Mae'r Drosedd Ymyrraeth Dramor, fel y nodir yn Neddf Diogelwch Cenedlaethol (2023), yn ceisio gwneud mathau o ymyrraeth sy'n gysylltiedig â'r wladwriaeth yn y DU yn anoddach. Mae'r drosedd hefyd wedi'i chynnwys yn y Bil Diogelwch Ar-lein fel trosedd flaenoriaeth, sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau asesu'r risg y bydd y gweithgaredd hwn yn digwydd ar eu gwasanaeth a rhoi mesurau cymesur ar waith i liniaru a rheoli'n effeithiol y risgiau sy'n deillio ohono. Unwaith y caiff y Bil Diogelwch Ar-lein ei ddeddfu, Ofcom fydd rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU.
Fel rhan o'n gwaith paratoi, rydym wedi bod yn cynnal ymchwil i adeiladu sylfaen dystiolaeth a'n dealltwriaeth mewn perthynas â throseddau a'n cyfrifoldebau sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Diogelwch Ar-lein. Fe wnaethom gomisiynu'r Gynghrair dros Sicrhau Democratiaeth i gynnal ymchwil i sut y gallai mathau o drin yn faleisus neu ymyrryd ddigwydd trwy wasanaethau chwilio ar-lein.
Mae gennym hefyd ddyletswyddau statudol i hyrwyddo a chynnal ymchwil i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau o dan Ddeddf Cyfathrebu 2003. Y brif ffordd rydym yn ceisio cyflawni ein dyletswyddau presennol yw drwy ein rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau, sy'n ceisio helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein plant ac oedolion yn y DU. Mae'r adroddiad yn helpu i gyfeirio ein rôl ymwybyddiaeth o'r cyfryngau trwy ymestyn a chyfoethogi ein dealltwriaeth o'r mathau o amgylcheddau lle y gallai defnyddwyr ddod ar draws risgiau gweithgareddau ymyrraeth dramor.
Crynodeb gweithredol
Asesu'r Risg o Ddylanwad o Dramor yng Nghanlyniadau Chwilio'r DU (PDF, 431.4 KB)