Cyhoeddwyd:
6 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf:
10 Tachwedd 2023
Mae Ofcom wedi comisiynu Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) i gynnal ymchwil i wella ein dealltwriaeth o wasanaethau pornograffi ar-lein, gan ganolbwyntio'n benodol ar y ffordd y caiff cynnwys pornograffig ei gyhoeddi neu ei arddangos a pha mor hawdd y gall defnyddwyr yn y DU ei gyrchu.
Mae'r BBFC yn rheoleiddiwr annibynnol gyda phrofiad o weithio ar ddosbarthiad pornograffi. Bwriad yr ymchwil yw cyfeirio ein gwaith o gynhyrchu codau ac arweiniad o dan Ran 3 a Rhan 5 o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Mae'r holl ganfyddiadau'n seiliedig ar wybodaeth a oedd ar gael i'r cyhoedd heb gofrestru cyfrif defnyddiwr ar y gwasanaethau a archwiliwyd.
Adroddiad: Gweithrediad gwasanaethau pornograffi ar-lein (PDF, 386.6 KB)