Profiadau ac agweddau defnyddwyr llwyfannau rhannu fideos

Cyhoeddwyd: 28 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf: 28 Tachwedd 2023

Mae Ofcom wedi comisiynu ymchwil i ddeall profiadau pobl o ddefnyddio, ac agweddau tuag at, fesurau diogelwch ar lwyfannau rhannu fideos (VSP).

Bu i ni ymchwilio i ystod o safbwyntiau defnyddwyr, o rieni a gofalwyr i ddefnyddwyr llwyfannau sy'n lletya cynnwys pornograffig. Bydd y canfyddiadau'n cyfeirio sut rydym yn rheoleiddio VSPs, gan gynnwys ein rheolau ar ddiogelu plant a'n hymgysylltiad â darparwyr hysbysedig.

Rydym wedi cyhoeddi'r ymchwil hon ochr yn ochr â'n hadroddiad cyntaf ar lwyfannau rhannu fideos ers i ni ddechrau bod yn rheoleiddiwr statudol ar gyfer llwyfannau a sefydlir yn y DU.

Noder bod y pryderon a'r mesurau a drafodir yn yr adroddiadau hyn yn mynd y tu hwnt i gwmpas y niwed a'r mesurau mewn deddfwriaeth VSP. Mae'r ymchwil yn cynnwys llwyfannau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom ar hyn o bryd o dan y gyfundrefn VSP, ond maent yn dal i ddarparu cyd-destun pwysig ar gyfer deall y dirwedd VSP. Gan y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil ac nid gan Ofcom y mae'r holl safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiadau hyn.

DocumentWavePublication date
Chart pack (PDF, 950.5 KB)Waves 3 and 428 Tachwedd 2023
Data tables (XLSX, 5.7 MB)Waves 3 and 428 Tachwedd 2023
Questionnaire (PDF, 249.3 KB)Wave 328 Tachwedd 2023
Data tables (XLSX, 6.3 MB)Wave 328 Tachwedd 2023
Technical report (PDF, 251.7 KB)Wave 328 Tachwedd 2023
Data file (SAV, 1.4 MB)Wave 328 Tachwedd 2023
Questionnaire (PDF, 248.7 KB)Wave 428 Tachwedd 2023
Data tables (XLSX, 6.6 MB)Wave 428 Tachwedd 2023
Technical report (PDF, 194.1 KB)Wave 428 Tachwedd 2023
Data file (SAV, 1.9 MB)Wave 428 Tachwedd 2023

Mae'r arolwg ar-lein ansoddol hwn yn ymchwilio i ymwybyddiaeth defnyddwyr o'r mesurau diogelwch sydd ar gael ar lwyfannau a'u profiadau o'u defnyddio. Cyflawnwyd yr ymchwil gan Yonder Consulting ar ran Ofcom, gan ddefnyddio sampl o ddefnyddwyr rhyngrwyd y DU rhwng 13-84 oed.

Rydym wedi cyhoeddi data o ddwy don o'r ymchwil; casglwyd y cyntaf ym mis Hydref 2021 a'r ail ym mis Ebrill 2022.

Noder bod y deunyddiau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

DogfenTonDyddiad cyhoeddi
Chart pack (PDF, 1.2 MB)Tonnau 1 a 220 Hydref 2022
Technical report (PDF, 264.4 KB)Tonnau 1 a 220 Hydref 2022
Data tables (XLSX, 3.2 MB)Tonnau 1 a 220 Hydref 2022
Data tables (PDF, 4.3 MB)Tonnau 1 a 220 Hydref 2022
Questionnaire (PDF, 215.0 KB)Ton 220 Hydref 2022
Data tables (XLSX, 5.4 MB)Ton 220 Hydref 2022
Data tables (PDF, 6.6 MB)Ton 220 Hydref 2022
Questionnaire (PDF, 207.9 KB)Ton 120 Hydref 2022
Data tables (XLSX, 6.3 MB)Ton 120 Hydref 2022
Data tables (PDF, 6.9 MB)Ton 120 Hydref 2022

Nod yr ymchwil hon oedd deall sut mae rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr â phlant 6-17 oed yn ymgysylltu â'r canllawiau a'r offer sydd wedi'u dylunio i gadw eu plant yn ddiogel. Nid oedd y cwmpas yn ymestyn i derfynau oedran ar VSPs, nac ymgysylltiad rhieni/teuluoedd â nhw.

Mae'r pryderon a'r mesurau a drafodir yn yr ymchwil hon yn mynd y tu hwnt i gwmpas y niwed a'r mesurau yn y ddeddfwriaeth VSP, ac mae'r ymchwil yn sôn am VSPs nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom ar hyn o bryd. Serch hynny, mae'n rhoi cyd-destun pwysig i ddeall sut mae rhieni'n rhyngweithio â llwyfannau a'r mesurau diogelu arnynt.

Noder bod y deunyddiau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

DogfenDyddiad cyhoeddi
Executive summary (PDF, 716.9 KB)20 Hydref 2022
Technical report (PDF, 342.5 KB)20 Hydref 2022
Questionnaire (PDF, 321.9 KB)20 Hydref 2022
Data tables (XLSX, 1.7 MB)20 Hydref 2022
Data tables (PDF, 3.3 MB)20 Hydref 2022

Mae'r ymchwil hon yn ymchwilio i brofiadau blaenorol defnyddwyr y rhyngrwyd sy'n oedolion o brofi eu hoedran ar-lein, a'u hagweddau tuag at y gwahanol ffyrdd o wneud hyn. Yn benodol, mae'n edrych ar brofiadau defnyddwyr o gael mynediad at gynnwys pornograffig ar-lein.

Cyflawnwyd yr ymchwil gan Yonder Consulting ar ran Ofcom, gan ddefnyddio methodoleg feintiol ac ansoddol dulliau cymysg. Mae'n seiliedig ar sampl o ddefnyddwyr rhyngrwyd y DU sy'n 18 oed neu'n hŷn. Fe wnaethon ni ddewis cyfranogwyr yn seiliedig ar a oedden nhw wedi cyrchu cynnwys pornograffig ar-lein ar unrhyw adeg yn y gorffennol ai beidio.

Noder bod y deunyddiau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

DogfenDyddiad cyhoeddi
Executive summary (PDF, 335.6 KB)20 Hydref 2022
Technical report (PDF, 477.2 KB)20 Hydref 2022
Questionnaire (PDF, 198.2 KB)20 Hydref 2022
Data tables (XLSX, 2.3 MB)20 Hydref 2022
Data tables (PDF, 3.3 MB)20 Hydref 2022
Yn ôl i'r brig