I bwy mae'r rheolau newydd yn berthnasol

Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2024

Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gwneud busnesau, ac unrhyw un arall sy’n gweithredu ystod eang o wasanaethau ar-lein, yn gyfrifol yn gyfreithiol am gadw pobl (yn enwedig plant) yn ddiogel ar-lein yn y DU.

I bwy mae'r rheolau newydd yn berthnasol

Mae’r rheolau newydd yn berthnasol i’r holl wasanaethau sydd o fewn y cwmpas ac sydd â nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU neu sy’n targedu marchnad y DU, waeth lle maen nhw wedi'u lleoli.

Mae’r rheolau’n berthnasol i wasanaethau sydd ar gael dros y rhyngrwyd (neu ‘wasanaethau ar-lein’). Gallai hyn fod yn wefan, ap neu fath arall o lwyfan. Os ydych chi neu eich busnes yn darparu gwasanaeth ar-lein, efallai y bydd y rheolau’n berthnasol i chi.

Yn benodol, mae’r rheolau’n ymwneud â gwasanaethau lle:

  • gall pobl ddod ar draws cynnwys (fel delweddau, fideos, negeseuon neu sylwadau) sydd wedi cael ei gynhyrchu, ei lwytho i fyny neu ei rannu gan ddefnyddwyr eraill. Ymysg pethau eraill, mae hyn yn cynnwys negeseuon preifat a gwasanaethau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr lwytho cynnwys pornograffig i fyny, ei gynhyrchu neu ei rannu. Mae’r Ddeddf yn galw’r rhain yn ‘wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr’;
  • gall pobl chwilio drwy wefannau neu gronfeydd data eraill (‘gwasanaethau chwilio’);
  • rydych chi neu eich busnes yn cyhoeddi neu’n arddangos cynnwys pornograffig.

I roi ychydig o enghreifftiau, gallai gwasanaeth ‘defnyddiwr-i-ddefnyddiwr’ fod yn unrhyw un o’r canlynol:

  • gwefan neu ap cyfryngau cymdeithasol;
  • gwasanaeth rhannu lluniau neu fideos;
  • gwasanaeth sgwrsio neu negeseua gwib, fel ap cwrdd â chariad; gwasanaeth gemau ar-lein neu symudol.
  • Mae’r rheolau’n berthnasol i sefydliadau mawr a bach, cwmnïau mawr sydd â llawer o adnoddau neu ‘ficrofusnesau’ bach iawn. Maen nhw hefyd yn berthnasol i unigolion sy’n rhedeg gwasanaeth ar-lein.

Mae eich lleoliad chi neu leoliad y busnes yn amherthnasol. Bydd y rheolau newydd yn berthnasol i chi (neu eich busnes) os oes gan y gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU, neu os yw’r DU yn farchnad darged.

Gwybodaeth am y Ddeddf Diogelwch Ar-lein

Edrychwch i weld a yw'r Ddeddf yn berthnasol i chi a chael gwybod am ddyddiadau pwysig ar gyfer cydymffurfio.

Unsure if the rules apply to you? We can help you check

Our online tool will help you decide whether or not the new rules are likely to apply to you. Answer six short questions about your business and the service(s) you provide, then get a result.

We are still developing this tool and we welcome your feedback. We will not change the possible results, so feel free to try it now.

Rheolau cynnwys anghyfreithlon

Darllenwch ein canllawiau cyflym i gael rhagor o wybodaeth am y rheolau a sut mae cydymffurfio â nhw.

Gwiriwch sut mae cydymffurfio â’r rheolau cynnwys anghyfreithlon

Os yw’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i chi, bydd angen i chi gynnal asesiad risg ar gyfer cynnwys anghyfreithlon cyn mis 16 Mawrth 2025.

Gallwch chi ddefnyddio ein canllawiau cyflym i weld sut mae cydymffurfio.

Cydymffurfio â rheolau gwarchod plant

Darllenwch ein canllawiau cyflym i gael rhagor o wybodaeth am y rheolau a sut mae cydymffurfio â nhw.

Gwiriwch sut mae cydymffurfio â’r rheolau gwarchod plant

Bydd yn rhaid i wasanaethau sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant gynnal asesiadau risg ar gyfer plant o wanwyn 2025 ymlaen.

Ar ôl i’r rheolau newydd ddod i rym, byddwch yn gallu defnyddio ein hadnodd i’ch helpu i gynnal eich asesiad risg ar gyfer plant a chydymffurfio â’r rhwymedigaethau diogelwch.

Cydymffurfio â rheolau pornograffi ar-lein

Os oes gennych chi neu eich busnes wasanaeth ar-lein sy’n cynnal cynnwys pornograffig, mae rheolau y bydd angen i chi eu dilyn i atal plant rhag cael gafael arno. 

