Ar gau
Fenix International Limited, in its capacity as provider of the VSP OnlyFans
1 Mai 2024
26 Mawrth 2025
Investigation into whether Fenix, provider of OnlyFans, failed to provide complete and accurate responses to statutory information requests.
Section 368Y(3)(b) and Section 368Z10(6) of the Communications Act 2003 (the ‘Act’)
Ar 26 Mawrth 2025, rhoddodd Ofcom ei benderfyniad terfynol i Fenix International Limited (Fenix) o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (‘y Ddeddf’).
Mae Ofcom wedi cadarnhau bod Fenix wedi mynd yn groes i’w ddyletswyddau o dan adrannau canlynol y Ddeddf:
- adran 368Y(3)(b): dyletswydd i gydymffurfio â gofyniad am wybodaeth o dan adran 368Z10; ac
- adran 368Z10(6): dyletswydd i ddarparu gwybodaeth mewn modd a ffurf ac o fewn cyfnod rhesymol a bennir gan Ofcom mewn cais am wybodaeth o dan adran 368Z10.
Canfu ein hymchwiliad fod Fenix wedi methu â darparu data cywir i Ofcom ddwywaith, mewn ymateb i ddau gais statudol am wybodaeth, a gyhoeddwyd ar 6 Mehefin 2022 a 23 Mehefin 2023. Mewn ymateb i bob cais, dywedodd Fenix wrth Ofcom fod yr ‘oed herio’ amcangyfrif oedran ar gyfer OnlyFans wedi’i osod i 23 oed, ond mewn gwirionedd roedd wedi’i osod i 20 oed.
O ganlyniad i’r methiannau hyn, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £1.05 miliwn i Fenix. Mae’r gosb yn cynnwys gostyngiad o 30% oddi ar y gosb y byddem fel arall wedi’i rhoi, gan fod Fenix wedi derbyn ein canfyddiadau ac wedi setlo’r achos.
Wrth benderfynu ar lefel y gosb, fe wnaethom ystyried, ymysg pethau eraill:
- roedd y camgymeriadau yn y data wedi cael effaith uniongyrchol ar ein gwaith rheoleiddio – sef llesteirio ein gallu i fonitro mesurau sicrwydd oedran OnlyFans yn effeithiol a thanseilio’r broses i ddarparu’r wybodaeth honno i’r cyhoedd;
- cafodd y data anghywir ei gyhoeddi yn adroddiad VSP Blwyddyn 1 Ofcom – roedd y ffaith bod Fenix wedi cyflwyno gwybodaeth anghywir mewn ymateb i Hysbysiad 2022 wedi golygu bod Ofcom wedi cyhoeddi gwybodaeth anghywir yn ein hadroddiad tryloywder VSP cyntaf ym mis Hydref 2022. Pwrpas yr adroddiad hwn oedd rhoi tryloywder i’r diwydiant ac i’r cyhoedd, gan dynnu sylw at sut mae darparwyr VSP yn gosod, yn gorfodi ac yn profi’r mesurau maen nhw’n eu rhoi ar waith i ddiogelu defnyddwyr;
- parhaodd y tramgwydd am dros 16 mis – cyflwynwyd yr un wybodaeth anghywir mewn ymateb i ddau gais statudol am wybodaeth a chymerodd gryn amser i ganfod y gwall;
- mae Fenix yn gwmni mawr gyda llawer o adnoddau, sy’n ymwybodol iawn o’i rwymedigaethau rheoleiddiol. O’r herwydd, byddem wedi disgwyl iddo fod yn llawer mwy gofalus i sicrhau bod unrhyw ddata a gyflwynir i Ofcom yn cael ei archwilio, yn cael ei groeswirio a’i adolygu’n briodol cyn ei gyflwyno i Ofcom;
- cymerodd 18 diwrnod i Fenix roi gwybod i Ofcom am hyn ar ôl iddo gael ei ddarganfod. Mae Ofcom yn disgwyl cael gwybod am unrhyw achosion posibl o dorri amodau cyn gynted â phosibl ac o fewn cyfnod mor fyr ag sy’n rhesymol yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos; a
- rhoddodd Fenix ei hun wybod i ni am hyn. Er ein bod yn bryderus ei bod wedi cymryd 18 diwrnod i Fenix roi gwybod i Ofcom am y mater, rydym yn cydnabod bod Fenix wedi rhoi gwybod i ni’n rhagweithiol ac mae’r wybodaeth gywir wedi cael ei darparu ers hynny.
