Mae’r dudalen hon yn esbonio diddymu’r drefn llwyfannau rhannu fideos (VSP) a beth mae’n ei olygu i ddarparwyr.
Ym mis Tachwedd 2020, cyflwynodd Llywodraeth y DU reolau ar gyfer VSPs sydd wedi’u sefydlu yn y DU. Weithiau, rydyn ni’n cyfeirio at y rheolau hyn fel ‘trefn VSPs’.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth y drefn VSPs, a sut rydyn ni’n rheoleiddio’r VSPs, ar gael ar ein gwefan.
Ar 26 Hydref 2023, roedd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol. Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi’r broses ar gyfer diddymu’r drefn VSPs.
Gallwch ddarllen testun y Ddeddf DA a nodiadau esboniadol ar wefan legislation.gov.uk.
- Mae Atodlen 17 yn nodi sut bydd VSPs yn symud o gael eu rheoleiddio o dan y drefn VSPs i gael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
- Mae Atodlen 3, Rhan 3 yn nodi manylion yr amserlen ar gyfer pryd y bydd angen i ddarparwyr VSPs ddechrau cynnal yr asesiadau risg a fydd yn ofynnol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Isod, rydyn ni’n crynhoi’r darpariaethau diddymu a’r camau nesaf ar gyfer darparwyr VSPs. Mater i Lywodraeth y DU yw penderfynu pryd yn union y bydd y diddymu’n digwydd, felly gallai’r wybodaeth hon newid dros y misoedd nesaf.
Mae’r VSPs sydd wedi’u sefydlu yn y DU mewn cyfnod trosglwyddo erbyn hyn
Ar 10 Ionawr 2024, cychwynnodd y cyfnod trosglwyddo ar gyfer pob VSP sydd eisoes yn bodoli ac wedi’i sefydlu yn y DU (mewn geiriau eraill, llwyfannau sy’n bodloni’r meini prawf cwmpas ac awdurdodaeth o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003).
Os oedd eich llwyfan yn bodloni’r meini prawf hysbysu cyn i’r cyfnod trosglwyddo ddechrau, yna rydych chi nawr yn cael eich rheoleiddio dan y drefn VSPs a’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein – ond ni fydd yn rhaid i chi gyflawni’r rhan fwyaf o ddyletswyddau’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein tan ddiwedd y cyfnod trosglwyddo. Mae gennych rai dyletswyddau o hyd o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, fel:
- cydymffurfio â’r galwadau am wybodaeth a gyhoeddir gan Ofcom; a
- hysbysu ar gyfer ffioedd.
Dylech wneud yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i Ofcom am eich gwasanaeth, os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod.
Os mai dim ond ar 10 Ionawr 2024 neu ar ôl hynny y gwnaethoch chi ddechrau darparu eich gwasanaeth, yna dim ond o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein (gyda phob rhan yn berthnasol) y cewch chi eich rheoleiddio. Nid yw’r drefn VSPs yn berthnasol i chi, ac nid oes angen i chi roi gwybod i Ofcom am eich gwasanaeth.
Yn ystod y cyfnod trosglwyddo, bydd Ofcom yn parhau i reoleiddio’r VSPs sydd wedi’u sefydlu yn y DU
Mae gennym bwerau o hyd i reoleiddio VSPs sydd wedi’u sefydlu yn y DU o dan y rheolau cyfredol. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw ddarparwr sydd wedi methu â hysbysu.
Os yw VSP yn rhan ddatgysylltiol o wasanaeth mwy (mewn geiriau eraill, yn rhan wahanadwy), a bod rhan arall o’r gwasanaeth hwnnw’n gymwys fel gwasanaeth a reoleiddir o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, dim ond i’r rhan o'r gwasanaeth sy’n VSP y bydd yr eithriad yn berthnasol. Yn ystod y cyfnod trosglwyddo, bydd y rhan o’r gwasanaeth nad yw’n VSP yn cael ei thrin fel unrhyw wasanaeth arall a reoleiddir sydd o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ynghylch pwy sydd angen rhoi gwybod i Ofcom.
