Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi cael eich effeithio gan gynnwys anghyfreithlon, niweidiol neu sy’n peri gofid ar-lein, cysylltwch â gwasanaeth cymorth i ddod o hyd i wybodaeth a chael help.
Gallwch gael rhagor o gymorth neu gyngor gan y sefydliadau canlynol.
- Riportio Cynnwys Niweidiol ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o gynnwys niweidiol.
- Rhoi gwybod am derfysgaethar gyfer cynnwys terfysgaeth a'r Heddlu Gwrth-derfysgaeth ar gyfer gweithgarwch amheus.
- Internet Watch Foundation ar gyfer cynnwys sy’n dangos cam-drin plant yn rhywiol. Gallwch roi gwybod yn ddienw ac yn gyfrinachol i’r Internet Watch Foundation. Mae’n gweithio gyda llwyfannau ledled y byd i drefnu bod cynnwys cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei ddileu.
- Action Fraud yw’r ganolfan riportio ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dylid rhoi gwybod i’r Heddlu am achosion o dwyll ac unrhyw drosedd ariannol arall yn yr Alban drwy 101.
- True Visionar gyfer rhoi gwybod am droseddau casineb.
- Rheolaeth Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein os ydych chi’n blentyn sy’n poeni am rywun yn camfanteisio arnoch, yn eich cam-drin neu’n meithrin perthynas amhriodol â chi ar-lein.
- Yr NSPCC ar gyfer unrhyw bryderon eraill am ddiogelwch a lles plentyn yn y DU.
Dylai hefyd fod yn bosibl rhoi gwybod am y cynnwys yn uniongyrchol i’r gwasanaeth. Dylai gwybodaeth am sut mae gwneud hyn fod ar gael ar ap neu wefan y gwasanaeth.
Ni all Ofcom ymateb i gwynion unigol nac ymchwilio iddynt, ond rydym yn defnyddio cwynion i asesu a yw cwmnïau’n gwneud digon i ddiogelu eu defnyddwyr.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng sy’n peryglu bywyd
Dylech ffonio’r heddlu pan fydd trosedd yn digwydd, neu pan fydd rhywun mewn perygl uniongyrchol.
Gwasanaethau cymorth personol
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn meddwl am hunanladdiad neu am hunan-niweidio, mae’n bwysig siarad â rhywun. Gallwch siarad â’ch meddyg teulu neu oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel athro neu weithiwr cymorth.
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan y sefydliadau canlynol hefyd.
- Y Samariaid (i bawb)
Ffôn: 116 123 (llinell gymorth am ddim 24/7) - Childline (i blant a phobl ifanc o dan 19 oed)
Ffôn: 0800 1111 (9am – 3:30am) - Campaign Against Living Miserably (CALM)
Ffôn: 0800 58 58 58 (5pm tan hanner nos bob dydd) - Papyrus (i bobl o dan 35 oed)
Ffôn: 0800 068 41 41 (9am tan hanner nos bob dydd) - SOS Silence of Suicide (i bawb)
Ffôn: 0300 1020 505 (8am tan hanner nos bob dydd) - SHOUT (i bawb)
Tecst: tecstiwch ‘Shout’ i 85258 (cymorth am ddim 24/7)