Mae rheoleiddwyr o Awstralia, Fiji, Iwerddon a'r Deyrnas Unedig yn dod ynghyd i annog a chydlynu ymdrechion byd-eang i wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel.
Bydd y Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein byd-eang newydd yn cael ei lansio'n ffurfiol yng Nghynhadledd Family Online Safety Institute yn Washington DC heddiw.
Mae'r Rhwydwaith yn gydweithrediad rhwng y symudwyr cyntaf o ran rheoleiddio diogelwch ar-lein – Comisiynydd eDdiogelwch Awstralia, Comisiwn Diogelwch Ar-lein Fiji ac Ofcom yn y DU - gyda chefnogaeth gan Awdurdod Darlledu Iwerddon.
Bwriad y Rhwydwaith yw paratoi ar gyfer ymagwedd ryngwladol gydlynus at reoleiddio diogelwch ar-lein, drwy alluogi rheoleiddwyr diogelwch ar-lein newydd i rannu gwybodaeth, profiad ac arferion gorau. Bydd aelodau'n rhannu ymrwymiad i weithredu'n annibynnol ar ddylanwad masnachol a gwleidyddol, yn ogystal â hawliau dynol, democratiaeth a rheolaeth y gyfraith
Mae'r Rhwydwaith yn cael ei sefydlu ar adeg o esblygiad cyflym yn y dirwedd ddigidol fyd-eang a hyd yn oed yn fwy o ffocws ar faterion diogelwch ar-lein gan lywodraethau, diwydiant a dinasyddion fel ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys diwygiadau deddfwriaethol diweddar fel Deddf Diogelwch Ar-lein Awstralia 2021, Deddf Diogelwch Ar-lein Fiji 2018, Mesur Diogelwch Ar-lein y DU, Mesur Diogelwch a Rheoleiddio Cyfryngau Ar-lein Iwerddon 2022 a Deddf Gwasanaethau Digidol yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â gwaith diwygio diogelwch ar-lein sy'n mynd rhagddo yng Nghanada, Seland Newydd a Singapore.
Dywedodd uwch gynrychiolwyr o bedwar sylfaenydd y Rhwydwaith, gan fod nifer o reoleiddwyr diogelwch ar-lein byd-eang bellach yn cael eu sefydlu ar draws y byd, mai nawr yw'r amser i greu cysylltiadau, dysgu oddi wrth ein gilydd, ac edrych ar ddulliau newydd o weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag amrywiaeth o niwed ar-lein.
Dyfyniadau y gellir eu priodoli i sylfaenwyr y Rhwydwaith
Julie Inman Grant, Comisiynydd eDdiogelwch Awstralia:
“Rwyf bob amser wedi credu y byddai dyfodol rheoleiddio diogelwch ar-lein effeithiol yn cynnwys rhwydwaith o reoleiddwyr byd-eang sy'n gweithio gyda'i gilydd i wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel i bawb. Y cyhoeddiad heddiw yw'r cam cyntaf wrth wireddu'r dyfodol hwnnw.
“Yn 2015, ni oedd unig reoleiddiwr diogelwch ar-lein y byd. Heddiw, rwy'n hapus i adrodd nad yw hyn bellach yn wir ac mae rheoleiddwyr diogelwch ar-lein yn dechrau ymddangos ym mhob cwr o'r byd, gyda chefnogaeth deddfau newydd sy'n sicrhau bod darparwyr gwasanaethau digidol yn cael eu dwyn i gyfrif.
“Bydd ein Rhwydwaith newydd hefyd yn helpu i osgoi'r risg o "global splinternet" o reoleiddio anghyson drwy osod fframwaith rhyngwladol cliriach a mwy cyson i ddiwydiant ei ddilyn.”
Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom:
“Nid yw cwmnïau byd-eang yn ystyried ffiniau fel rhwystrau i'w modelau busnes, ac ni ddylen ni chwaith pan ddaw hi'n fater o'u rheoleiddio nhw. Os ydym yn mynd i helpu pawb o Melbourne i Fanceinion i fwynhau bywyd mwy diogel ar-lein, mae angen i wledydd gydweithio a rhannu eu profiad a'u harbenigedd. Dyna pam rydym wedi lansio'r Rhwydwaith hwn.
“Mae Ofcom eisoes wedi dangos y gall rheoleiddio wneud gwahaniaeth, a hynny ar ôl blwyddyn yn unig o oruchwylio gwefannau fideo yn y DU fel TikTok, Snapchat a Twitch. Rydym yn edrych ymlaen at ymestyn y pwerau hyn fel y gallwn ddiogelu mwy o bobl rhag niwed difrifol wrth barhau i hyrwyddo'r pethau gwych am fod ar-lein. Bydd cydweithrediad a chysondeb byd-eang cryf yn allweddol i hynny.”
Mary Motofaga, Comisiynydd A/g, Comisiwn Diogelwch Ar-lein, Fiji:
“I wlad yn y Môr Tawel mor ddaearyddol anghysbell a diwylliannol gyfoethog â Fiji, mae'r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang yn cynnig cyfle gwych i aelodau rannu gwybodaeth, trafod ac ymdrin â heriau fel cwynion trawsffiniol a chydnabod amrywiaeth ddiwylliannol.
“Mae cydweithio â'n rhanddeiliaid rhyngwladol yn hanfodol i sicrhau llwyddiant oherwydd nad oes gan y gofod ar-lein unrhyw ffiniau, ac rydym yn gryfach gyda'n gilydd nag ar wahân.
“Mae Comisiwn Diogelwch Ar-lein Fiji yn edrych ymlaen at lansio'r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang wrth i ni weithio gyda'n gilydd i hyrwyddo diwylliant ar-lein cynhwysol a diogel i bawb.”
Celene Craig, Prif Weithredwr, Awdurdod Darlledu Iwerddon:
“Mae Awdurdod Darlledu Iwerddon wedi mynd ar drywydd cydweithio a phartneriaeth yn gyson fel offer rheoleiddio effeithiol ac ymarferol. Mae datblygu'r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang yn hanfod yr ymagwedd hon ac mae'r Rhwydwaith wedi ymrwymo i ddod â rheoleiddwyr annibynnol o'r un anian ynghyd sy'n gweithio gyda'i gilydd i feithrin arferion gorau, rhannu profiadau ac arbenigedd a chydlynu ymagweddau rheoleiddio wrth geisio sicrhau amgylchedd ar-lein diogel a chyfartal.
“Er nad yw Awdurdod Darlledu Iwerddon yn rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, mae wedi cyfrannu at y Rhwydwaith hwn drwy'r gwaith diogelwch ar-lein y mae wedi'i wneud ynghylch trawsosod y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled a datblygu trefn diogelwch a rheoleiddio cyfryngau ar-lein Iwerddon. Mae'r gwaith hwn yn galluogi Awdurdod Darlledu Iwerddon i fod â statws arsylwr yn y Rhwydwaith.
“Cyn bo hir, bydd rheoleiddio diogelwch ar-lein yn Iwerddon yn dod o dan gylch gwaith corff newydd, Coimisiún na Meán (y Comisiwn Cyfryngau) unwaith yr aiff y Mesur Diogelwch a Rheoleiddio Cyfryngau Ar-lein yn gyfraith. Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith paratoi y mae Awdurdod Darlledu Iwerddon wedi'i wneud wrth ddatblygu'r Rhwydwaith hwn a'r rhyngweithio gwerthfawr gyda rheoleiddwyr yn y gofod diogelwch ar-lein yn cynorthwyo ein cydweithwyr diogelwch ar-lein arbenigol pan fydd gwaith Coimisiún na Meán yn dechrau'r flwyddyn nesaf.”