Adroddiad Blynyddol Ofcom ar Hysbysiadau i ddelio â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu gynnwys sy’n ymwneud â CSEA

Cyhoeddwyd: 24 Ionawr 2025

Dyma adroddiad blynyddol cyntaf Ofcom ar hysbysiadau i ddelio â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu CSEA yng nghyswllt blwyddyn galendr 2024. Yn unol ag adran 128 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (y ‘Ddeddf’), mae’r adroddiad hwn wedi cael ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol ac fe’i cyflwynwyd i’r Senedd ar 23 Ionawr 2025.

Crynodeb gweithredol 

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Ofcom gyhoeddi ‘Hysbysiad Technoleg’ sy’n mynnu bod darparwr gwasanaeth Rhan 3 yn delio â chynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a/neu CSEA pan fyddwn yn credu ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny. Dyma adroddiad blynyddol Ofcom yn unol ag adran 128 o’r Ddeddf yng nghyswllt blwyddyn galendr 2024. Mae’r adroddiad yn trafod: 

  1. arfer swyddogaethau Ofcom o dan Bennod 5 o Ran 7 o’r Ddeddf yn ystod y cyfnod hwnnw (ein ‘swyddogaethau o ran Hysbysiadau Technoleg’)
  2. technoleg sy’n bodloni, neu sydd wrthi’n cael ei datblygu er mwyn bodloni, safonau cywirdeb gofynnol at ddibenion y bennod honno.

Rydym wedi gwneud gwaith paratoi cyn 2024, ac felly rydym hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at waith a wnaed yn 2023.

Mae’r adroddiad yn egluro sut mae Ofcom wedi gosod y sylfeini ar gyfer defnyddio ein swyddogaethau o ran Hysbysiadau Technoleg, sydd wedi arwain at gyhoeddi ein Hymgynghoriad (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig). Mae’r ymgynghoriad yn nodi cynigion ar gyfer ein cyngor i’r Ysgrifennydd Gwladol ar safonau cywirdeb gofynnol, yn ogystal â’n canllawiau drafft i ddarparwyr gwasanaethau Rhan 3 ar sut rydym yn bwriadu arfer ein swyddogaethau o ran Hysbysiadau Technoleg. Nid yw’r rhan hon o’r drefn yn weithredol ar hyn o bryd, ac ni all yr Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo na chyhoeddi unrhyw safonau cywirdeb gofynnol nes eu bod wedi cael cyngor gan Ofcom.

Yn ôl i'r brig