Tanysgrifiwch i gael y newyddion diweddaraf am ddiogelwch ar-lein

Tanysgrifiwch i gael y newyddion diweddaraf am unrhyw newidiadau i’r rheoliadau a’r hyn mae angen i chi ei wneud.

Pethau pwysig eraill dylech chi eu gwybod

Os yw’r rheolau’n berthnasol i’ch gwasanaeth chi, byddwn yn disgwyl i chi wneud yn siŵr bod y camau rydych chi’n eu cymryd i gadw pobl yn y DU yn ddiogel yn ddigon da.

Er bod yr union ddyletswyddau’n amrywio o wasanaeth i wasanaeth, bydd angen i’r rhan fwyaf o fusnesau wneud y canlynol:

  • asesu’r risg o niwed o gynnwys anghyfreithlon;
  • asesu’r risg benodol o niwed i blant o gynnwys niweidiol (os yw plant yn debygol o ddefnyddio eich gwasanaeth);
  • cymryd camau effeithiol i reoli a lliniaru’r risgiau rydych chi’n eu nodi – rydyn ni wedi cyhoeddi ein codau ymarfer cynnwys anghyfreithlon y gallwch eu dilyn i wneud hyn ar gyfer eich asesiad risg cynnwys anghyfreithlon;
  • egluro’n glir sut y byddwch yn gwarchod defnyddwyr yn eich telerau gwasanaeth;
  • ei gwneud yn hawdd i’ch defnyddwyr roi gwybod am gynnwys anghyfreithlon, a chynnwys sy’n niweidiol i blant;
  • ei gwneud yn hawdd i’ch defnyddwyr gwyno, gan gynnwys pan fyddant yn credu bod eu post wedi cael ei dynnu’n annheg neu fod eu cyfrif wedi’i rwystro;
  • ystyried pwysigrwydd diogelu'r hawl i ryddid mynegiant a phreifatrwydd wrth roi mesurau diogelwch ar waith.

Eich cyfrifoldeb chi yw asesu’r risgiau ar eich gwasanaeth, yna penderfynu pa fesurau diogelwch y mae angen i chi eu rhoi ar waith.

I’ch helpu chi, rydyn ni wedi cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau – gan gynnwys gwybodaeth am risg a niwed ar-lein, canllawiau a chodau ymarfer.

Bydd gan rai busnesau ddyletswyddau eraill i'w bodloni i sicrhau'r canlynol:

  • bod gan bobl ragor o ddewis a rheolaeth dros yr hyn maen nhw’n ei weld ar-lein;
  • bod gwasanaethau’n fwy tryloyw a bod modd eu dal i gyfrif am eu gweithredoedd.

Rydyn ni wedi cynhyrchu amrywiaeth o godau ymarfer a chanllawiau sy’n amlinellu’r camau y gall cwmnïau eu cymryd i gydymffurfio â’r dyletswyddau ychwanegol hyn.

Fel y rheoleiddiwr, bydd Ofcom yn eich helpu i ddilyn y rheolau

Ofcom yw’r rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein. Mae gennym amrywiaeth o bwerau a dyletswyddau i weithredu’r rheolau newydd a sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu’n well ar-lein. Rydyn ni wedi cyhoeddi ein dull gweithredu cyffredinol a’r canlyniadau rydyn ni am eu cyflawni.

Mae’r Ddeddf yn disgwyl i ni helpu gwasanaethau i ddilyn y rheolau – gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau a chodau ymarfer. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall sut gall niwed ddigwydd ar-lein, pa ffactorau sy’n cynyddu’r risgiau, sut dylech chi asesu’r risgiau hyn, a pha fesurau y dylech chi eu cymryd wrth ymateb. Byddwn yn ymgynghori ynghylch popeth y mae’n rhaid i ni ei gynhyrchu cyn i ni gyhoeddi’r fersiwn derfynol.

Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda chi i gadw oedolion a phlant yn ddiogel. Byddwn yn darparu canllawiau ac adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau newydd. Bydd y rhain yn cynnwys cymorth penodol i fusnesau bach a chanolig.

Ond os bydd angen, byddwn yn cymryd camau gorfodi os byddwn yn penderfynu nad yw busnes yn cyflawni ei ddyletswyddau – er enghraifft, os nad yw’n gwneud digon i ddiogelu defnyddwyr rhag niwed.

Mae gennym amrywiaeth o bwerau gorfodi i’w defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd: byddwn bob amser yn eu defnyddio mewn ffordd gymesur a phenodol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Gallwn gyfarwyddo busnesau i gymryd camau penodol i gydymffurfio. Gallwn hefyd ddirwyo cwmnïau hyd at £18m, neu 10% o’u refeniw byd-eang cymwys (pa un bynnag sydd fwyaf).

Yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn ofyn am orchymyn llys sy’n gosod “mesurau tarfu ar fusnes”. Gallai hyn olygu gofyn i ddarparwr taliadau neu hysbysebu dynnu’n ôl o wasanaeth y busnes, neu ofyn i ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd gyfyngu ar fynediad.

Gallwn hefyd ddefnyddio ein pwerau gorfodi os na fyddwch yn ymateb i gais am wybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am ein pwerau gorfodi, a sut rydyn ni’n bwriadu eu defnyddio, ar gael yn ein canllawiau gorfodi drafft.

Mae’r rheolau newydd yn berthnasol i unrhyw fath o gynnwys anghyfreithlon sy’n gallu ymddangos ar-lein, ond mae’r Ddeddf yn cynnwys rhestr o droseddau penodol y dylech eu hystyried. Dyma nhw:

  1. terfysgaeth;
  2. troseddau cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, gan gynnwys
    1. meithrin perthynas amhriodol
    2. deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) sy’n ddelweddau
    3. URLs CSAM;
  3. casineb
  4. aflonyddu, stelcio, bygythiadau a cham-drin
  5. ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi
  6. camddefnyddio delweddau preifat
  7. pornograffi eithafol
  8. camfanteisio’n rhywiol ar oedolion
  9. masnachu pobl
  10. mewnfudo anghyfreithlon
  11. twyll a throseddau ariannol
  12. elw troseddau
  13. cyffuriau a sylweddau seicoweithredol
  14. drylliau, cyllyll ac arfau eraill
  15. annog neu gynorthwyo hunanladdiad
  16. ymyrraeth dramor
  17. creulondeb at anifeiliaid

Mae ein hymgynghoriad yn cynnwys ein canllawiau arfaethedig ar gyfer y troseddau hyn, ac mae ein cofrestr risgiau (wedi’i threfnu yn ôl y math o drosedd) yn edrych ar achosion ac effaith niwed anghyfreithlon ar-lein.

Bydd angen i bob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio wneud y canlynol:

  • cynnal asesiad risg ar gyfer cynnwys anghyfreithlon – byddwn yn darparu canllawiau i’ch helpu i wneud hyn;
  • cyflawni eich dyletswyddau diogelwch ar gynnwys anghyfreithlon – mae hyn yn cynnwys cael gwared ar gynnwys anghyfreithlon, cymryd camau cymesur i atal eich defnyddwyr rhag dod ar ei draws, a rheoli’r risgiau a nodwyd yn eich asesiad risg – bydd ein codau ymarfer yn eich helpu i wneud hyn;
  • cofnodi’n ysgrifenedig sut rydych chi’n cyflawni’r dyletswyddau hyn – byddwn yn rhoi arweiniad i’ch helpu i wneud hyn;
  • egluro eich dull gweithredu yn eich telerau gwasanaeth (neu ddatganiad sydd ar gael i’r cyhoedd);
    caniatáu i’ch defnyddwyr roi gwybod am niwed anghyfreithlon a chyflwyno cwynion.

Un ffordd o ddiogelu’r cyhoedd a chyflawni eich dyletswyddau diogelwch yw mabwysiadu’r mesurau diogelwch rydyn ni’n eu nodi yn ein Codau Ymarfer. Mae’r codau’n ymdrin ag amrywiaeth o fesurau mewn meysydd fel cymedroli cynnwys, cwynion, mynediad defnyddwyr, nodweddion dylunio i gefnogi defnyddwyr, a llywodraethu a rheoli risgiau diogelwch ar-lein.

Yn ein codau, rydyn ni wedi ystyried yn ofalus pa wasanaethau y dylai pob mesur fod yn berthnasol iddynt, gyda rhai mesurau’n berthnasol i wasanaethau mawr a/neu wasanaethau sydd â risgiau yn unig. Argymhellion yn unig yw’r mesurau yn ein codau, felly gallwch ddewis opsiynau eraill. Ond os byddwch yn mabwysiadu’r holl fesurau a argymhellir sy’n berthnasol i chi, byddwch yn cyflawni eich dyletswyddau diogelwch.

Wrth roi mesurau a pholisïau diogelwch ar waith – gan gynnwys ar niwed anghyfreithlon a gwarchod plant – bydd angen i chi ystyried pwysigrwydd diogelu hawliau defnyddwyr i ryddid mynegiant a phreifatrwydd.

Bydd Ofcom yn ystyried unrhyw risgiau i’r hawliau hyn wrth baratoi ein codau ymarfer ac unrhyw ganllawiau eraill, a byddant yn cynnwys mesurau diogelu priodol.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig