Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft sy’n nodi naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr.
Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gwneud llwyfannau – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau gemau, apiau cwrdd â chariad, fforymau trafod a pheiriannau chwilio – yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy’n niweidiol i blant, gan gynnwys niwed sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.
Mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi codau a chanllawiau asesu risg terfynol ar sut rydym yn disgwyl i lwyfannau fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon; byddwn yn cyhoeddi ein codau a’n canllawiau terfynol ar amddiffyn plant maes o law. Ar ôl i’r dyletswyddau hyn ddod i rym, rôl Ofcom fydd dal cwmnïau technoleg i gyfrif, gan ddefnyddio grym llawn ein pwerau gorfodi lle bo angen.
Hefyd mae’n ofynnol bod Ofcom yn cynhyrchu canllawiau sy’n nodi sut y gall darparwyr gymryd camau yn erbyn y cynnwys a’r gweithgarwch niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, er mwyn cydnabod y risgiau unigryw y maent yn eu hwynebu.
Mae ein canllawiau drafft yn nodi naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr.
Ymateb i’r ymgynghoriad hwn:
Cyflwynwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r consultation-response-form (ODT, 98.85 KB) erbyn 5pm ar 23 Mai 2025.
Os oes unrhyw rai o’r mathau hyn o niwed wedi effeithio arnoch chi, mae gwasanaethau cymorth ar gael yma (Comisiynydd Cam-drin Domestig) ac yma (Gwybodaeth i Ddioddefwyr a Thystion). Os ydych chi’n poeni y gallai rhywun rannu delweddau personol ohonoch chi ar-lein, neu fod hynny eisoes wedi digwydd i chi, ewch i StopNCII a’r Revenge Porn Helpline.
Sut i ymateb
Ofcom Online Safety Group,
Ofcom,
Riverside House,
2A Southwark Bridge Road,
London SE1 9HA