Twitch-(Web)

Pa mor gywir yw labeli dosbarthu cynnwys newydd Twitch?

Cyhoeddwyd: 2 Medi 2024

Mae crewyr cynnwys ar Twitch yn rhoi label cynnwys aeddfed yn llawer mwy cywir ar ôl i’r platfform newid ei ganllawiau dosbarthu cynnwys ym mis Mehefin 2023, yn ôl gwerthusiad o’r mesur gan Ofcom.

Mae’n rhaid i grewyr cynnwys nawr ddefnyddio labeli dosbarthu cynnwys i ddweud wrth wylwyr a yw’r ffrwd maen nhw ar fin ei gwylio yn cynnwys themâu aeddfed penodol. Mae’r labeli manylach hyn yn gallu helpu gwylwyr i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth am y cynnwys maen nhw’n ei wylio.

Rhaid defnyddio label dosbarthu cynnwys ar ffrydiau os ydynt yn cynnwys themâu sy'n ymwneud â: Gemau Aeddfed; Themâu Rhywiol; Cyffuriau, Meddwdod, neu Ormod o Dybaco; Portreadau Treisgar a Graffig; Llawer o Regi neu Fwlgariaeth; neu Gamblo. Os na fydd ffrydwyr yn labelu eu ffrydiau yn gywir byddant yn cael eu cosbi.

Er mwyn deall effaith y newidiadau newydd hyn ar ymddygiad crewyr cynnwys a phrofiad gwylwyr ar Twitch, rydym wedi casglu a dadansoddi data o dros 3 miliwn o ffrydiau rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023.

Labeli sy’n fwy cywir

Canfu ein gwerthusiad fod cynnwys yn cael ei labelu’n fwy cywir o lawer ar ôl cyflwyno’r newidiadau i’r labeli dosbarthu cynnwys. Gwelsom hefyd ostyngiad mewn camlabelu ffrydiau fel rhai aeddfed. Roedd ein dadansoddiad yn gweld cysylltiad achosol rhwng y newidiadau i’r rheolau a bod mwy o grewyr yn labelu cynnwys aeddfed yn gywir.

Cyn rhoi’r newidiadau ar waith, mae ein dadansoddiad yn awgrymu bod llai na hanner (48%) y ffrydiau gemau aeddfed wedi cael eu labelu’n gywir, a dim ond dwy ran o dair (65%) o’r ffrydiau gamblo oedd wedi cael eu labelu’n gywir fel rhai aeddfed. Roedd meysydd eraill yn fwy cywir – themâu rhywiol (85%), cyffuriau, meddwdod ne ormod o dybaco (82%) a phortreadau treisgar a graffig (86%) – ond nid oedd yr un genre o ffrwd yn 100% gywir.

Mae ein hadroddiad hefyd yn dangos nad yw’r rheolau newydd wedi newid llawer ar y math o gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan grewyr, ac nad yw’r niferoedd sy’n gwylio ffrydiau aeddfed wedi newid llawer.

Diogelwch gwell i blant

Gan fod Ofcom yn rheoleiddiwr platfformau rhannu fideos a threfniadau Diogelwch Ar-lein, mae’n bwysig ei fod yn gwerthuso’r mesurau diogelwch sy’n cael eu defnyddio gan blatfformau er mwyn deall eu heffaith a’u heffeithiolrwydd o ran gwella diogelwch ar-lein. Mae'r ymchwil hwn yn gwella ein dealltwriaeth o fesurau diogelwch a'u heffeithiolrwydd, ac yn datblygu ein sgiliau a'n gwybodaeth am ddefnyddio Rhyngwynebau Rhaglennu Rhaglenni (APIs) ar y platfform i gasglu data i gyfrannu at ymchwil.

Cyn i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ddod i rym, mae’n rhaid i blatfformau rhannu fideos sydd wedi’u sefydlu yn y DU, fel Twitch, gymryd mesurau priodol i atal pobl ifanc o dan 18 oed rhag cael mynediad at bornograffi a deunyddiau niweidiol eraill, o dan y rheoliadau presennol. Byddwn yn parhau i fonitro Twitch i sicrhau bod pobl dan 18 oed yn parhau i gael eu hamddiffyn yn well.

Ar ôl i Lywodraeth y DU ddiddymu’r drefn platfformau rhannu fideos (VSP), bydd yn rhaid i blatfformau gydymffurfio â chyfres ehangach o ddyletswyddau o dan y drefn diogelwch ar-lein newydd.

Yn ôl i'r brig