![Two distressed women using a laptop with a credit card in hand](/siteassets/resources/images/-news-centre/thumbnail-images/online-safety/scam_web.png?width=1920&height=577&quality=80)
Mae Ofcom yn falch o barhau i gefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, menter sy’n cael ei chynnal heddiw ac sy’n rhannu ein nod o helpu pawb i fyw bywyd mwy diogel ar-lein.
Y thema eleni yw ‘Rhy dda i fod yn wir?’, sy’n canolbwyntio ar sut gall pobl ddiogelu eu hunain ac eraill rhag sgamiau ar-lein – ac rydym yn gwybod o’n hymchwil ein hunain am yr effaith ddinistriol y gall twyll a sgamiau ei chael.
Cawsom wybod fod tua naw o bob deg o bobl yn y DU wedi dod ar draws cynnwys ar-lein yr oeddent yn amau ei fod yn sgam neu’n dwyll, gyda dros eu chwarter wedi colli arian o ganlyniad i hynny. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd helpu pobl i amddiffyn eu hunain rhag y math hwn o drosedd.
Fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU, rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi mesurau newydd llym y mae’n rhaid i gwmnïau technoleg eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â thwyll o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys: chwiliadau am allweddeiriau a fydd yn canfod cynnwys sy’n gysylltiedig â thwyll; adroddiadau twyll gwell i darfu ar sgamwyr; a chael polisïau clir ar waith i ddilysu defnyddwyr, er mwyn atal sgamwyr rhag dynwared enwogion, cwmnïau a chyrff y llywodraeth.
Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Fel rheoleiddiwr Diogelwch Ar-lein y DU, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod pob diwrnod yn ddiwrnod defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel i blant a phobl ifanc. Mae hynny’n cynnwys chwarae ein rhan yn yr ymdrech aml-asiantaeth i atal twyllwyr sy’n gweithredu ar-lein.
“Gyda sgamiau’n dod yn fwyfwy soffistigedig, a’r effaith ddinistriol ar ddioddefwyr yn aml yn mynd ymhell y tu hwnt i golled ariannol, rydyn ni’n falch o sefyll gyda Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r arwyddion amlwg i gadw llygad amdanyn nhw, a grymuso ein plant gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddiogelu eu hunain ar-lein.”
Rydyn ni wedi casglu ychydig o awgrymiadau i’ch helpu i drechu’r sgamwyr – edrychwch i weld sut gallwch chi ddiogelu eich hun.
Ac yn ddiweddar fe wnaethom ofyn i’n cydweithwyr yn Ofcom am eu cyngor campus hwythau – tarwch olwg ar ein hawgrymiadau.