Boy watching video on tablet in bed

Gwefannau i oedolion yn y DU ddim yn gwneud digon i ddiogelu plant

Cyhoeddwyd: 20 Hydref 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023
  • Nid oes gan y rhan fwyaf o wefannau i oedolion yn y DU fesurau cadarn ar waith i atal plant rhag cael mynediad i bornograffi
  • Mae'r mwyaf – OnlyFans – wedi cyflwyno dilysiad oedran newydd wrth ymateb i reoleiddio
  • Mae Ofcom yn disgwyl gweithredu brys gan gwmnïau eraill i ddiogelu plant

Nid oes gan wefannau rhannu fideos bach i oedolion a leolir yn y DU fesurau rheoli mynediad digon cadarn i atal plant rhag cael mynediad at bornograffi, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.

Cyn ein dyletswyddau sydd ar ddod yn y Mesur Diogelwch Ar-lein, mae gan Ofcom rai pwerau eisoes i reoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSP) a sefydlir yn y DU, y mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith iddynt gymryd mesurau i ddiogelu pobl sy'n defnyddio eu gwefannau ac apiau rhag fideos niweidiol.

Mae 19 o gwmnïau wedi ein hysbysu eu bod yn dod o dan ein hawdurdodaeth. Maent yn cynnwys TikTok, Snapchat, Twitch, Vimeo, OnlyFans a BitChute; yn ogystal â sawl llwyfan fach, gan gynnwys gwefannau i oedolion.

Rydym wedi defnyddio ein pwerau i gywain gwybodaeth gan lwyfannau ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud i ddiogelu defnyddwyr rhag niwed ar-lein. Ofcom yw un o'r rheoleiddwyr cyntaf yn Ewrop i wneud hyn - yr adroddiad heddiw yw'r cyntaf o'i fath o dan y deddfau hyn ac mae'n datgelu gwybodaeth nas cyhoeddwyd o'r blaen gan y cwmnïau hyn.

Ein canfyddiadau

Mae Ofcom yn pryderu nad oes gan wefannau bach i oedolion a leolir yn y DU fesurau cadarn ar waith i atal plant rhag cael mynediad i bornograffi.  Mae ganddynt oll fesurau gwirio oedran ar waith pan fydd defnyddwyr yn cofrestru i bostio cynnwys. Er hynny, yn gyffredinol, gall defnyddwyr gael mynediad at gynnwys i oedolion ddim ond trwy hunan-ddatgan eu bod dros 18 oed.[1]

Dywedodd un lwyfan fach i oedolion wrthym ei bod wedi ystyried rhoi dilysiad oedran ar waith, ond wedi penderfynu peidio â gwneud gan y byddai'n lleihau proffidioldeb y busnes.

Fodd bynnag, mae gwefan cynnwys i oedolion fwyaf y DU, OnlyFans, wedi ymateb i reoleiddio drwy fabwysiadu dilysiad oedran i bob tanysgrifiwr newydd yn y DU, gan ddefnyddio offer trydydd parti a ddarperir gan Yoti a Ondato.

Yn ôl ymchwil newydd rydym wedi'i chyhoeddi heddiw, nid oes ots gan y rhan fwyaf o bobl (81%) brofi eu hoedran ar-lein yn gyffredinol, gyda mwyafrif (78%) yn disgwyl gorfod gwneud hynny ar gyfer rhai gweithgareddau ar-lein. Mae cyfran debyg (80%) yn teimlo y dylai fod yn ofynnol i ddefnyddwyr y rhyngrwyd ddilysu eu hoedran wrth gael mynediad at bornograffi ar-lein, yn enwedig ar safleoedd penodedig i oedolion.

Dros y flwyddyn nesaf, mae'n rhaid i wefannau i oedolion yr ydym eisoes yn eu rheoleiddio roi cynlluniau clir ar waith i weithredu mesurau gwirio oedran cadarn. Os nad ydynt yn gwneud hyn, mae'n bosib y byddant yn wynebu camau gorfodi. O dan y cyfreithiau Diogelwch Ar-lein sydd ar y gweill, bydd gan Ofcom bwerau ehangach i sicrhau bod llawer mwy o wasanaethau'n diogelu plant rhag cynnwys i oedolion.

Bach o gynnydd wrth ddiogelu defnyddwyr, ond mae mwy i'w wneud

Rydym wedi gweld rhai cwmnïau'n gwneud newidiadau cadarnhaol yn fwy cyffredinol i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol ar-lein, gan gynnwys o ganlyniad uniongyrchol i gael eu rheoleiddio o dan y deddfau presennol. Er enghraifft:

  • Mae TikTok bellach yn categoreiddio cynnwys a allai fod yn anaddas i ddefnyddwyr iau, i'w hatal rhag ei weld. Mae hefyd wedi sefydlu Pwyllgor Goruchwylio Diogelwch Ar-lein, sy'n darparu goruchwyliaeth weithredol o gynnwys a chydymffurfiaeth diogelwch yn benodol o fewn y DU a'r UE.
  • Yn ddiweddar, lansiodd Snapchat nodwedd reoli i rieni, Family Center, sy'n caniatáu i rieni a gwarcheidwaid weld rhestr o sgyrsiau eu plentyn heb weld cynnwys y neges.
  • Mae Vimeo bellach yn caniatáu i ddim ond y cynnwys sydd wedi'i raddio fel 'all audiences' fod yn weladwy i ddefnyddwyr heb gyfrif. Mae'r cynnwys sydd wedi'i raddio'n 'mature' neu'n 'unrated' bellach yn cael ei roi y tu ôl i'r sgrin fewngofnodi yn awtomatig.
  • Mae BitChute wedi diweddaru ei delerau ac amodau a chynyddu nifer y bobl sy'n goruchwylio ac – os oes angen – dileu cynnwys.

Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw llawer o lwyfannau wedi'u cyfarparu na'u paratoi nac â digon o adnoddau ar gyfer rheoleiddio. Yn ddiweddar, rydym wedi agor ymchwiliad ffurfiol i un cwmni, Tapnet Ltd - sy'n gweithredu'r wefan i oedolion RevealMe - mewn perthynas â'i ymateb i'n cais am wybodaeth.

Gwelsom hefyd nad yw cwmnïau'n blaenoriaethu asesiadau risg o'u llwyfannau, rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn rhan annatod o nodi a lliniaru risgiau i ddefnyddwyr yn rhagweithiol. Bydd hyn yn ofyniad ar bob gwasanaeth sy'n cael eu rheoleiddio o dan ddeddfau diogelwch ar-lein yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad heddiw yn flaengar yn y byd. Rydym wedi defnyddio ein pwerau i godi'r clawr ar yr hyn y mae gwefannau fideo'r DU yn ei wneud i ofalu am y bobl sy'n eu defnyddio. Mae'n dangos y gall rheoleiddio wneud gwahaniaeth, gan fod rhai cwmnïau wedi ymateb drwy gyflwyno mesurau diogelwch newydd, gan gynnwys dilysiad oedran a mesurau rheoli i rieni.

Ond rydym hefyd wedi datgelu'r bylchau ar draws y diwydiant, ac yn awr yn gwybod cymaint sydd angen iddynt ei wneud. Mae'n bryderus iawn gweld mwy o enghreifftiau eto o lwyfannau'n rhoi elw cyn diogelwch plant. Rydym wedi rhoi gwefannau i oedolion y DU ar rybudd i ddisgrifio'r hyn y byddant yn ei wneud i atal plant rhag cael mynediad atynt.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Yn annhebyg i'n gwaith darlledu, nid asesu fideos unigol mo ein rôl ni. Oherwydd y maint enfawr o gynnwys ar-lein, mae'n amhosib atal pob achos o gynnwys niweidiol. Felly gwaith Ofcom yw sicrhau bod y llwyfannau'n cymryd camau effeithiol i fynd i'r afael â chynnwys niweidiol.

Dros y deuddeg mis nesaf, rydym yn disgwyl i gwmnïau osod a gorfodi telerau ac amodau effeithiol ar gyfer eu defnyddwyr, a dileu neu gyfyngu ar gynnwys niweidiol yn gyflym unwaith y byddant yn ymwybodol ohono. Byddwn yn adolygu'r offer a ddarperir gan lwyfannau i'w defnyddwyr i reoli eu profiad, ac yn disgwyl iddynt amlinellu cynlluniau clir ar gyfer diogelu plant rhag y cynnwys ar-lein mwyaf niweidiol, gan gynnwys pornograffi.

Y Mesur Diogelwch Ar-lein

Bydd y deddfau Diogelwch Ar-lein sydd ar ddod yn rhoi dyletswyddau a phwerau ehangach i Ofcom, a bydd yn ofynnol i lawer mwy o wasanaethau ddiogelu eu defnyddwyr.

Byddwn yn symud yn gyflym unwaith y bydd y Mesur yn pasio i roi'r cyfreithiau hyn ar waith. Mae'n rhaid i gwmnïau technoleg fod yn barod i gwrdd â'n terfynau amser a chydymffurfio â'u dyletswyddau newydd. Dylai'r gwaith hwnnw ddechrau nawr, ac nid oes angen i gwmnïau aros i'r cyfreithiau newydd i wneud eu gwefannau a'u hapiau'n fwy diogel i ddefnyddwyr.

Yn benodol, rydym yn annog pob cwmni sy'n debygol o ddod o dan ein cwmpas i adolygu sut maen nhw'n asesu risgiau i'w defnyddwyr, archwilio cyfleoedd i wella, integreiddio ymddiriedaeth a diogelwch ar draws timau cynnyrch a pheirianneg a chyflogi staff nawr er mwyn bod yn barod ar gyfer cyfreithiau diogelwch ar-lein y DU.

Nodiadau i olygyddion

  1. Y broses gofrestru i danysgrifwyr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos bach i oedolion a sefydlir yn y DU:
    vsp-subscriber-sign-on-processes-cym
  2. Ciplun: Y chwe llwyfan rhannu fideos hysbysedig fwyaf a sefydlir yn y DU:six-biggest-notified-vsps-cym
Yn ôl i'r brig