Yn y drydedd bennod o Bywyd Ar-lein, y podlediad gan Ofcom, mae'r cyn-bêl-droediwr i Loegr, Anita Asante, a'r newyddiadurwr a chyflwynydd radio, Anna Whitehouse, yn ymuno â Simon Redfern o Ofcom i drafod y realiti o fod yn fenyw ar-lein.
Mae'r newyddiadurwr, awdur a chyflwynydd radio, Anna Whitehouse, yn falch ei bod wedi adeiladu ei gyrfa ar-lein ac yn annog rhieni i beidio â chau eu plant i ffwrdd o'r rhyngrwyd.
Mae bod ar gyfryngau cymdeithasol yn gwneud i gyn-bêl-droediwr Lloegr Anita Asante deimlo'n agosach at y cefnogwyr ac yn helpu i godi proffil y gamp y mae hi'n ei charu.
Ond wrth siarad yn ystod Bywyd Ar-lein - y podlediad gan Ofcom - siaradodd y ddwy â Simon Redfern o Ofcom am realiti bod yn fenyw ar y rhyngrwyd. O seiberfwlio digymell i drolio yn "isfyd" y rhyngrwyd, mae Anna yn poeni "nad oes unrhyw hidlydd ar gyfer y boen honno, yr adwaith iechyd meddwl hwnnw sydd gennym ni i gyd”.
Yn yr un modd, mae Anita sy'n dal 71 o gapiau rhyngwladol, yn disgrifio ei thristwch bod rhywiaeth, gwreig-gasineb a hiliaeth yn rhan o fywyd bob dydd i chwaraewyr ifainc sy'n cychwyn arni.
Mae Anna a'i gŵr yn gwneud yr un gwaith yn ymgyrchu dros weithio hyblyg, ond mae eu profiadau'n wahanol iawn. Fel y dywedodd "nid yw wedi cael dim... Rwyf wedi cael popeth o luniau pidyn, sylwadau sarhaus... dywedodd un fenyw wrthyf nad oedd yn hoffi gwallt fy mhlentyn”.
Rwy'n dweud wrth fy merched am godi eu lleisiau, ac rwy'n cau fy llais fy hun i lawr.
Anna Whitehouse
Mae Anita wedi gweld o lygad y ffynnon pa mor wael y gall cam-drin ar-lein fod, yn siarad yn ystod y podlediad dywedodd hi: “Mae cyn-aelod o'r tîm sy'n gweithio yn llygad y cyhoedd fel cyflwynydd wedi cael ton o drolio a cham-drin a hynny dim ond am gael barn fel menyw - bu'n rhaid yn llythrennol iddi ddod oddi ar y cyfryngau cymdeithasol.”
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ofcom ymchwil a ddatgelodd faint o gamdriniaeth a ddioddefir gan fenywod ar-lein. Maent yn teimlo'n llai hyderus am eu diogelwch ar-lein na dynion ac mae cynnwys gwahaniaethol, cas a throlio'n cael effaith ddwysach arnynt.
Gwelsom fod hyn yn cael effaith ddigalonnus ar sut mae menywod yn mynegi eu hunain ar-lein, rhywbeth y mae Anna yn ei chael yn groes i'r negeseuon y mae'n ceisio eu rhoi i'w phlant ei hun: "Rwy'n dweud wrth fy merched am godi eu lleisiau, ac rwy'n cau fy llais fy hun i lawr. Dyw e byth wedi digwydd i fy ngŵr erioed.”
Mae Anna ac Anita yn realistig am yr angen i fod ar-lein, a'r pethau cadarnhaol y maent yn eu cymryd ohono. Ond maen nhw'n cael eu hunain yn cymryd camau i amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd. Dywedodd Anita wrthym "Rwy'n gwasgu'r botwm adrodd drwy'r amser”.
Gan alw am "reoleiddio nid demoneiddio" cyfryngau cymdeithasol, gwnaeth Anna "apêl gan fam" i'r llwyfannau gan ddweud "nes fy mod yn teimlo'n gyfforddus bod mwy o reoleiddio, byddaf yn ei reoleiddio ar eu cyfer. Ac mae hynny'n beth arall i'w ychwanegu at lwyth gwaith rhieni.”
Gallwch wrando ar y sgwrs lawn ar Spotify, Apple Podcasts, neu ble bynnag arall rydych fel arfer yn gwrando.