Arweiniad: Llwyfannau rhannu fideos - pwy sydd angen hysbysu Ofcom?

Cyhoeddwyd: 11 Ionawr 2024

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar ddarparwyr llwyfannau rhannu fideos (VSP) yn awdurdodaeth y DU i gyflwyno hysbysiad ffurfiol am eu gwasanaeth i Ofcom.

Math o wasanaeth fideo ar-lein yw VSP sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho a rhannu fideos gyda'r cyhoedd. Ar 1 Tachwedd 2020, daeth y Rheoliadau Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled (AVMS) i rym, gan sefydlu rheolau newydd ar gyfer VSP a sefydlir yn y DU.

Mae meini prawf cyfreithiol penodol sy'n pennu a yw gwasanaeth yn bodloni'r diffiniad o VSP, ac a yw'n dod o fewn awdurdodaeth y DU. Y mae VSP yn gyfrifol am hunanasesu a yw’n bodloni'r meini prawf hyn.

Dylech:

  1. ddarllen ein harweiniad PDF yn gyntaf;
  2. penderfynu a yw eich gwasanaeth o fewn cwmpas ai beidio a bod angen ein hysbysu amdano; ac
  3. os credwch y dylai, hysbyswch ni am eich gwasanaeth.  Os nad ydych yn darparu VSP ar hyn o bryd ond rydych yn bwriadu gwneud hyn, mae angen i chi ein hysbysu amdano o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn iddo lansio.

Os yw'n ymddangos i Ofcom bod eich gwasanaeth yn bodloni'r meini prawf statudol ond nad ydych wedi ein hysbysu, gallwn ofyn am wybodaeth er mwyn gwneud asesiad a chymryd camau gorfodi os yw darparwr wedi methu â hysbysu. Gall y camau hyn gynnwys sancsiwn ariannol a/neu gyfarwyddyd gennym i hysbysu.

Arweiniad: Llwyfannau rhannu fideos: pwy sydd angen hysbysu Ofcom? (PDF, 150.0 KB)

Diweddariad 11 Ionawr 2024 - newidiadau i'r  rheolau hysbysu

Derbyniodd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ('Deddf DA’) Gydsyniad Brenhinol ar 26 Hydref 2023. Mae pob VSP bellach yn ddarostyngedig i'r troseddau cyfathrebiadau newydd, pwerau gwybodaeth a gorfodi newydd Ofcom, a gofynion hysbysu ffioedd. Byddant hefyd yn ddarostyngedig i'r gofyniad i gwblhau asesiadau mynediad plant a risg unwaith y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg yn pennu dyddiad dechrau mewn deddfwriaeth.

Ar 10 Ionawr 2024, aeth pob VSP a oedd eisoes wedi’i sefydlu yn y DU i mewn i gyfnod pontio. Yn ystod y cyfnod hwn, cânt eu rheoleiddio o dan y drefn VSP a'r Ddeddf DA - ond ni fydd angen iddynt gydymffurfio â'r rhan fwyaf o ddyletswyddau'r Ddeddf DA tan ddiwedd y cyfnod pontio. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfnod pontio ar gael yn ein harweiniad i ddiddymu'r drefn VSP.

Os gwnaethoch ddechrau darparu eich gwasanaeth fideo ar-lein cyn 10 Ionawr 2024, dylech barhau i:

  1. ddarllen ein harweiniad;
  2. penderfynu a yw eich gwasanaeth o fewn y cwmpas ac a oes angen ei hysbysu; ac
  3. os ydych chi'n meddwl y dylai, hysbyswch eich gwasanaeth i ni.

Os gwnaethoch ddechrau darparu eich gwasanaeth ar neu ar ôl 10 Ionawr 2024, dim ond o dan y Ddeddf DA (sy’n berthnasol yn llawn) y caiff ei reoleiddio. Nid yw'r rheolau VSP a'r cyfnod pontio'n berthnasol, ac nid oes angen i chi hysbysu Ofcom am eich gwasanaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae Ofcom yn rheoleiddio VSPs, gyrrwch e-bost atom yn vspregulation@ofcom.org.uk

Yn ôl i'r brig