- Mae Ofcom yn cyhoeddi canllawiau i’r diwydiant ar wiriadau oedran effeithiol i atal plant rhag dod ar draws pornograffi ar-lein, a’u hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol arall
- Rhaid i wasanaethau pornograffi gyflwyno gwiriadau oedran erbyn mis Gorffennaf 2025 fan bellaf
- Rhaglen orfodi yn agor i fonitro cydymffurfiad y diwydiant
Bydd plant yn cael eu hatal rhag dod ar draws pornograffi ar-lein a’u hamddiffyn rhag mathau eraill o gynnwys niweidiol o dan ganllawiau newydd Ofcom i'r diwydiant, sy’n nodi sut rydym yn disgwyl i safleoedd ac apiau gyflwyno sicrwydd oedran effeithiol iawn.
Penderfyniadau heddiw yw’r cam nesaf tuag at Ofcom yn gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein a chreu bywyd mwy diogel ar-lein i bobl yn y DU, yn enwedig plant. Mae’n dilyn safonau llym y diwydiant, a gyhoeddwyd fis diwethaf, i fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon ar-lein, ac mae’n dod cyn y mesurau diogelu plant ehangach a fydd yn cael eu lansio yn y gwanwyn.
Mae gwiriadau oedran cadarn yn un o gonglfeini’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae’n mynnu bod gwasanaethau sy’n caniatáu i bornograffi neu fathau penodol o gynnwys niweidiol arall gyflwyno ‘sicrwydd oedran’ i sicrhau nad yw plant fel arfer yn gallu dod ar ei draws.[1] Rhaid i ddulliau sicrhau oedran – sy’n cynnwys dilysu oedran, amcangyfrif oedran neu gyfuniad o’r ddau – fod yn ‘effeithiol iawn’ wrth benderfynu’n gywir a yw defnyddiwr penodol yn blentyn.
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i’r diwydiant ar sut rydym yn disgwyl i sicrwydd oedran gael ei roi ar waith yn ymarferol er mwyn iddo gael ei ystyried yn effeithiol iawn. Mae ein hagwedd yn hyblyg, yn niwtral o ran technoleg ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn caniatáu lle i fod yn arloesol ym maes sicrwydd oedran, sy’n cynrychioli rhan bwysig o sector technoleg diogelwch ehangach lle mae’r DU yn arweinydd byd-eang[2]. Rydym yn disgwyl i’r dull gael ei ddefnyddio’n gyson ar draws pob rhan o’r drefn diogelwch ar-lein dros amser.
Er ein bod yn darparu amddiffyniadau cryf i blant, mae ein dull gweithredu hefyd yn cymryd gofal i sicrhau bod hawliau preifatrwydd yn cael eu diogelu a bod oedolion yn dal i allu cael mynediad at bornograffi cyfreithiol. Wrth i lwyfannau gymryd camau i gyflwyno sicrwydd oedran dros y chwe mis nesaf, bydd oedolion yn dechrau sylwi ar newidiadau yn y ffordd maen nhw’n defnyddio rhai gwasanaethau ar-lein. Mae ein tystiolaeth yn awgrymu bod y mwyafrif helaeth o oedolion (80%) yn cefnogi mesurau sicrhau oedran yn gyffredinol i atal plant rhag dod ar draws pornograffi ar-lein.[3]
Beth mae’n rhaid i wasanaethau ar-lein ei wneud, ac erbyn pryd?
Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn rhannu gwasanaethau ar-lein yn wahanol gategorïau gyda llwybrau gwahanol i gynnal gwiriadau oedran. Fodd bynnag, mae’r camau rydym yn disgwyl i bob un ohonynt eu cymryd yn dechrau heddiw:
- Gofyniad i gynnal asesiad mynediad plant. Rhaid i’r holl wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaethau chwilio - a ddiffinnir fel gwasanaethau ‘Rhan 3’[4] - sydd o fewn cwmpas y Ddeddf, gynnal asesiad o fynediad plant i benderfynu a yw eu gwasanaeth - neu ran ohono - yn debygol o gael ei ddefnyddio gan blant. O heddiw ymlaen, mae gan y gwasanaethau hyn dri mis i gwblhau eu hasesiadau mynediad plant, yn unol â’n canllawiau, gyda dyddiad cau terfynol o 16 Ebrill. Oni bai eu bod eisoes yn defnyddio sicrwydd oedran effeithiol iawn, ac yn gallu dangos tystiolaeth o hyn, rydym yn rhagweld y bydd angen i’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau hyn ddod i’r casgliad bod plant yn debygol o gael mynediad atynt o fewn ystyr y Ddeddf. Rhaid i wasanaethau sy’n dod o fewn y categori hwn gydymffurfio â’r dyletswyddau asesu’r risg i blant a’r dyletswyddau diogelwch plant.[5]
- Mesurau i amddiffyn plant ar gyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr eraill. Byddwn yn cyhoeddi ein Codau Amddiffyn Plant a’n canllawiau ar asesu risg plant yn Ebrill 2025. Mae hyn yn golygu y bydd angen i wasanaethau mae plant yn debygol o gael mynediad atynt gynnal asesiad o’r risg i blant erbyn mis Gorffennaf 2025 – hynny yw, o fewn tri mis. Ar ôl hyn, bydd angen iddynt roi mesurau ar waith i amddiffyn plant ar eu gwasanaethau yn unol â’n Codau Amddiffyn Plant i fynd i’r afael â’r risgiau o niwed a nodwyd. Gall y mesurau hyn gynnwys cyflwyno gwiriadau oedran i benderfynu pa rai o’u defnyddwyr sydd o dan 18 oed, a’u hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol.
