Ar agor
Darparu fforwm trafod hunanladdiad ar-lein. Oherwydd ei natur, rydym wedi penderfynu peidio ag enwi’r darparwr na’r fforwm.
9 Ebrill 2025
Rydym yn ymchwilio i weld a yw darparwr fforwm trafod hunanladdiad ar-lein wedi methu/yn methu cydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i wneud y canlynol:
- ymateb yn ddigonol i gais statudol am wybodaeth.
- cwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol; a hefyd
- cydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch ynghylch cynnwys anghyfreithlon, y dyletswyddau sy’n ymwneud ag adrodd am gynnwys a dyletswyddau yng nghyswllt gweithdrefnau cwyno, sy’n berthnasol i wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio.
Adrannau 9, 10, 20, 21, 23 a 102(8) o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i ddarparwr fforwm trafod hunanladdiad ar-lein. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried cydymffurfiad y darparwr â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’).
Roedd yn rhaid i bob gwasanaeth chwilio a defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sydd o fewn cwmpas y Ddeddf gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon erbyn 16 Mawrth 2025. Roedd yn ofynnol iddynt asesu’r risgiau y byddai defnyddwyr yn dod o hyd i gynnwys anghyfreithlon ar eu llwyfannau, gan gynnwys deunydd anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth (fel y’i diffinnir yn y Ddeddf) sy’n gyfystyr â throsedd annog neu gynorthwyo hunanladdiad (neu ymgais i gyflawni hunanladdiad) rhywun arall yn fwriadol.
Yn ogystal, mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio i ddefnyddio'r canlynol:
- camau cymesur i liniaru a rheoli yn effeithiol:
- y risg y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i gyflawni neu hwyluso trosedd flaenoriaeth; a’r
- risgiau o niwed i unigolion.
- systemau a phrosesau cymesur i:
- atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth; a
- lleihau’r amser mae unrhyw gynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth yn bresennol a mynd ati’n ddi-oed i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono; a
- bod darpariaethau yn yr amodau gwasanaeth sy’n nodi sut bydd unigolion yn cael eu diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon, yn cymhwyso’r telerau hynny’n gyson ac yn sicrhau bod telerau’r gwasanaeth yn glir ac yn hawdd eu cyrraedd.
Ar yr un pryd, dechreuodd dyletswyddau i ddefnyddio systemau a phrosesau i sicrhau bod defnyddwyr yn gallu rhoi gwybod yn hawdd am gynnwys anghyfreithlon a gwneud cwynion perthnasol hefyd fod yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau Rhan 3. Daeth y ‘Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon’ hyn i rym ar 17 Mawrth 2025.
Gall darparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio gydymffurfio â’r Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon drwy roi camau ar waith sy’n cael eu hargymell yng Nghodau Ymarfer Ofcom ar gynnwys anghyfreithlon ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2025 (y ‘Codau Ymarfer’), neu drwy fesurau amgen.
Ymchwiliadau
Mae’r ymchwiliad yn dilyn hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd at y darparwr gwasanaeth o dan y Rhaglen Gorfodi Asesiad Risg a gohebiaeth bellach gyda’r darparwr gwasanaeth mewn perthynas â’i ddyletswyddau o dan y Ddeddf. Rydym wedi bod yn glir y gallai methu ymateb yn ddigonol i’n cais i wasanaethau gyflwyno cofnod o’u hasesiad risg cynnwys anghyfreithlon arwain at gamau gorfodi a, cyn gynted ag y daw’r dyletswyddau i rym ar gyfer darparwyr, na fyddem yn oedi cyn gweithredu pan fyddwn yn amau y gallai fod achosion difrifol o dorri amodau sy’n ymddangos fel pe baent yn peri risg o niwed sylweddol iawn i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig, ac i blant yn benodol.
Bydd ymchwiliad Ofcom yn ystyried a oes sail resymol dros gredu bod darparwr y fforwm trafod hunanladdiad ar-lein wedi methu, neu’n methu ar hyn o bryd cydymffurfio â’i ddyletswyddau i ddiogelu ei ddefnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon, yn ogystal â’r ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonir o dan y Ddeddf.
Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law. Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn amlinellu dull arferol Ofcom o orfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a’r camau gweithdrefnol y mae’n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu’n deg ar ganlyniad yr ymchwiliad.
Pan fyddwn yn canfod methiannau cydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw byd-eang cymwys (pa un bynnag sydd fwyaf). Yn yr achosion mwyaf difrifol o beidio â chydymffurfio, a lle bo’n briodol o ystyried y risg o niwed i unigolion yn y Deyrnas Unedig, gallwn ofyn am orchymyn llys i fynnu bod trydydd partïon yn cymryd camau i darfu ar fusnes y darparwr. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon (fel darparwyr gwasanaethau talu neu hysbysebu, neu Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd) dynnu gwasanaethau o wasanaeth rheoledig yn y Deyrnas Unedig, neu rwystro mynediad ato.
CW/01293/04/25