Rydyn ni wedi cyhoeddi canllaw heddiw ar y rheoliadau newydd i lwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi’u lleoli yn y DU.
Mae llwyfannau rhannu fideos yn fath o wasanaeth fideos ar-lein lle gall defnyddwyr lwytho fideos i fyny a’u rhannu. Maen nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gynnwys a nodweddion cymdeithasol.
O dan y rheoliadau newydd, rhaid i’r llwyfannau rhannu fideos gael mesurau priodol ar waith i ddiogelu plant rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol, a phob defnyddiwr rhag cynnwys troseddol a chynnwys sy’n annog casineb a thrais. Hefyd bydd angen i lwyfannau rhannu fideos sicrhau eu bod yn bodloni safonau mewn perthynas â hysbysebion.
Nod y canllaw sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yw helpu llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU i ddeall eu rhwymedigaethau newydd, ac mae’n nodi ein dull gweithredu ar gyfer cyflawni ein dyletswyddau newydd.
Byddwn yn gweithio â darpar lwyfannau rhannu fideos i’w helpu i ddeall y camau y dylent eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Byddwn hefyd yn datblygu ac yn ymgynghori ar ganllawiau pellach ar risgiau niwed i ddefnyddwyr a’r mesurau y dylai gwasanaethau eu cymryd i’w lliniaru.
Rydym yn deall mai bwriad Llywodraeth y DU yw y bydd y rheoliadau rheoli llwyfannau fideos yn aros mewn grym hyd nes y daw’r gyfundrefn Niweidiau Ar-lein newydd i rym.