Cais am dystiolaeth: categoreiddio - ymchwil a chyngor

Cyhoeddwyd: 11 Gorffennaf 2023
Ymgynghori yn cau: 12 Medi 2023
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae Ofcom yn ceisio tystiolaeth ar yr ymchwil y bydd angen i ni ei gwneud i baratoi ein cyngor ar gyfer Llywodraeth y DU ar gategoreiddio gwasanaethau wedi'u rheoleiddio o dan ddeddfau Diogelwch Ar-lein newydd.

Bydd y Bil Diogelwch Ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i rai gwasanaethau ar-lein fel gwefannau cyfryngau cymdeithasol, apiau negeseua a pheiriannau chwilio nodi risgiau i bobl a rhoi mesurau ar waith i'w diogelu rhag mathau penodol o niwed ar-lein. Bydd Ofcom yn darparu arweiniad a chodau ymarfer ar sut y gall cwmnïau gydymffurfio â'u dyletswyddau.

Bydd yn rhaid i wefannau ac apiau sydd o fewn cwmpas ddiogelu eu holl ddefnyddwyr yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon a, lle bo'n berthnasol, amddiffyn plant rhag mathau penodol o niwed ar-lein. Bydd rhai gwasanaethau'n cael eu categoreiddio'n 1, 2A neu 2B os byddant yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth sydd i'w gwneud gan Lywodraeth y DU. Bydd gofyn i'r gwasanaethau wedi'u categoreiddio hyn gydymffurfio â gofynion ychwanegol, gan gynnwys cynhyrchu adroddiadau tryloywder.

Ar ôl i'r deddfau newydd gael eu deddfu, bydd yn ofynnol i Ofcom gynnal ymchwil i helpu rhoi cyngor i Lywodraeth y DU ynghylch y trothwyon y mae'n eu pennu mewn is-ddeddfwriaeth. Yna, bydd Ofcom yn llunio rhestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio yn seiliedig ar y trothwyon hyn.

Bydd trothwyon Categori 1 a 2B yn cael eu pennu gan gyfeirio at niferoedd a swyddogaethau defnyddwyr. Yn yr un modd, bydd trothwyon Categori 2A yn cynnwys niferoedd defnyddwyr.

Mae'r cais am dystiolaeth heddiw yn rhoi cyfle i unrhyw bartïon sydd â diddordeb roi gwybodaeth a thystiolaeth i ni y gallwn eu hystyried wrth wneud ein hymchwil. Byddwn yn cyhoeddi cais arall am dystiolaeth yn ddiweddarach eleni ar y dyletswyddau a fydd yn berthnasol i wasanaethau wedi'u categoreiddio.

Yn benodol, rydym yn ceisio mewnbwn gan ddiwydiant ar sut mae cwmnïau'n mesur niferoedd defnyddwyr ar y rhannau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr perthnasol o'u gwasanaethau. Rydym yn cydnabod bod pob gwasanaeth yn wahanol ac y gallai'r hyn sy'n cyfrif fel defnyddiwr fod yn wahanol ar gyfer gwahanol wasanaethau. Mae'n bwysig i ni fel rheoleiddiwr i sicrhau bod ein hymagwedd at gategoreiddio'n gweddu i hyn. Rydym yn ymgysylltu'n agored â diwydiant a rhanddeiliaid eraill ar y cam cynnar hwn i sicrhau ein bod yn ei gael e'n gywir a'u bod yn cael y cyfle i rannu eu safbwyntiau.

Rydym yn gwahodd sylwadau erbyn 5pm ar 12 Medi 2023.

Ymateb i'r cais hwn am dystiolaeth

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb (ODT, 101.8 KB).

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Online Safety Call for Evidence
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig