Lliniaru effaith cynnwys anghyfreithlon

Cyhoeddwyd: 6 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf: 17 Mai 2023

Mae'r ymchwil ansoddol hon yn rhoi cipolwg ar y ffyrdd y mae rhai llwyfannau'n ceisio lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhyngweithio defnyddiwr-i-ddefnyddiwr ar lwyfannau.

Mae un adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae gwasanaethau'n ceisio lliniaru'r risg o dwyll o ran cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, tra bod y llall yn ystyried sut mae gwasanaethau yn mynd ati i liniaru ystod ehangach o niweidiau anghyfreithlon.

Mae Ofcom wedi gwneud yr ymchwil hon i helpu i adeiladu ein sylfaen dystiolaeth wrth i ni baratoi i weithredu'r cyfreithiau diogelwch ar-lein newydd. Ni ddylid ystyried y canfyddiadau yn adlewyrchiad o unrhyw safbwynt polisi terfynol y bydd Ofcom o bosib yn ei fabwysiadu pan fyddwn yn ymgymryd â'n rôl fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein.

Yn ôl i'r brig