Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar fusnesau, ac unrhyw un arall sy’n gweithredu amrywiaeth eang o wasanaethau ar-lein, i sicrhau bod pobl (yn enwedig plant) yn ddiogel ar-lein yn y Deyrnas Unedig.
Rôl reoleiddio Ofcom, dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, yw gwneud gwasanaethau ar-lein yn fwy diogel i’r bobl sy’n eu defnyddio nhw. Mae gennym ni amrywiaeth o bwerau a chyfrifoldebau i’n helpu ni i roi'r rheolau newydd ar waith, a gwneud yn siŵr bod systemau effeithiol gan gwmnïau i ddiogelu defnyddwyr.
Yn ein cynllun gweithredu, rydyn ni wedi creu amserlen ar gyfer rhoi'r rheolau hyn ar waith. Os ydych chi’n ansicr a yw’r rheolau diogelwch ar lein newydd yn berthnasol i chi, gall yr adnodd gwirio perthnasedd eich helpu.
Ein dull o gasglu gwybodaeth
Fel rheoleiddiwr sy’n gweithio ar sail tystiolaeth, bydd angen cael gwybodaeth gan randdeiliaid ar adegau. Byddwn ni’n gwneud hyn er mwyn gallu cyflawni ein cyfrifoldebau a datblygu cynigion yn seiliedig ar dystiolaeth yn effeithiol.
Mae’r Ddeddf yn galluogi Ofcom i wneud cais am wybodaeth at ddibenion arfer ein dyletswyddau a’n swyddogaethau diogelwch ar-lein, neu benderfynu a ddylid eu harfer ai peidio.
Os ydyn ni’n credu bod gennych chi wybodaeth a allai ein helpu ni i gyflawni ein rôl a chadw defnyddwyr yn ddiogel ar-lein, efallai y byddwn ni’n anfon cais am wybodaeth (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig) atoch chi, gan egluro pam ein bod ni angen yr wybodaeth. Rydym yn casglu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom drwy geisiadau ffurfiol am wybodaeth (a elwir hefyd yn ‘geisiadau gwybodaeth statudol’ neu’n ‘hysbysiadau gwybodaeth’ yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein). Mae ein ceisiadau ffurfiol am wybodaeth yn cael eu cydgysylltu a’u cynhyrchu gan dîm y Gofrestrfa Wybodaeth. Byddan nhw’n eich helpu chi yn ystod pob cam o’r broses.
Am fwy o fanylion ynglŷn â cheisiadau am wybodaeth gan Ofcom, a chanllawiau am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n derbyn cais, ewch i’r wefan.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar wasanaethau ar-lein i gydymffurfio â cheisiadau am wybodaeth
Rydym ni eisiau gweithio gyda chi i gadw oedolion a phlant yn ddiogel ar-lein. Mae’n bwysig eich bod yn darparu ymatebion clir, cyflawn a chywir i’r holl gwestiynau wrth ymateb i hysbysiad gwybodaeth statudol erbyn y dyddiad cau. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn gychwyn ymchwiliad i weld pam eich bod wedi methu â chydymffurfio.
Gall methu â chydymffurfio â'r hysbysiad gwybodaeth statudol arwain at orfod cymryd camau gorfodi, sy’n gallu golygu canlyniadau sylweddol (megis cosb ariannol). Rhai enghreifftiau o fethu â chydymffurfio yw peidio ag ymateb erbyn y dyddiad cau neu ddarparu ymateb anghywir neu anghyflawn (i un neu fwy o gwestiynau neu i rannau o gwestiynau). Wrth ystyried a ddylid cymryd camau gorfodi mewn achosion o beidio â chydymffurfio â’r gofynion, byddwn ni’n dilyn ein gweithdrefnau gorfodi perthnasol, megis ein canllawiau camau gorfodi ar gyfer ymchwiliadau rheoleiddio (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig) ar y cyd â chanllawiau Camau Gorfodi Diogelwch Ar-lein.
Rydym ni wedi cyhoeddi manylion achosion blaenorol, lle bu’n rhaid i ni gosbi’n ariannol, oherwydd methiant i gydymffurfio â cheisiadau statudol am wybodaeth. Mae’r achosion diweddar yn cynnwys:
- Ymchwiliad i fethiant Tapnet’s (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig) i gydymffurfio â chais am wybodaeth statudol yn 2023. Rhoddwyd cosb briodol o £2,000.
- Ein penderfyniad i roi dirwy o £1.875m i TikTok am ddarparu data anghywir ar reolaethau diogelwch
Am ragor o wybodaeth ar reolau gwasanaethau ar-lein, edrychwch ar y cymorth a’r canllawiau (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig) sydd ar gael ar ein gwefan.