Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cyflwyno rheolau newydd i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag cael mynediad at bornograffi.
Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, Ofcom sy’n gyfrifol am weithredu’r rheolau hyn, sy’n berthnasol i lwyfannau sy’n cyhoeddi eu deunydd pornograffig eu hunain, ac sy’n cynnal cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.
Mae’r rheolau’n rhan o ymdrech ehangach i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel ac i sicrhau bod gan wefannau a llwyfannau ar-lein fesurau ar waith i amddiffyn eu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol.
Rhaid i bob gwasanaeth sy'n caniatáu pornograffi fod â gwiriadau oedran hynod effeithiol ar waith erbyn Gorffennaf 2025 i amddiffyn plant rhag cael mynediad iddo.
Wrth roi amddiffyniad cryf i blant, bydd ein hymagwedd yn sicrhau bod hawliau preifatrwydd yn cael eu diogelu a bod oedolion yn dal i allu cael mynediad at bornograffi cyfreithiol.
Mae’r rheolau’n berthnasol i unrhyw lwyfan y gall defnyddwyr yn y DU gael mynediad ato, neu sy’n targedu marchnad y DU, ni waeth ble yn y byd y mae’r platfform wedi’i leoli.
Mae'r rheolau'n berthnasol i wahanol fathau o bornograffi
Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn rhannu gwasanaethau pornograffi ar-lein yn ddau gategori.
- Llwyfannau sy'n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain, megis stiwdios neu safleoedd talu, lle mae gweithredwyr yn rheoli'r deunydd sydd ar gael. O dan y Ddeddf, gelwir y rhain yn ‘wasanaethau Rhan 5’.
- Llwyfannau sy'n cynnal cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, megis safleoedd tiwb, safleoedd cam, a llwyfannau ffan. Gelwir y rhain yn ‘wasanaethau Rhan 3’.
Beth sydd angen i wasanaethau ei wneud, ac erbyn pryd?
Ym mis Ionawr 2025, bydd Ofcom yn cyhoeddi canllawiau ar sut rydym yn disgwyl i wasanaethau roi sicrwydd oedran hynod effeithiol ar waith yn ymarferol . Bydd y dull hwn yn berthnasol yn gyson i bob gwasanaeth perthnasol. O fis Ionawr:
- Rhaid i lwyfannau sy’n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain (gwasanaethau Rhan 5) gymryd camau ar unwaith i ddechrau cyflwyno mesurau sicrwydd oedran hynod effeithiol, yn unol â’n canllawiau . Gall gwasanaethau ddarllen crynodeb o gynigion drafft Ofcom yma.
- Rhaid i wefannau sy’n caniatáu cynnwys pornograffig a gynhyrchir gan ddefnyddwyr (gwasanaethau Rhan 3) ) gynnal asesiadau i gadarnhau a yw pobl ifanc dan 18 oed yn gallu cael mynediad at gynnwys ar eu platfformau yn unol â’n canllawiau asesu mynediad plant a gyhoeddir ym mis Ionawr. Oni bai eu bod eisoes yn defnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad at bornograffi, rydym yn disgwyl iddynt gael eu cynnwys gan yr holl ddyletswyddau diogelwch plant - gan gynnwys gofynion sicrwydd oedran - a gyhoeddir ym mis Ebrill 2025.
- Yn ogystal, disgwylir i wasanaethau Rhan 3 ddechrau cymryd camau i gydymffurfio â'u dyletswyddau i amddiffyn pobl rhag cynnwys anghyfreithlon o fis Rhagfyr 2024. Bydd gan wasanaethau dri mis i gwblhau "Asesiad Risg Cynnwys Anghyfreithlon", gan nodi pa fesurau y maent yn cymryd, neu'n bwriadu cymryd. Dylai gwasanaethau fod yn barod i roi mesurau ar waith i fynd i’r afael â niwed anghyfreithlon o fis Ebrill 2025.
Mae hyn yn golygu, erbyn mis Gorffennaf 2025, bod yn rhaid i bob llwyfan sy'n caniatáu cynnal pornograffi ar eu gwasanaethau fod â mesurau sicrwydd oedran hynod effeithiol ar waith i amddiffyn rhai o dan 18 oed. Mae hyn yn wir p'un a yw gwasanaeth yn cyhoeddi ei gynnwys pornograffig ei hun neu'n caniatáu cynnwys pornograffig a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.
Mae Ofcom yn gweithio i sicrhau bod y diwydiant oedolion yn ymwybodol o'r gofynion yma yn ogystal â’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gydymffurfio.
Gallwch ddarllen mwy am y gwahanol gerrig milltir wrth weithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ein map ffordd.