O dan y darpariaethau trosiannol, mae VSPs sy’n bodoli eisoes yn ddarostyngedig i’r gofynion hysbysu ffioedd ar gyfer diogelwch ar-lein a geir yn Adran 83 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mewn perthynas â’r ddyletswydd i dalu ffioedd, nid oes yn rhaid i ‘ddarparwyr sydd wedi’u heithrio’ fel maen nhw wedi’u diffinio ym mharagraff 24 o Atodlen 17 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein, dalu ffioedd mewn perthynas â blwyddyn tâl drosiannol. Ystyrir bod y rhain yn ‘ddarparwyr sydd wedi'u heithrio’ ac nid yw adran 84 ac Atodlen 10 yn berthnasol iddyn nhw mewn perthynas â blwyddyn tâl drosiannol.
Codir tâl ar wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio
Ar 19 Ebrill 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig. Roedd hwn yn esbonio y gall gwasanaethau a reoleiddir, ac sydd â refeniw ar drothwy penodedig neu uwch, ddisgwyl i dâl gael ei godi arnynt cyn belled â’u bod heb gael eu heithrio fel arall.
Pan ddaw’r cyfnod trosglwyddo i ben, bydd VSPs sy’n bodoli eisoes yn cael eu rheoleiddio yn y DU o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, a bydd y drefn ffioedd yn berthnasol iddynt yn yr un ffordd â darparwyr eraill gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Bydd Ofcom yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr amseroedd mewn perthynas â ffioedd maes o law.
Mae’n rhaid i ddarparwyr gynnal asesiadau risg
Ar 30 Ebrill 2024, gosododd yr Ysgrifennydd Gwladol offeryn statudol yn y Senedd Brydeinig sy’n nodi 2 Medi 2024 fel ‘dyddiad dechrau asesu’. Dyma’r dyddiad y bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau VSP, sy’n bodoli eisoes, gynnal asesiadau risg o’u gwasanaethau yn unol â’r dyletswyddau a nodir yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Dyma’r asesiadau risg:
- asesiadau risg o niwed anghyfreithlon;
- asesiadau risg o ran mynediad i blant; ac
- os yw’n berthnasol, asesiadau risg i blant.
Bydd angen i wasanaethau hefyd gwblhau asesiad mynediad i blant. Mae ein dull o weithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn egluro’r asesiadau hyn yn fanylach a phryd rydyn ni’n disgwyl cyhoeddi’r canllawiau ar gyfer pob un.
Rhaid i VSPs sy’n bodoli eisoes gwblhau pob asesiad o fewn tri mis i’r dyddiad y cyhoeddir y canllawiau cysylltiedig.
Nid yw dyddiad dechrau’r asesiad yn berthnasol i VSPs sy’n bodoli eisoes ac sy’n rhan ddatgysylltiol o wasanaeth mwy, y mae rhan arall ohono’n gymwys fel gwasanaeth a reoleiddir o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ar gyfer y rhain, mae’r amseru’r un fath ag ar gyfer gwasanaethau eraill a reoleiddir sydd o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein: rhaid cwblhau pob asesiad o fewn tri mis i’r dyddiad y cyhoeddir y canllawiau cysylltiedig – a rhaid iddo gynnwys y rhan VSP sy’n bodoli eisoes a’r rhan nad yw’n VSP yn y gwasanaeth.
Diddymu’r drefn VSPs
Rhaid i’r Llywodraeth roi o leiaf chwe mis o rybudd i VSPs o’i bwriad i ddiddymu’r drefn. Mae dyddiad dechrau’r asesiad, sef 2 Medi 2024, yn nodi dechrau’r chwe mis o rybudd ar gyfer diddymu’r drefn VSPs, sef cam cyntaf y broses ddiddymu. Y Llywodraeth fydd yn penderfynu ar y dyddiad diddymu yn y pen draw, a disgwylir iddo ddigwydd ar ôl i godau Ofcom ar gyfer amddiffyn plant ddod i rym (dyddiad i’w gadarnhau). Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gosod ail offeryn statudol, a’r offeryn statudol terfynol, gerbron y Senedd, gan bennu’r dyddiad diddymu. Ar y dyddiad hwnnw ymlaen, bydd y cyfnod trosglwyddo presennol yn dod i ben a bydd VSPs sy’n bodoli eisoes yn gwbl ddarostyngedig i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Bydd Ofcom yn helpu darparwyr VSP i gyflawni eu dyletswyddau diogelwch ar-lein
Byddwn yn gweithio’n agos gyda darparwyr i’w helpu i ddeall:
- pryd fydd y trosglwyddo a’r diddymu’n digwydd; a
- beth fydd eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.