Cael gwybod pam mae Ofcom yn defnyddio mewnwelediadau ymddygiadol blaengar i gryfhau ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Mae llwyfannau ar-lein yn arloesi'n gyson i ddal a chynnal ein sylw. Meddylia am y 'sgrôl anfeidrol' sy'n dileu seibiannau wrth bori; systemau argymell sy'n curadu cynnwys ar gyfer defnyddwyr unigol yn seiliedig ar fanciau o ddata personol; algorithmau sy'n ein hannog i ychwanegu ffrindiau i'n rhwydweithiau'n gyflym ac yn hawdd.
Ceir tystiolaeth gynyddol hefyd y dylanwadir yn fawr ar ein penderfyniadau gan ddyluniad yr amgylchedd ar-lein lle'r ydym yn eu gwneud - sef y 'bensaernïaeth dewis ar-lein'’. Er enghraifft, dylanwadir yn anghymesur arnom gan y canlyniadau cyntaf a gyflwynir i ni wrth chwilio ar-lein – rydyn ni'n dewis un o'r tri opsiwn cyntaf 70% o'r amser. Ac mae profion cyflym a rhad ar-lein yn galluogi cwmnïau i ddysgu'n gyflym sut mae cwsmeriaid yn ymddwyn fel y gallant addasu eu gwasanaeth i lywio ein penderfyniadau.
Bwriad y nodweddion dylunio hyn yw meithrin ymgysylltiad drwy helpu defnyddwyr i adeiladu eu rhwydweithiau a chael mynediad at gynnwys y maent yn ei fwynhau. Fodd bynnag, awgryma ymchwil Ofcom y gall y nodweddion dylunio hyn hefyd arwain at niwed ar-lein, er enghraifft trwy annog neu alluogi plant i adeiladu rhwydweithiau mawrion o bobl – rhai ohonynt nad ydyn nhw'n eu hadnabod; neu drwy eu hamlygu i gynnwys a chysylltiadau nad oeddent wedi mynd ati i chwilio amdanynt. Ac mae'r ffordd y cyflwynir canlyniadau chwilio yn dylanwadu a yw defnyddwyr yn talu sylw i rybuddion cynnwys neu'n sylwi ar ddolenni i wasanaethau cymorth.
Beth mae hyn yn ei olygu i Ofcom
Er mwyn i Ofcom gyflawni ei rôl sydd ar y gweill o wella diogelwch ar-lein, mae angen i ni ddeall sut mae pobl yn gwneud penderfyniadau ar-lein a'r ffactorau all siapio ymddygiad - mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol. Dyna pam rydym yn datblygu ein gallu Mewnwelediad Ymddygiadol i ategu ein cryfderau mewn ymchwil a dadansoddi a'n harbenigedd cynyddol mewn data a thechnoleg.
Rydym yn defnyddio technegau arloesol fel hap-dreialon â rheolydd ar-lein i adeiladu tystiolaeth ar gwestiynau fel sut y gall 'ysgogiadau' gynyddu adrodd am gynnwys ar-lein a allai fod yn niweidiol a pha un a yw rhybuddion ar glipiau fideo yn helpu neu'n llesteirio defnyddwyr wrth benderfynu a ddylid gwylio ai beidio.
Ond nid yw'r pecyn cymorth Mewnwelediadau Ymddygiadol wedi'i gyfyngu i ysgogiadau. Gall cyfuno lens ymddygiadol gydag ymchwil ddatgelu'r symbylwyr a'r rhwystrwyr i ymddygiad. Mae mesurau rheoli soffistigedig i rieni ar gael yn eang, er enghraifft, er hynny dim ond tri o bob 10 rhiant sy'n adrodd am ddefnyddio'r offer rheoli i rieni a ymgorfforir i apiau ar feddalwedd dyfeisiau (fel Windows a PlayStation). Bydd datblygiadau technoleg yn chwarae rôl fawr yn nyfodol diogelwch ar-lein, ond mae mabwysiadu technoleg ei hun yn ymddygiad ac yn un a all fod yn anodd ei newid heb ddealltwriaeth ddyfnach o achosion yr ymddygiad hwnnw a'r mecanweithiau i'w newid.
Ac mae llawer o'r heriau y mae Ofcom yn eu hwynebu yn y sectorau y mae eisoes yn eu rheoleiddio yn rhai ymddygiadol. Gyda chostau byw ar gynnydd aruthrol er enghraifft, mae'r nifer sy'n defnyddio 'tariffau cymdeithasol' - bargeinion band eang cost isel i ddefnyddwyr incwm isel - wedi aros yn ddisymud. Ym mis Medi 2022, dim ond 3.2 % o'r rhai a oedd yn gymwys oedd wedi cofrestru, er y gallent arbed £144 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Trosi ymchwil i bolisi
Er mwyn helpu i greu newid, mae ein harbenigwyr Mewnwelediadau Ymddygiadol yn gweithio gyda'n hymchwilwyr cymdeithasol. Yn ogystal ag edrych ar rwystrau cyfarwydd i fanteisio arnynt, fel ymwybyddiaeth, rydym yn ymchwilio i ddylanwadau cudd megis y stigma o ofyn am dariff a dargedir at hawlwyr budd-daliadau neu bryderon am y drafferth o brofi cymhwysedd. Gall cyfuno mewnwelediadau fel y rhain gyda modelau a fframweithiau, sy'n dod â'r dystiolaeth orau at ei gilydd ar sut i wneud i newid ddigwydd, ein helpu i drosi ein mewnwelediadau i bolisi effeithiol. Er enghraifft, rydym yn defnyddio'r model COM-B i nodi a dosbarthu rhwystrau a symbylwyr posib i ymddygiad, a'r fframwaith EAST i helpu dylunio ymyriadau effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Gwyddwn y gall yr ymagwedd hon weithio. Helpodd ein gofyniad a gyflwynwyd yn ddiweddar i ddarparwyr roi ysgogiad seiliedig ar dystiolaeth gadarn i gwsmeriaid - sef hwb amserol pan ddaw eu cytundeb i ben - i ostwng nifer y cwsmeriaid band eang nad oedd wedi diweddaru eu cytundeb dros filiwn.
Byddwn yn cyhoeddi ein hymchwil ac yn ysgrifennu am ein canfyddiadau, gan ddechrau gyda'n profion peilot ar rym cyflwyno ar ffurf gêm er mwyn ennyn diddordeb plant mewn cyngor diogelwch ar-lein a all helpu i leihau bwlio ac aflonyddu yn ogystal â niwed mwy difrifol fyth, fel grŵmio ar-lein.
Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â diwydiant, academyddion a rheoleiddwyr eraill i herio ein meddyliau a datblygu ein harbenigedd mewn ymddygiad ar-lein – ac oddi ar-lein – i helpu defnyddwyr a gwella diogelwch ar-lein.