Yn dilyn ein hystyried o'r wybodaeth a gasglwyd yn yr achos hwn, gan gynnwys gan Fenix International Limited fel darparwr OnlyFans, rydym wedi adolygu cwmpas yr ymchwiliad.
Rydym wedi penderfynu cau ein hymchwiliad i weld a wnaeth Fenix International Limited dorri ei ddyletswydd o dan Adran 368Z1(2) o'r Ddeddf i weithredu mesurau a gymerwyd mewn modd sy'n cyflawni'r pwrpas o amddiffyn pobl dan 18 oed rhag dod ar draws deunydd cyfyngedig fel pornograffi. Lle bo’n briodol, bydd tîm Goruchwylio Ofcom yn parhau i ymgysylltu ag OnlyFans ynghylch y ffordd y mae’n gweithredu mesurau i amddiffyn plant rhag deunydd cyfyngedig.
Rydym hefyd wedi penderfynu cau ein hymchwiliad i p'un ai fethodd Fenix International Limited â chydweithredu’n llawn ag Ofcom gan dorri ei ddyletswydd o dan Adran 368Y(3)(c) o’r Ddeddf.
Nid ydym yn gwneud unrhyw ganfyddiadau ar y materion hyn ac os daw rhagor o wybodaeth i'r amlwg, rydym yn cadw ein hawl i ail-agor yr ymchwiliad hwn.
Mae’r ymchwiliad yn parhau i archwilio a oes sail resymol dros gredu bod Fenix International Limited wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Adran 368Y(3)(b) ac Adran 368Z10(6) o’r Ddeddf i ddarparu ymatebion cyflawn a chywir i geisiadau am wybodaeth statudol.
Byddwn yn diweddaru’r bwletin unwaith y byddwn wedi cwblhau ein hymchwiliad.
Yn dilyn lansio ein hymchwiliad ar 1 Mai 2024 i Fenix International Limited fel darparwr OnlyFans, fe wnaethom wedyn gyhoeddi cais statudol am wybodaeth. Rydym wedi derbyn ymateb i’n cais am wybodaeth ac rydym yn adolygu’r wybodaeth ar hyn o bryd. Byddwn yn darparu diweddariad pellach maes o law.
Mae Ofcom wedi bod yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi’u sefydlu yn y DU ers mis Tachwedd 2020 ac mae diogelwch plant ar-lein yn un o’n prif flaenoriaethau. Fel rhan o'n swyddogaethau yn y drefn hon, rydym yn monitro sut mae pobl o dan 18 oed yn cael eu hamddiffyn rhag deunydd cyfyngedig megis deunydd a allai amharu ar eu datblygiad corfforol, meddyliol neu foesol.
Er mwyn cyflawni ein gwaith mewn perthynas â hyn, mae'n hanfodol y gallwn gasglu gwybodaeth gywir am y mesurau a roddwyd ar waith i amddiffyn defnyddwyr i'n galluogi i adrodd ar y rhain a monitro eu heffeithiolrwydd. Mae hyn yn cynnwys deall systemau, megis mesurau sicrwydd oedran a meddalwedd a ddefnyddir, i helpu i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag deunydd cyfyngedig. Gall Ofcom ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwn i baratoi a chyhoeddi adroddiadau o dan adran 368Z11 o’r Ddeddf.
