
Mae ein hymchwil diweddaraf yn rhoi cipolwg i ni ar sut mae pobl yn y DU yn treulio eu hamser ar-lein. Ble maen nhw'n mynd, beth maen nhw'n ei wneud, a sut maen nhw'n teimlo amdano.
Gyda phobl yn y DU yn treulio cyfran sylweddol o'u horiau deffro ar wefannau ac apiau – cyfartaledd dyddiol o bedair awr, gyda thair yn cael eu gwario ar ffôn clyfar – mae'n amlwg mae bod ar-lein yn rhan sylweddol o'n bywydau.
Mae ein hymchwil yn cyflwyno ystod o ganfyddiadau – felly rydym wedi crynhoi rhai themâu allweddol sy'n rhoi teimlad o brofiadau pobl ar-lein heddiw.
Mae’r manteision yn drech na’r risgiau
Mae dwy ran o dair o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sy'n 13 oed neu'n hŷn yn teimlo bod manteision bod ar-lein yn drech na'r risgiau, gyda chyfran lawer llai (7%) yn dweud bod y risgiau'n drech na'r manteision.
Roedd bron i hanner yn cytuno bod mynd ar-lein yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl, tra bod 14% yn anghytuno. Mae pobl sy'n treulio mwy na 22 awr yr wythnos o'u hamser personol ar-lein yn fwy tebygol o gytuno bod y manteision ar-lein yn drech na'r risgiau, a hefyd yn fwy tebygol o gytuno bod mynd ar-lein yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl.
Fodd bynnag, mae oedolion iau, menywod a phobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gredu bod y risgiau o fod ar-lein yn drech na'r manteision. Mae rhai o’r grwpiau lleiafrifoedd ethnig ddwywaith yn fwy tebygol na defnyddwyr gwyn o ddweud bod y risgiau o fod ar-lein yn drech na'r manteision. Mae menywod a phobl rhwng 18 a 34 oed yn fwy tebygol o anghytuno bod mynd ar-lein yn cael effaith gadarnhaol gyffredinol ar eu hiechyd meddwl. Ac mae menywod yn llawer llai tebygol na dynion o deimlo bod mynd ar-lein yn caniatáu iddynt rannu eu barn a chael llais.
Gwlad o siopwyr ar-lein
Dywedodd naw o bob deg oedolyn sydd ar-lein eu bod wedi ymweld ag Amazon, sef y llwyfan siopa ar-lein yr ymwelwyd ag ef fwyaf. Y manwerthwyr ar-lein a ddefnyddiwyd fwyaf oedd eBay a siop Apple.
Ond nid manwerthwyr ar-lein yn unig sy'n elwa o'n parodrwydd i bori a phrynu ar-lein. Mae ein ffigurau'n dangos i ni fod y deg safle siopa mwyaf poblogaidd yn cynnwys manwerthwyr sydd hefyd â phresenoldeb ar ein strydoedd mawr, gydag Argos, Tesco, Boots, Sainsburys a Marks & Spencer i gyd yn ymddangos.
Safle | Manwerthu a masnach | Cyfanswm cyrhaeddiad oedolion ym mis Medi (miliwn) | Cyfanswm cyrhaeddiad oedolion ym mis Medi |
---|---|---|---|
1 | Amazon | 44.6m | 89% |
2 | eBay | 33.3m | 67% |
3 | Apple | 23.1m | 46% |
4 | Argos | 19.3m | 39% |
5 | Tesco | 16.1m | 32% |
6 | Google Shopping | 14.0m | 28% |
7 | Etsy | 13.6m | 27% |
8 | Boots | 13.4m | 27% |
9 | Sainsbury's | 12.9m | 26% |
10 | Marks & Spencer | 12.5m | 25% |
Chwilio am gariad ar-lein
Mae un o bob deg oedolyn yn y DU sydd ar-lein yn dweud eu bod wedi defnyddio gwasanaeth chwilio am gariad ar-lein. Mae chwilio am gariad ar-lein yn arbennig o boblogaidd ymhlith defnyddwyr y rhyngrwyd 25-34 oed, gydag un o bob pump o'r rhain yn ymweld ag o leiaf un gwasanaeth. Tinder oedd yr un mwyaf poblogaidd a ddefnyddiwyd, gan 1.9 miliwn (4%) o bobl, a dyma'r gwasanaeth mwyaf poblogaidd ymhlith grwpiau oed iau.
Ond nid yw chwilio am gariad ar-lein ar gyfer pobl iau yn unig. Gwnaeth 1% o bobl dros 65 oed ymweld ag ‘OurTime’, gwasanaeth chwilio am gariad ar gyfer pobl dros 50 oed, sef y gwasanaeth yr ymwelwyd ag ef fwyaf ar gyfer y grŵp oedran hwn.
Mae pobl sy’n chwarae gemau yn greaduriaid cymdeithasol
Mae ychydig dros hanner yr oedolion sy'n chwarae gemau fideo ar gonsolau yn gwneud hynny ar-lein gyda rhywun arall - ac mae hyn yn codi i ddwy ran o dair o bobl 16 i 24 oed. Mae tri chwarter y plant rhwng tair a 15 oed hefyd yn chwarae ar-lein gydag eraill – mae'r rhain yn cynnwys pobl y maent yn eu hadnabod, a hefyd pobl nad ydynt erioed wedi cwrdd â nhw.
Treuliodd chwaraewyr gemau y DU rhwng 13 a 64 oed saith awr a hanner yr wythnos yn chwarae gemau. Daeth gemau ar-lein yn fwyfwy pwysig i blant 8-17 oed yn ystod y pandemig: dywedodd 85% o rieni'r plant hyn fod eu plentyn wedi treulio mwy o amser yn chwarae gemau ar-lein yn 2021 nag o’r blaen.
Ar gyfartaledd, mae chwaraewyr gemau’r DU yn gwario mwy ar ddigidol nag ar brynu gemau corfforol; mae hyn yn cynnwys gwasanaethau tanysgrifio. PlayStation Plus, y consol ar-lein aml-chwaraewr, oedd y tanysgrifiad mwyaf poblogaidd y telir amdano yn y DU, gyda 3.2 miliwn o danysgrifwyr ar ddiwedd 2021. Mae miliynau o bobl hefyd yn chwarae gemau digidol am ddim – gyda Candy Crush Saga a Wordle ymhlith y mwyaf poblogaidd o'r gemau hyn. Dywedodd un o bob pump oedolyn yn y DU wrthym eu bod yn chwarae gemau fel y rhain o leiaf bob mis.
A phan nad ydyn nhw'n chwarae gemau, mae pobl yn gwylio eraill yn eu chwarae yn lle hynny. Mae dros hanner y bobl rhwng 13 a 64 oed yn gwylio cynnwys sy'n gysylltiedig â gemau fideo, gyda llawer yn dweud ei fod yn gwneud iddynt deimlo'n rhan o'r gymuned chwarae gemau. YouTube yw'r llwyfan mwyaf poblogaidd ar gyfer gwylio cynnwys sy'n gysylltiedig â gemau, a ddefnyddir gan dri chwarter o bobl o’r garfan hon. Ac mae Twitch, y gwasanaeth ffrydio gemau, yn cael ei ddefnyddio gan chwarter gwylwyr cynnwys gemau.