- Mae’n rhaid i wasanaethau sy’n caniatáu pornograffi gyflwyno prosesau i wirio oedran defnyddwyr: rhaid i bob gwasanaeth sy’n caniatáu pornograffi fod â phrosesau sicrwydd oedran effeithiol iawn ar waith erbyn mis Gorffennaf 2025 fan bellaf er mwyn amddiffyn plant rhag dod ar ei draws. Mae’r Ddeddf yn gosod terfynau amser gwahanol ar wahanol fathau o ddarparwyr. Rhaid i wasanaethau sy’n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain (a ddiffinnir fel ‘Gwasanaethau Rhan 5’[6]) gan gynnwys rhai adnoddau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, ddechrau cymryd camau ar unwaith i gyflwyno gwiriadau oedran cadarn, yn unol â’n canllawiau cyhoeddedig. Rhaid i wasanaethau sy’n caniatáu cynnwys pornograffig a gynhyrchir gan ddefnyddwyr - sy’n dod o dan wasanaethau ‘Rhan 3’ - fod â gwiriadau oedran ar waith yn llawn erbyn mis Gorffennaf.
Beth mae sicrwydd oedran effeithiol iawn yn ei olygu?
Mae ein dull gweithredu ar gyfer sicrhau oedran yn effeithiol iawn a sut rydym yn disgwyl iddo gael ei roi ar waith yn ymarferol yn gyson ar draws tri darn o ganllawiau’r diwydiant, a gyhoeddir heddiw[5]. Ein safbwynt terfynol, yn gryno:
- yn cadarnhau bod yn rhaid i unrhyw ddulliau gwirio oedran a ddefnyddir gan wasanaethau fod yn dechnegol gywir, yn gadarn, yn ddibynadwy ac yn deg er mwyn cael eu hystyried yn effeithiol iawn;
- yn nodi rhestr nad yw’n gynhwysfawr o ddulliau sy’n gallu bod yn effeithiol iawn yn ein barn ni. Mae’r rhain yn cynnwys: bancio agored, paru ID llun, amcangyfrif oedran yr wyneb, gwiriadau oedran gweithredwr rhwydwaith symudol, gwiriadau cardiau credyd, gwasanaethau adnabod digidol ac amcangyfrif oedran ar sail e-bost;
- yn cadarnhau nad yw dulliau sy’n cynnwys hunan-ddatgan oedran a thaliadau ar-lein nad ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn 18 oed yn effeithiol iawn;
- yn datgan na ddylai cynnwys pornograffig fod yn weladwy i ddefnyddwyr cyn nac yn ystod y broses o gwblhau gwiriad oedran. Ac ni ddylai gwasanaethau gynnal na chaniatáu cynnwys sy’n cyfarwyddo nac yn annog defnyddwyr i geisio osgoi'r broses sicrwydd oedran; ac
- yn gosod disgwyliadau bod safleoedd ac apiau’n ystyried buddiannau pob defnyddiwr wrth weithredu sicrwydd oedran – gan roi amddiffyniad cryf i blant, ar yr un pryd â pharchu hawliau preifatrwydd, a bod oedolion yn dal i allu cael mynediad at bornograffi cyfreithiol.
Rydym o’r farn y bydd y dull hwn yn sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer amddiffyn plant ar-lein yn ystod blynyddoedd cynnar y Ddeddf mewn grym. Er ein bod wedi penderfynu peidio â chyflwyno trothwyon rhifiadol ar gyfer sicrwydd oedran effeithiol iawn ar hyn o bryd (e.e. cywirdeb 99%), rydym yn cydnabod y gall trothwyon rhifiadol ategu ein pedwar maen prawf yn y dyfodol, wrth aros am ddatblygiadau pellach mewn methodolegau profi, safonau’r diwydiant, ac ymchwil annibynnol.