O dan adran 368Z1(1)(a) o’r Ddeddf, mae’n ofynnol i ddarparwyr gymryd y cyfryw o’r mesurau a nodir yn Atodlen 15A ag sy’n briodol at ddibenion diogelu pobl o dan 18 oed rhag fideos a chyfathrebiadau masnachol clyweledol sy’n cynnwys deunydd cyfyngedig.
O dan adran 368Z1(2) o’r Ddeddf, pan fydd mesurau o’r fath yn cael eu cymryd, rhaid i ddarparwyr weithredu'r mesur yn y fath fodd fel eu bod yn cyflawni'r diben penodedig.
Yn ogystal, mae adran 368Y(3) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr:
- darparu’r wybodaeth y gofynnodd Ofcom amdano yn unol ag adran 368Z10 o’r Ddeddf; a chydweithredu’n llawn ag Ofcom at unrhyw ddiben a grybwyllir yn adran 368Z10(3). Os oes gan Ofcom sail resymol dros gredu bod y rhwymedigaethau a grybwyllwyd uchod wedi cael eu torri neu eu bod yn digwydd, gallwn gymryd camau gorfodi o dan adran 368Z2 a 368Z3 y Ddeddf.
Ymchwiliad
Heddiw rydym wedi agor ymchwiliad i Fenix International Limited, darparwr OnlyFans. Mae’r ymchwiliad yn ymwneud â chydymffurfiaeth OnlyFans â’i rwymedigaethau statudol o dan adrannau 368Y(3)(b) ac (c), 368Z10(6), a 368Z1(2) o’r Ddeddf. Yn benodol, mae ein hymchwiliad yn ymwneud â gofyniad OnlyFans i:
- gweithredu’r mesurau sicrwydd oedran y mae wedi’u cymryd yn y fath fodd ag i amddiffyn rhai o dan 18 oed rhag deunydd cyfyngedig, gan gynnwys deunydd pornograffig; a
- cydymffurfio â dau hysbysiad cais am wybodaeth a gyhoeddwyd ar 6 Mehefin 2022 a 23 Mehefin 2023 o dan adran 368Z10 o’r Ddeddf.
Ymhlith pethau eraill, roedd yr hysbysiadau hyn yn gofyn am wybodaeth i:
- deall a monitro'r mesurau oedd gan OnlyFans ar waith, gan gynnwys mesurau i sicrhau oedran ei ddefnyddwyr, a sut y cawsant eu gweithredu i helpu i sicrhau bod defnyddwyr dan 18 oed yn cael eu hamddiffyn rhag deunydd cyfyngedig, gan gynnwys pornograffi; a
- galluogi Ofcom i gyhoeddi adroddiad o dan adran 368Z11 yn tynnu sylw at sut mae OnlyFans ac eraill yn diogelu rhai o dan 18 oed rhag deunydd cyfyngedig.
Mae 'Defnyddwyr' yn golygu unrhyw un sy'n gallu cyrchu a/neu wylio fideos ar OnlyFans.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu nad yw'r wybodaeth a ddarparwyd gan OnlyFans mewn ymateb i’r ddau hysbysiad yn gyflawn ac yn gywir, ac efallai nad yw’r mesurau sicrwydd oedran yr oedd wedi’u cymryd wedi’u rhoi ar waith yn y fath fodd ag i amddiffyn rhai dan 18 rhag deunydd cyfyngedig.
Bydd ymchwiliad Ofcom felly’n archwilio a oes sail resymol dros gredu bod OnlyFans wedi methu â chydymffurfio ag adran 368Z1(2) o’r Ddeddf a/neu wedi mynd yn groes i adrannau 368Y(3)(b) ac (c), a 368Z10(6) o’r Ddeddf.
Rydym yn disgwyl rhoi diweddariad ar yr ymchwiliad hwn erbyn Awst 2024.
CW/01283/04/24