Yn ystod ein blwyddyn gyntaf o reoleiddio VSPs, gwelsom fod gan bob un ohonynt fesurau i ddiogelu defnyddwyr, ond bod lle i wella.
Yn ein hadroddiad VSP cyntaf, fe wnaethom ddweud y byddem yn edrych yn ehangach eleni ar y ffordd mae llwyfannau’n gosod, yn gorfodi ac yn profi eu dull gweithredu o ran diogelwch defnyddwyr. Gwnaethom osod pedair blaenoriaeth strategol, gan gynnwys ein nod o sicrhau bod gan ddarparwyr VSP brosesau digonol ar waith ar gyfer pennu ac adolygu polisïau defnyddwyr cynhwysfawr sy’n ymdrin â phob niwed perthnasol.
Mae’r adroddiad hwn yn taflu goleuni ar ddulliau llwyfannau o ddylunio a gweithredu eu telerau ac amodau i ddiogelu defnyddwyr ac mae’n tynnu sylw at yr hyn rydym yn ystyried ydy enghreifftiau o arfer da. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau VSP y byddwn yn eu cyhoeddi yn 2023.