Mae'n ddyletswydd statudol ar Ofcom i hyrwyddo ac ymchwilio i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Un ffordd allweddol rydym yn ceisio cyflawni'r ddyletswydd hon yw drwy ein rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau, sy'n ceisio helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth plant ac oedolion ar-lein yn y DU.
Mae'r adroddiad hwn yn brosiect ymchwil annibynnol i agweddau a phrofiadau'r rhai sydd â chredoau lleiafrifol mewn perthynas â diogelu iechyd, newid yn yr hinsawdd a'r gwrthdaro rhwng Rwsia ac Wcráin.
Fe wnaethom gomisiynu'r ymchwil hon i gynyddu ein dealltwriaeth ein hunain o sut a pham mae pobl yn datblygu credoau lleiafrifol mewn cyd-destun ar-lein, ac i rannu'r mewnwelediadau hyn yn ehangach. Roeddem hefyd eisiau archwilio'r berthynas rhwng mathau o lythrennedd yn y cyfryngau a ffurfio credoau o'r fath.
Mae'r ymchwil yn darparu dealltwriaeth fanwl o'r ffyrdd y mae'r credoau lleiafrifol hyn yn datblygu, yn lledaenu ac yn effeithio ar y rhai sy'n eu dal, ac yn dangos pwysigrwydd gwybodaeth a sgiliau sylfaenol, yn ogystal ag ymddygiad, mewn ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.
Adroddiad llawn
Deall profiadau o gredoau lleiafrifol ar lwyfannau cyfathrebu ar-lein (PDF, 231.5 KB)