Yn ddiweddar gwnaethom gyhoeddi canllawiau ar gyfer darparwyr platfform rhannu fideos (VSP) i helpu diogelu pobl sy’n eu defnyddio rhag cynnwys niweidiol.
Beth yw llwyfan rhannu fideos (VSP)?
Math o wasanaeth fideo ar-lein yw llwyfannau rhannu fideos (VSP). Maent yn caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho a rhannu fideos gyda phobl eraill ac ymgysylltu ag ystod eang o gynnwys a nodweddion cymdeithasol.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i VSPs a sefydlwyd yn y DU gymryd camau i ddiogelu pobl dan 18 oed rhag cynnwys fideo a allai fod yn niweidiol; a phob defnyddiwr o fideos sy'n debygol o annog trais neu gasineb, yn ogystal â mathau penodol o gynnwys troseddol.
Ynôl ein hymchwil, dywed traean o ddefnyddwyr VSP iddynt weld neu broffi cynnwys atgas; honna chwarter iddynt brofi cynnwys treisgar neu aflonyddgar, ac mae un o bob pump wedi profi fideos neu gynnwys fu'n annog hiliaeth.
Mae ein canllaw wedi’u llunio i helpu cwmnïau i ddeall eu rhwymedigaethau newydd a barnu sut orau i ddiogelu eu defnyddwyr rhag y math hwn o ddeunydd niweidiol.
Beth yw rol Ofcom mewn rheoleiddio VSP?
O dan ddeddfwriaeth a basiwyd gan Senedd y DU, ein gwaith ni yw sicrhau bod gan VSPs o fewn ein hawdurdodaeth fesurau priodol ar waith i amddiffyn defnyddwyr rhag fideos sy'n:
1. amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol plant dan 18 oed;
2. yn debygol o annog trais neu gasineb yn seiliedig ar sail benodol megis rhyw, hil, lliw, tarddiad ethnig neu gymdeithasol, nodweddion genetig, iaith, crefydd neu gred, barn wleidyddol neu unrhyw farn arall, aelodaeth o leiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth, anabledd, oedran neu gyfeiriadedd rhywiol; a/neu
3. yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn annog gweithredoedd terfysgaeth; dangos neu gynnwys ymddygiad sy'n gyfystyr â cham-drin plant yn rhywiol; a dangos neu gynnwys ymddygiad sy'n annog hiliaeth neu senoffobia.
Gall mesurau priodol gynnwys:telerau ac amodau; swyddogaethau adrodd a fflagio; systemau sgorio gwylwyr; dilysu oedran; swyddogaethau rheoli rhieni; gweithdrefnau cwyno; neu offer a gwybodaeth llythrennedd yn y cyfryngau.
Pa lwyfannau rhannu fideos sy'n dod o dan awdurdodaeth Ofcom?
Rhaid i ddarparwyr VSP asesu a yw’r rheoliadau yn berthnasol iddynt ac os ydynt yn dod o dan awdurdodaeth y DU, ac os oes rheidrwydd cyfreithiol arnynt i hysbysu Ofcom am eu gwasanaeth. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i'w helpu i wneud hyn.
Rydym yn diweddaru'r rhestr gyhoeddedig o lwyfannau rhannu fideos hysbysedig i Ofcom.
Pa bwerau sydd gan Ofcom i gadw golwg ar lwyfannau rhannu fideos?
Mae gan Ofcom bwerau casglu gwybodaeth sy'n ein galluogi i fynnu gwybodaeth berthnasol at ddibenion penodol penodol, megis asesu a monitro cydymffurfiaeth a chynnal ymchwiliadau. Mae gennym hefyd y pŵer i gymryd camau gorfodi pan fydd y rheolau'n cael eu torri.
Pa gosbau y gallai llwyfannau rhannu fideos eu hwynebu os ydynt yn torri'r rheolau?
Os ydym yn canfod bod llwyfannau rhannu fideos wedi torri'r rheolau gallwn orfodi cosb ariannol o hyd at 5% o'u refeniw cymwys neu £250k (pa un bynnag yw’r mwyaf).
Ydy hyn yn golygu y byddwch chi'n sensro cynnwys ar y rhyngrwyd?
Nac ydy. Mae rhyddid mynegiant yn ganolog o'n democratiaeth, ein gwerthoedd a'n cymdeithas fodern. Yn wahanol i'n gwaith darlledu, nid yw rôl Ofcom yn canolbwyntio ar benderfynu a ddylai eitemau penodol o gynnwys fod ar gael neu beidio neu a ydynt yn cydymffurfio â safonau cynnwys penodol. Yn hytrach, ein rôl ni yw sicrhau bod gan lwyfannau systemau a phrosesau diogelwch ar waith sy'n rhoi amddiffyniad effeithiol i'w defnyddwyr rhag y niwed a grybwyllir uchod.
Wrth gyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio, byddwn bob amser yn ystyried hawliau defnyddwyr, gan gynnwys rhyddid mynegiant.
A allaf gwyno'n awr i Ofcom am gynnwys niweidiol ar lwyfannau rhannu fideos?
Dylech bob amser gwyno'n uniongyrchol i'r llwyfan rhannu fideos dan sylw os oes gennych bryderon am gynnwys niweidiol ar lwyfan ar-lein.
Os gwnaethoch chi adrodd am gynnwys ac yn parhau i bryderu na chymerwyd camau, gallwch ddweud wrth Ofcom drwy ein porth cwynion ar-lein. Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw bryderon am fesurau diogelwch y llwyfannau – er enghraifft, unrhyw broblemau o ran swyddogaethau adrodd, fflagio neu ddilysu oedran.
Ein rôl ni yw sicrhau bod gan ddarparwyr fesurau priodol ar waith i amddiffyn defnyddwyr. Bydd cwynion gan y cyhoedd yn helpu i nodi materion posibl o ran cydymffurfio ond nid ydym yn datrys cwynion unigol.