Agor rhaglen orfodi newydd
Rydym yn disgwyl i bob gwasanaeth fynd ati’n rhagweithiol i gydymffurfio a chwrdd â’u terfynau amser gweithredu perthnasol. Heddiw, mae Ofcom yn agor rhaglen gorfodi sicrhau oedran, gan ganolbwyntio’n gyntaf ar wasanaethau Rhan 5 sy’n dangos neu’n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain.
Byddwn yn cysylltu ag ystod o wasanaethau i oedolion – mawr a bach – i roi gwybod iddynt am eu rhwymedigaethau newydd. Ni fyddwn yn oedi cyn gweithredu a lansio ymchwiliadau yn erbyn gwasanaethau nad ydynt yn ymgysylltu nac yn cydymffurfio yn y pen draw.
Am ormod o amser, mae llawer o wasanaethau ar-lein sy’n caniatáu pornograffi a deunydd niweidiol arall wedi anwybyddu’r ffaith bod plant yn defnyddio eu gwasanaethau. Naill ai dydyn nhw ddim yn gofyn neu, pan fyddan nhw’n gofyn, mae’r gwiriadau’n fach iawn ac yn hawdd eu hosgoi. Mae hynny’n golygu bod cwmnïau i bob pwrpas wedi bod yn trin pob defnyddiwr fel oedolyn, gan adael plant o bosibl yn agored i bornograffi a mathau eraill o gynnwys niweidiol. Heddiw, mae hyn yn dechrau newid.
Wrth i wiriadau oedran ddechrau cael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf, bydd oedolion yn dechrau sylwi ar wahaniaeth yn y ffordd maen nhw’n cael mynediad at rai gwasanaethau ar-lein. Rhaid i wasanaethau sy’n cynnal eu pornograffi eu hunain ddechrau cyflwyno gwiriadau oedran ar unwaith, a bydd yn rhaid i wasanaethau defnyddwyr-i-ddefnyddiwr eraill – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol – sy’n caniatáu pornograffi a mathau penodol o gynnwys sy’n niweidiol i blant, ddilyn yr un drefn erbyn mis Gorffennaf fan bellaf.
Byddwn yn monitro’r ymateb gan y diwydiant yn ofalus. Gall y cwmnïau hynny sy’n methu â bodloni’r gofynion newydd hyn ddisgwyl wynebu camau gorfodi gan Ofcom.
- Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom
-DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion
- Mae ymchwil yn dangos bod plant yn dod i gysylltiad â phornograffi ar-lein o oedran cynnar. O’r rheini sydd wedi gweld pornograffi ar-lein, yr oedran cyfartalog maen nhw’n dod ar ei draws am y tro cyntaf yw 13 oed – er bod dros chwarter yn dod ar ei draws erbyn 11 oed (27%), ac un o bob deg mor ifanc â 9 (10%). Ffynhonnell: ‘A lot of it is actually just abuse’- Young people and pornographyComisiynydd Plant Lloegr
- Mae ymchwil gan Lywodraeth y DU yn dangos bod cwmnïau yn y DU yn cyfrif am amcangyfrif o un o bob pedwar (23%) o’r gweithlu technoleg diogelwch byd-eang. Mae 28% o gwmnïau technoleg diogelwch wedi’u lleoli yn y DU yn ôl ymchwil diweddar gan Paladin Capital a PUBLIC.
- Ffynhonnell: Yonder Consulting - Adult Users’ Attitudes to Age Verification on Adult Sites
- Mae gwasanaethau ‘Rhan 3’ yn cynnwys y rheini sy’n cynnal cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr, fel cyfryngau cymdeithasol, safleoedd tiwb, safleoedd camerâu byw, a llwyfannau dilynwyr.
- Rhaid i wasanaethau sy’n dod i’r casgliad nad yw plant yn debygol o gael mynediad atynt – gan gynnwys lle mae hyn oherwydd eu bod yn defnyddio dulliau effeithiol iawn o sicrhau oedran – gofnodi canlyniad eu hasesiad a rhaid iddynt ailadrodd yr asesiad mynediad plant o leiaf unwaith y flwyddyn.
- Gwasanaethau ‘Rhan 5’ yw’r rheini sy’n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain, fel stiwdios neu safleoedd talu, lle mae gweithredwyr yn rheoli’r deunydd sydd ar gael.