Pairing, ac mae gennym reswm dros gredu bod yr wybodaeth a ddarparwyd ganddo'n anghywir.

Diweddariad 21 Mawrth 2025:

Ar 14 Rhagfyr 2023, fe wnaethom agor ymchwiliad i weld a oedd TikTok wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau i ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i gais ffurfiol am wybodaeth, mewn modd a bennir gan Ofcom.

Mae Penderfyniad Terfynol nawr wedi cael ei wneud. Mae manylion canlyniad yr ymchwiliad hefyd ar gael yma.

Fel rhan o’r ymchwiliad, ac at ddibenion yr adroddiad ar ddiogelu plant, darparodd TikTok set wedi’i diweddaru o ddata, am y systemau rheolaeth rhieni sydd ganddo ar waith. Dywedodd TikTok wrthym, ym mis Chwefror 2024, fod nifer y defnyddwyr yn eu harddegau yn y DU (defnyddwyr y cofnodwyd eu bod rhwng 13 ac 17 oed ar ei system) gyda Family Pairing ar waith yn cynrychioli rhwng 4-5% o gyfanswm defnyddwyr gweithredol yn eu harddegau misol TikTok yn y DU.

Darparodd TikTok set newydd o ddata sy’n ymwneud â mis Chwefror 2024 o ganlyniad i’r set ddata wedi’i diweddaru a ddaeth o ffynhonnell ddata gyda pholisïau cadw gwahanol. Roedd ein hadroddiad tryloywder wedi cael ei baratoi gan ddefnyddio data o’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 30 Mehefin 2023. Mae’r data wedi’i ddiweddaru a ddarparwyd gan TikTok yn ystod yr ymchwiliad yn cyfeirio at y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2024 a 29 Chwefror 2024.

Fel yr amlinellir yn yr adroddiad -

“Dim ond llwyfannau sydd â chysylltiad perthnasol â’r DU sy’n cael eu rheoleiddio o dan Drefn Llwyfannau Rhannu Fideos y DU. Nid oes llawer o Lwyfannau Rhannu Fideos eraill – gan gynnwys YouTube ac Instagram – yn dod o dan drefn y DU oherwydd eu bod wedi’u lleoli mewn mannau eraill. Felly, nid yw ein canfyddiadau’n cynrychioli’r sector Llwyfannau Rhannu Fideos cyfan, ac nid ydynt chwaith yn dangos bod TikTok, Twitch a Snap yn well nac yn waeth na’r llwyfannau nad ydynt o fewn cwmpas Cyfundrefn Llwyfannau Rhannu Fideos y DU. Ond mae ein hadroddiad yn dangos y dulliau mae llwyfannau wedi’u defnyddio, a’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu cyn y drefn diogelwch ar-lein ehangach.” (gweler tudalen 3).

Yn ôl i'r brig