Ymgynghori â phlant am ddiogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2024

Ym mis Hydref 2023, dechreuodd pwerau Ofcom fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein yn swyddogol. Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu mesurau diogelwch i helpu i ddiogelu plant ar-lein, rydym wedi bod yn ymghynghori â phlant i gael eu hadborth ar ein cynigion.

Wrth ddatblygu mesurau diogelwch ar-lein i blant, mae Ofcom yn ymgysylltu â miloedd o leisiau a phrofiadau plant drwy ei ymchwil. Ond rydym hefyd wedi bod yn ymgynghori’n uniongyrchol â phlant ynghylch ein cynigion polisi ar gyfer eu diogelu ar-lein.

Fel rhan o’r ymgynghoriad niwed anghyfreithlon, fe wnaethom gynnal gweithdai ymchwil ac ymgysylltu â 77 o blant mewn pedair ysgol wahanol i gael eu barn ar ein cynigion ac i ddiogelu plant rhag meithrin perthynas amhriodol ar-lein. Cyhoeddwyd yr adroddiad o’r prosiect hwn ym mis Rhagfyr 2024.

Fel rhan o’r ymgynghoriad amddiffyn plant (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig), mae dros 100 o blant ledled y DU wedi cymryd rhan mewn gweithdai cydgynghorol, gweithgareddau yn y cartref a chyfweliadau, i rannu eu barn ar amrywiaeth o gynigion i amddiffyn plant rhag niwed ar-lein. Rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiad y prosiect hwn ar yr un pryd â’n datganiad amddiffyn plant, sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Ebrill 2025.

Yn ôl i'r brig