Mae’r llwyfan rhannu fideos, BitChute, yn gwella’i mesurau diogelwch wedi i Ofcom godi pryderon am eu heffeithiolrwydd yn dilyn achos o saethu torfol a ddigwyddodd y llynedd yn Buffalo, Efrog Newydd.
Ar ôl i’r ymosodiad gael ei ffrydio'n fyw ar-lein, lledodd fersiynau o'r cynnwys ar draws nifer o wasanaethau ar-lein, gan gynnwys BitChute - gan amlygu pobl o bosibl i gynnwys terfysgol.
Cyn derbyn pwerau newydd pan ddaw’r Bil Diogelwch Ar-lein yn gyfraith, mae Ofcom eisoes yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSP) sydd wedi'u lleoli yn y DU.
Yr hyn a wnaeth Ofcom yn dilyn ymosodiad Buffalo
Pan ddaeth yn amlwg bod yr ymosodiad yn Buffalo wedi'i ffrydio'n fyw, aethom ati ar unwaith i drefnu cwrdd ag uwch gynrychiolwyr VSP sy’n cael eu rheoleiddio i ddeall y mesurau oedd ganddynt ar waith i amddiffyn eu defnyddwyr rhag y math hwn o fideos. Ym mis Hydref 2022, cyhoeddom adroddiad yn nodi ein canfyddiadau.
Codom bryderon â BitChute nad oedd ei waith adrodd a fflagio na’i fesurau cymedroli cynnwys wedi bod yn diogelu defnyddwyr yn effeithiol o bosibl rhag dod ar draws fideos yn ymwneud â therfysgaeth. Er bod gan BitChute delerau ac amodau’n ymwneud â chynnwys casineb a braw, amlygodd yr ymosodiad yn Buffalo ddiffygion yn ei allu i’w gorfodi’n effeithiol.
Yn benodol, roeddem yn poeni am y canlynol:
- bod swyddogaeth adrodd ar y llwyfan BitChute ond ar gael i ddefnyddwyr a oedd â chyfrif cofrestredig; a
- bod tîm cymedroli cynnwys BitChute yn fach ac wedi’i gyfyngu i oriau gwaith penodol, a oedd yn cyfyngu ar ei allu i ymateb yn gyflym i adroddiadau bod cynnwys ar y llwyfan yn dilyn yr ymosodiad.
Beth mae BitChute yn ei wneud mewn ymateb i'n pryderon
O ganlyniad i'n hymgysylltiad, mae BitChute:
- yn treblu maint ei dîm cymedroli trwy gyflogi mwy o gymedrolwyr dynol;
- yn cynyddu nifer yr oriau mae cymedrolwyr ar gael i adolygu adroddiadau fel bod ganddo dîm diogelwch gweithredol 24/7; ac
- wedi newid dyluniad ei lwyfan i ganiatáu i ddefnyddwyr sydd heb gofrestru adrodd yn uniongyrchol am gynnwys a allai fod yn niweidiol.
Mae BitChute yn casglu metrigau ychwanegol i fesur effaith y newidiadau mae wedi’u gwneud, gan gynnwys nifer yr adroddiadau adolygu cynnwys sy’n cael eu codi bob dydd a’r amser cyfartalog mae’n ei gymryd i ymateb iddynt. Bydd y metrigau hyn yn helpu Ofcom i werthuso effeithiolrwydd mesurau'r llwyfan.
Hefyd, daeth BitChute yn aelod swyddogol o Technoleg yn erbyn Terfysgaeth ym mis Hydref 2022, ac yn aelod o'r Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Wrthsefyll Terfysgaeth ym mis Mehefin 2023.
Y camau nesaf
Er ein bod yn croesawu’r gwelliannau hyn, rydym yn ymwybodol o adroddiadau sy’n honni bod cynnwys sy’n debygol o sbarduno trais a chasineb yn parhau i gael ei uwchlwytho i BitChute, bod modd cael mynediad ato’n hawdd, ac y gallai beri risgiau sylweddol i ddefnyddwyr.
Mae'r drefn VSP bresennol - a'r drefn diogelwch ar-lein yn y dyfodol - yn canolbwyntio ar y mesurau sydd gan lwyfannau ar waith i leihau'r risgiau y bydd defnyddwyr yn dod ar draws deunydd niweidiol ar-lein. Mae hynny'n golygu nad yw presenoldeb cynnwys niweidiol ar wasanaeth ynddo'i hun yn torri'r rheolau, ac nid rôl Ofcom fel rheoleiddiwr yw pennu derbynioldeb darnau unigol o gynnwys. Fodd bynnag, gall cynnwys o'r fath fod yn arwydd bod anhawster sylfaenol gyda'r camau diogelu defnyddwyr sydd ar waith.
Byddwn yn monitro’n ofalus y ffordd caiff newidiadau BitChute eu gweithredu, a’r effaith maent yn ei chael, er mwyn asesu a ydynt yn arwain at welliannau go iawn i ddiogelwch defnyddwyr. Os gwelwn nad yw defnyddwyr yn cael eu diogelu’n ddigonol rhag cynnwys niweidiol perthnasol er gwaethaf gwelliannau BitChute, ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gweithredu pellach, gan gynnwys camau gorfodi os bydd angen.