An abstract image of hands typing on a keyboard

Llythyr agored i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein y DU

Cyhoeddwyd: 7 Awst 2024

Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi llythyr agored i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n gweithredu yn y DU am y risg gynyddol y bydd eu platfformau’n cael eu defnyddio i ennyn casineb, i ysgogi trais ac i gyflawni troseddau eraill o dan gyfraith y DU, a hynny yng nghyd-destun y trais diweddar yn y DU.

Dyma’r llythyr yn llawn:

I ddarparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig,

Yng nghyd-destun y trais diweddar yn y DU, mae Ofcom wedi bod yn ymgysylltu ag amrywiol wasanaethau ar-lein i drafod eu camau gweithredu i atal eu platfformau rhag cael eu defnyddio i ennyn casineb, i ysgogi trais ac i gyflawni troseddau eraill o dan gyfraith y DU.

O dan reoliadau Ofcom sy’n bodoli cyn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rhaid i blatfformau rhannu fideos yn y DU ddiogelu eu defnyddwyr rhag fideos sy’n debygol o gymell trais neu gasineb. Felly, rydym yn disgwyl i blatfformau rhannu fideos sicrhau bod eu systemau a’u prosesau’n effeithiol o ran rhagweld ac ymateb i ledaeniad posibl deunydd fideo niweidiol sy’n deillio o’r digwyddiadau diweddar. 

Ar ben hynny, fel y gwyddoch, mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi cyfrifoldebau newydd ar gyfer gwasanaethau ar-lein ynghylch sut maen nhw’n asesu ac yn lliniaru risgiau gweithgarwch anghyfreithlon, sy’n gallu cynnwys casineb, anhrefn, cynnwys sy’n ysgogi trais neu enghreifftiau penodol o dwyllwybodaeth. Pan fyddwn yn cyhoeddi ein codau ymarfer a’n canllawiau terfynol yn nes ymlaen eleni, bydd gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio yn cael tri mis i asesu'r risg o gynnwys anghyfreithlon ar eu platfformau, ac wedyn bydd yn rhaid iddynt gymryd camau priodol i’w atal rhag ymddangos a gweithredu’n gyflym i’w ddileu pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono. Maes o law bydd angen i rai o’r apiau a’r gwefannau sy’n cael eu defnyddio amlaf fynd ymhellach fyth – drwy ddefnyddio eu telerau gwasanaeth yn gyson, sy’n aml yn cynnwys gwahardd pethau fel iaith casineb, ysgogi trais, a thwyllwybodaeth niweidiol.

Mae Ofcom wedi symud yn gyflym i ymgynghori ar ganllawiau asesu risg a chodau ymarfer ar niwed anghyfreithlon, gan nodi’r camau ymarferol rydym yn disgwyl i wasanaethau eu defnyddio ar draws amrywiaeth o feysydd gan gynnwys llywodraethu, cymedroli cynnwys, adrodd ar ddefnyddwyr a dileu cyfrif. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau drafft ar sut gall cwmnïau farnu a yw cynnwys neu weithgarwch yn anghyfreithlon. Yn yr un modd â’n holl waith, mae ein cynigion yn cydnabod pwysigrwydd diogelu rhyddid mynegiant.

Rydym yn disgwyl parhau i ymgysylltu â chwmnïau dros y cyfnod hwn er mwyn deall y materion penodol maen nhw’n eu hwynebu, ac rydym yn croesawu’r dulliau rhagweithiol sydd wedi cael eu defnyddio gan rai gwasanaethau mewn perthynas â’r trais sydd wedi digwydd ledled y DU.

Mewn ychydig fisoedd, bydd dyletswyddau diogelwch newydd o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith, ond gallwch chi weithredu nawr – does dim angen aros i wneud eich safleoedd a’ch apiau yn fwy diogel i ddefnyddwyr.

Gill Whitehead

Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom ar gyfer Diogelwch Ar-lein

Yn ôl i'r brig