Cyhoeddwyd:
12 Chwefror 2020
Diweddarwyd diwethaf:
13 Chwefror 2024
Dywedodd Jonathan Oxley, y Prif Weithredwr Dros Dro: “Rydyn ni’n rhannu’r un uchelgais â Llywodraeth y DU, sef cadw pobl yn ddiogel ar-lein, ac rydyn ni’n croesawu’r ffaith ei bod yn dymuno penodi Ofcom yn rheoleiddiwr niwed ar-lein.
“Byddwn yn gweithio gyda’r Llywodraeth i helpu i sicrhau bod rheoleiddio i ddiogelu pobl ar-lein yn effeithiol ac, os cawn ein penodi, byddwn yn ystyried pa gamau gwirfoddol bydd modd eu cymryd cyn cyflwyno deddfwriaeth.”